Tudalen 1 o 1

pump am y penwythnos dolig 2014

PostioPostiwyd: Gwe 05 Rhag 2014 10:58 am
gan mam y mwncis
1. Beth yw rheolau agor anrhegion tŷ chi?

2. beth yw eich hoff gan nadoligaidd

3. y cinio nadolig perffaith

4. yr anrheg waethaf I chi ei dderbyn

5. Y rhan orau I chi gael mewn drama nadolig / Drama Geni

Re: pump am y penwythnos dolig 2014

PostioPostiwyd: Gwe 05 Rhag 2014 1:09 pm
gan Macsen
mam y mwncis a ddywedodd:1. Beth yw rheolau agor anrhegion tŷ chi?


Dim ond bod digon o amser i gofnodi enw'r person anfonodd yr anrheg - popeth yn iawn!

mam y mwncis a ddywedodd:2. beth yw eich hoff gan nadoligaidd


Pwy sy'n dwad dros y bryn, gan Plant Duw.

mam y mwncis a ddywedodd:3. y cinio nadolig perffaith


Twrci, tatws, grefi, sosejys bach efo bacwn o'u cwmpas, ayyb, mmmmm... dim brocoli dim sbrowts.

mam y mwncis a ddywedodd:4. yr anrheg waethaf I chi ei dderbyn


Sticeri gan hen anti gyda fy enw ar bob un. Yr unig broblem yw nad 'Iwan' yw fy enw.

mam y mwncis a ddywedodd:5. Y rhan orau I chi gael mewn drama nadolig / Drama Geni


Does gen i ddim cof cymryd rhan erioed! Mae un o'r merched yn seren eleni.