Tudalen 1 o 1

24 Hour Party People!!!

PostioPostiwyd: Iau 05 Meh 2003 11:43 am
gan The Man With Salt Hair
Sweet o ffilm,Insight Ideal i fewn ir FACTORY days.Be ydach chi'n feddwl?

PostioPostiwyd: Iau 05 Meh 2003 11:47 am
gan Mihangel Macintosh
Nes i rîlî fwynhau e. Ffilm ddiddorol a doniol hefyd. Hoffi'r ffordd roedden nhw jyst yn cymysgu lan pethe nath ddigwydd go iawn a streaon oedd o bosib ddim yn wir, ond yn rhan o chwedloniaeth Factory.

PostioPostiwyd: Iau 05 Meh 2003 11:51 am
gan kamikaze_cymru
nesi fwynhau o, steve coogan yn bod yn alan partridge ar brydiau hefyd. Da bod Tony Wilson (ne bebynag di enw fo dwim yn cofion iawn) yn cymyd y piss allan ohonoi hun. piti bod na ddim mwy o'r stone roses ynddo fo.

PostioPostiwyd: Iau 05 Meh 2003 12:02 pm
gan Mihangel Macintosh
Ie, cytuno am y sylwadau Alan Partrige-aidd!

Ma na loads o cameos yn ymddangos yn y ffilm hefyd - Mani o'r Stone Roses yn ddyn sain yn un o soundchecks anrhefnus yr Happy Monday's:

Tony: "Where's Shaun? Where the fuck is he? Your supposed to be on in two hours..."

A hefyd Mark E.Smith yn y ciw ar noson agoriadol yr Hacienda yn cael un lein!

PostioPostiwyd: Iau 05 Meh 2003 3:13 pm
gan Capwt
Aye class. MAen debyg bod Partrij wedi ei seilio ar Tony Wilson, felly maer pobol sydd yn deud bod Steve Coogan jyst yn actio fel Partrij yn y ffilm angen ail feddwl. Hefyd brawd Steve Coogan ydy Martin Coogan prif leisydd y Mock turtles (vodafone ad- "can you dig it etc etc") band or 90's cynnar. Mae actorion y brodyr Ryder yn wych.A Bez!! ond angen gwylio y ffordd mae'r boi yn cerdded i wybod bod o yn Genius. Reference yn y film am Rhyl, a hefyd ambell i scene wedi ei ffilmio yn Gaer, felly ganddo flas North East Wales am dan o. Felly plant y Gorllewin dewch i Brestatyn a Rhosllanerchrugog am amser da haf ma ar eich "holides".Roll up! Roll up! £5 i gwffio efo sgowsar, £10 am y fraint o cael eich waled wedi ei gipio gan Fanc a £100 i gael bisso ar lawnt cartref Michael Owen (ddim yn cynnwys y biss).

PostioPostiwyd: Iau 05 Meh 2003 8:07 pm
gan nicdafis
(O'n i yn yr ysgol gyda gitarydd y Mock Turtles. Boi hyfryd. Oedd e mewn opera sebon am sbel, hefyd. Dydy hyn dim byd i wenud â'r ffilm, sori.)