Rhodri Nwdls a ddywedodd:
Iawn, oedd Jabas yn boblogaidd ac mae C'mon Midffild yn unigryw, ond be arall oedd yn llenwi'r amserlen bryd hynny? (All rywun enwi rhai?) Mae Talcen Caled wedi ailgynna'n ffydd yn nheledu Cymraeg (am y tro) a ma llawar yn lecio Con Passionate er nad ydi at y nant i.
Mae Caerdydd yn crap ddo.
Mae'm rhaid i mi amddiffyn Caerdydd chwaith. Dwi eithaf mwynhau o, ac mae'n bleser i syllu ar Rhian Green a Siwan Morris am awr.
Oce mae o'n 'glossy', ond mae pobl yn hoffi 'gloss' (Desparate Housewives, Hustle, Spooks....). Mae Talcen Caled yn ddrama da ond mae peth olaf mae rhai ohonom eisiau gwneud ar ol diwrnod o waith yw eistedd lawr ac edrych ar grwp o bobl Caernarfon yn ffraeo.