gan Gwen » Gwe 11 Maw 2011 4:45 pm
Be' 'di'ch hoff arogl chi?
Gwair newydd ei dorri. Yn anffodus wedyn mae fy llgada fi'n dechra cosi ac yn chwyddo, ond dwi *yn* licio'r ogla.
Disgrifiwch eich atgof cyntaf.
Cyfres o rai cynnar sydd gen i, a fedra i ddim deud pa un ydi'r cynhara. Ond dwi'n meddwl ella mai'r rhai am Taid Sling ydi'r rheini gan iddo farw y diwrnod ar ôl fy mhen-blwydd i'n dair. Felly: cerdded fyny'r allt yn Sling ar ei draed o; ista ar y wyrctop yn ei sied o a chal chwara efo'r sgriwdreifars bach; canu Brest Pen Coed efo fo; a mynd i'w weld o yn yr hen C&A wedi iddo fo gael trawiad (dau atgof ynglyn â hyn: cael row am drio tynnu'r plynjars bach oddi arno fo a methu'n lân â dallt pam ei bod hi'n nos erbyn i ni fynd allan pan oedd hi wedi bod yn ola dydd arnan ni'n mynd i mewn). Ac o gwmpas yr un cyfnod, cyfarfod fy chwaer am y tro cynta yn Ysbyty Dewi Sant. A meddwl 'hyll' (sy'n berffaith wir). A sglaffio'r Terry's Chocolate Orange on i di ddwad i Mam i gyd fy hun am nad oedd na neb yn fy stopio fi - pawb wedi mopio am y babi newydd, hyll. A thrio cuddiad y ffaith mod i'n sâl wedyn rhag i rywun sylwi mod i di buta'r holl beth. A'r siom, ar ôl wythnosa o ateb y cwestiwn, "Wyt ti'n edrach ymlaen i gael brawd neu chwaer bach i chwara efo chdi?", ei bod hi'n gwmni mor anniddorol. Dwi'n cofio bron pob peth o'r tair oed ymlaen, ond mae'r atgofion yna i gyd o fod yn ddwy.
Pa lyfr 'da chi'n ei ddarllen? 'Dio'n da i wbath?
Ar fin dechra Pantglas, nofel newydd Mihangel Morgan. Swnio'n dda yn ôl y darlleniadau yn y lansiad.
Crempog- Be' ddylia fod ar ei ben o?
Chesh i'm crempog leni gan mod i'n mynd i weld ffilm yn syth ar ôl gwaith. Ond hufen ia. Er, mi oedd y Café Noir (gynt) yn arfer gneud rhei sawrus neis hefyd. Dwi'n trio cofio be oedd yr un neis na rwan... chwadan a cyrainj duon oedd un, ond mi oedd na un neisiach... Ymm... Dwi'm yn cofio. Ond mi oedd o'n neis. Biti i mi gadw draw o'r lle am flwyddyn a mwy ar ôl gneud ffwl meddw ohona i'n hun yn yfed gwin fel cath.
Pam 'dwi'n gofyn y cwestiyna' 'ma?
Am ei bod hi'n ddydd Gwenar. Ac ella am fod dy chwaer wedi newid ei chyfrinair fel na fedri di ddal i'w ffrêpio hi ac nad wyt ti'n gwybod be i neud efo chdi dy hun o ganlyniad?
Mwy no thân mewn eithinen.