Tudalen 1 o 1

Pump am y Penwythnos 11.3.11

PostioPostiwyd: Gwe 11 Maw 2011 1:35 pm
gan Manon
Be' 'di'ch hoff arogl chi?

Disgrifiwch eich atgof cyntaf.


Pa lyfr 'da chi'n ei ddarllen? 'Dio'n da i wbath?

Crempog- Be' ddylia fod ar ei ben o?

Pam 'dwi'n gofyn y cwestiyna' 'ma?

Eeeeeewwwwww rhain ydi'r mwya' cachlyd ERIOED.

Re: Pump am y Penwythnos 11.3.11

PostioPostiwyd: Gwe 11 Maw 2011 1:37 pm
gan Manon
Be' 'di'ch hoff arogl chi?
Cotwm newydd ei smwddio. Yn anffodus, 'dwi byth yn smwddio.

Disgrifiwch eich atgof cyntaf.

Delyth yn Ysgol Feithrin yn lluchio lori fawr blastig ar Cadi.

Pa lyfr 'da chi'n ei ddarllen? 'Dio'n da i wbath?
Toast gan Nigel Slater, ac yndi, mae o'n briliant.


Crempog- Be' ddylia fod ar ei ben o?

Nionod, pepperoni a mozzarella. 'Dwi'n hollol posh.

Pam 'dwi'n gofyn y cwestiyna' 'ma?
Achos bo' gin ti lwyth o olchi a llnau i'w wneud, y gojan ddiog.

Re: Pump am y Penwythnos 11.3.11

PostioPostiwyd: Gwe 11 Maw 2011 2:12 pm
gan ceribethlem
Be' 'di'ch hoff arogl chi?
Bara'n pobi.

Disgrifiwch eich atgof cyntaf.
Sefyll ar ben y tricycle er mwyn ceisio bod yn dalach na mrawd. 'Wy bellach rhyw 4 modfedd yn dalach na'r midjet 6'3"!

Pa lyfr 'da chi'n ei ddarllen? 'Dio'n da i wbath?
New Jerusalem gan John Meaney. Stori am Ddaear amgen, lle mae tirogaeth Iddewig (New Jerusalem) wedi ei leoli mewn rhan o'r Almaen yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. Albert Einstein ye Arlywydd New Jerusalem, ac mae'r stori yn dilyn un o'r secret agents yn ceisio atal ei lofruddiaeth gan y Black Path, sef gweddill y Natsiaid.

Crempog- Be' ddylia fod ar ei ben o?
Lemwn a menyn hallt.

Pam 'dwi'n gofyn y cwestiyna' 'ma?
Er mwyn ffeindio llyfr gwerth ei ddarllen?

Re: Pump am y Penwythnos 11.3.11

PostioPostiwyd: Gwe 11 Maw 2011 3:26 pm
gan osian
Be' 'di'ch hoff arogl chi?
Tu allan wedi iddi lawio

Disgrifiwch eich atgof cyntaf.
Bod yn styc yn fy nghadair uchel ar ben fy hun yn y gegin, a Meurig yr Iodlwr ar y radio. Hence fy ofn o iodlo. Dwi'n shwr mod i wedi atab y cwestiwn yma o blaen...

Pa lyfr 'da chi'n ei ddarllen? 'Dio'n da i wbath?
All the Pretty Horses - Cormac McCarthy. Yndi, ma'n dda iawn, taswn i'n cael llonydd i'w ddarllen o gan y mynydd o betha erill ddylwn i fod yn ddarllen

Crempog- Be' ddylia fod ar ei ben o?
Siwgr a lemon a jam cyrans duon

Pam 'dwi'n gofyn y cwestiyna' 'ma?
'Run rheswm a pam dwi'n eu hateb nhw am wn i.

Re: Pump am y Penwythnos 11.3.11

PostioPostiwyd: Gwe 11 Maw 2011 3:44 pm
gan bartiddu
Be' 'di'ch hoff arogl chi?
Mmmm mae'n ddewis rhwng petrol wrth llenwi'r cerbyd, neu Chanel No5 ar menyw ber..

Disgrifiwch eich atgof cyntaf.
Brotherhood Of Man - Save Your Kisses For Me http://www.youtube.com/watch?v=ykKNC6NjgMc :wps:

Pa lyfr 'da chi'n ei ddarllen? 'Dio'n da i wbath?
The Gods Of Eden - William Bramley :ofn:

Crempog- Be' ddylia fod ar ei ben o?
Menyn Jam a Siwgir :P

Pam 'dwi'n gofyn y cwestiyna' 'ma?
Syrfedwch? :ffeit:

Re: Pump am y Penwythnos 11.3.11

PostioPostiwyd: Gwe 11 Maw 2011 4:18 pm
gan Hogyn o Rachub
Be' 'di'ch hoff arogl chi?

Saws pasta ffresh. Swni'n ei goginio jyst am yr arogl! Er, mae porc yn ail agos iawn!

Disgrifiwch eich atgof cyntaf.

Penblwydd rhywun yn neuadd y pentra yn Rachub - dwi'n cofio bwyta un o'r pethau bisgedi cylch 'na efo eisin ar ei phen!

Pa lyfr 'da chi'n ei ddarllen? 'Dio'n da i wbath?

Rhag fy nghywilydd ... dwi'm yn darllen llyfr o unrhyw fath ar y funud!

Crempog- Be' ddylia fod ar ei ben o?

'Mond siwgr a menyn a'i fwyta'n gynnas. Mae unrhyw beth arall yn gabledd.

Pam 'dwi'n gofyn y cwestiyna' 'ma?

Ti'n bored. Ti'n uffernol o bored.

Re: Pump am y Penwythnos 11.3.11

PostioPostiwyd: Gwe 11 Maw 2011 4:45 pm
gan Gwen
Be' 'di'ch hoff arogl chi?
Gwair newydd ei dorri. Yn anffodus wedyn mae fy llgada fi'n dechra cosi ac yn chwyddo, ond dwi *yn* licio'r ogla.

Disgrifiwch eich atgof cyntaf.
Cyfres o rai cynnar sydd gen i, a fedra i ddim deud pa un ydi'r cynhara. Ond dwi'n meddwl ella mai'r rhai am Taid Sling ydi'r rheini gan iddo farw y diwrnod ar ôl fy mhen-blwydd i'n dair. Felly: cerdded fyny'r allt yn Sling ar ei draed o; ista ar y wyrctop yn ei sied o a chal chwara efo'r sgriwdreifars bach; canu Brest Pen Coed efo fo; a mynd i'w weld o yn yr hen C&A wedi iddo fo gael trawiad (dau atgof ynglyn â hyn: cael row am drio tynnu'r plynjars bach oddi arno fo a methu'n lân â dallt pam ei bod hi'n nos erbyn i ni fynd allan pan oedd hi wedi bod yn ola dydd arnan ni'n mynd i mewn). Ac o gwmpas yr un cyfnod, cyfarfod fy chwaer am y tro cynta yn Ysbyty Dewi Sant. A meddwl 'hyll' (sy'n berffaith wir). A sglaffio'r Terry's Chocolate Orange on i di ddwad i Mam i gyd fy hun am nad oedd na neb yn fy stopio fi - pawb wedi mopio am y babi newydd, hyll. A thrio cuddiad y ffaith mod i'n sâl wedyn rhag i rywun sylwi mod i di buta'r holl beth. A'r siom, ar ôl wythnosa o ateb y cwestiwn, "Wyt ti'n edrach ymlaen i gael brawd neu chwaer bach i chwara efo chdi?", ei bod hi'n gwmni mor anniddorol. Dwi'n cofio bron pob peth o'r tair oed ymlaen, ond mae'r atgofion yna i gyd o fod yn ddwy.

Pa lyfr 'da chi'n ei ddarllen? 'Dio'n da i wbath?
Ar fin dechra Pantglas, nofel newydd Mihangel Morgan. Swnio'n dda yn ôl y darlleniadau yn y lansiad.

Crempog- Be' ddylia fod ar ei ben o?
Chesh i'm crempog leni gan mod i'n mynd i weld ffilm yn syth ar ôl gwaith. Ond hufen ia. Er, mi oedd y Café Noir (gynt) yn arfer gneud rhei sawrus neis hefyd. Dwi'n trio cofio be oedd yr un neis na rwan... chwadan a cyrainj duon oedd un, ond mi oedd na un neisiach... Ymm... Dwi'm yn cofio. Ond mi oedd o'n neis. Biti i mi gadw draw o'r lle am flwyddyn a mwy ar ôl gneud ffwl meddw ohona i'n hun yn yfed gwin fel cath.

Pam 'dwi'n gofyn y cwestiyna' 'ma?
Am ei bod hi'n ddydd Gwenar. Ac ella am fod dy chwaer wedi newid ei chyfrinair fel na fedri di ddal i'w ffrêpio hi ac nad wyt ti'n gwybod be i neud efo chdi dy hun o ganlyniad?