"Caerdydd"

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Ffrwchnedd wyllt » Sul 26 Chw 2006 10:22 pm

Fi yw biggest fan Caerdydd!! Onin meddwl bod o'i gyd yn brilliant. Bechod bo nhw di cal gwarad o 'Gareth'(ne Matthew whatever). Fo odd un o'r rhei gora ynddo fo, a'r stori rhwng fo ag 'Emyr' yn wych!!!

Oes na rywun yn gwybod pryd fydd y gyfres nesa 'mlaen?? Dwi jyst methu aros...
Rhithffurf defnyddiwr
Ffrwchnedd wyllt
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 153
Ymunwyd: Iau 26 Mai 2005 4:27 pm
Lleoliad: Fama

Postiogan Ray Diota » Maw 02 Ion 2007 11:20 pm

cyfres newydd newydd o'r cachu 'ma ar y ffor.

byddai'n gwylio os na fyddai eisioes 'di cal tug dros hollyoaks y noson honno...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: "Caerdydd"

Postiogan Mali » Llun 13 Chw 2012 8:51 pm

Sori am ddod a hen edefyn yn ei ôl yn de :winc: , ond dwi wrthi'n gweithio'n ffordd drwy'r gyfres ddrama 'Caerdydd' . Newydd orffen gwylio cyfres 2 allan o 5 . A hyd yn hyn , dwi'n mwynhau yn fawr iawn ! Hoffi'r actorion , yr actio , y stori ayb . Ddim at ddant pawb ella , ond mae'n ddrama afaelgar dros ben. Yr orau dwi 'di weld ers sbel . :D
Jyst rhagofn fasa rhywun arall yn hoffi ail ymweld a 'Caerdydd' , mae'r pump gyfres ar gael ar www.golyg.com
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: "Caerdydd"

Postiogan Josgin » Iau 16 Chw 2012 7:50 pm

Mali fach , mi oedd fy h-daid wedi croesi'r Iwerydd yn gynt yn 1861 na mae rhaglenni S4C . Ydach chi'n gobeithio dechrau edrych ar 'Fo a Fe' yn y dyfodol agos ?
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: "Caerdydd"

Postiogan Mali » Gwe 17 Chw 2012 3:37 am

LOL ..... Josgin bach, dim ond rwan da ni'n cael gweld rhaglenni S4C yng Nghanada. Diolch i Golyg.com , da ni'n cael 'dal i fyny' efo 'hen' raglenni teledu , yn ogystal a gweld rhai newydd. :D Fo a Fe ? Mae hynny yn mynd yn ôl lot. :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: "Caerdydd"

Postiogan iwe79 » Llun 21 Mai 2012 7:37 pm

Caerdydd y math gwaetha o ddramau Cymraeg! Rwtsh uffernol o sal. Be ydi'r tueddiad diweddar ma i leoli bob cyfres yng Nghaerdydd. Pwy ar y ddaear sydd isio dilyn hynt a helynt Cymry hunan-dybus Caerdydd?! Dramau wedi eu lleoli yn y gogledd a'r gorllewin, y dwyrain hyd yn oed, ond dim mwy o hanas ffycars gaerdydd
iwe79
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 4
Ymunwyd: Llun 21 Mai 2012 6:06 pm

Nôl

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron