Tudalen 1 o 14

"Caerdydd"

PostioPostiwyd: Sul 13 Maw 2005 8:49 am
gan Deryn Du
Ydy'r gyfres newydd yma'n dod i'r sgrin blwyddyn yma?

Unrhyw hanes bobl? :?:

PostioPostiwyd: Sul 13 Maw 2005 8:55 pm
gan Lodes Fech Glen
Be d Caerdydd?

PostioPostiwyd: Sul 13 Maw 2005 9:24 pm
gan Smyrffen
cyfres ambiti pobl ifanc dinas caerdydd fi'n credu. rhyw ddrama. ma ffrind i fi'n acto ynddo fe. ond sai mo rhagor.

PostioPostiwyd: Llun 14 Maw 2005 3:37 am
gan sbwriel
Ai S4C sy'n neud e? os taw e, se ddim yn disgwl iddo fod yn gret (following the great ol' S$C thing... tradition (la la la...) tradition! (fi di bod yn gwrando'n ormodol ar Topol yn amlwg.. ffwc o ganwr da... ta be...) )

Dwi'n dod o Gaerdydd, ac felly mae'n anodd i mi ddeall unrhywbeth fydd yn digwydd yno! h.y. ydy'r rhaglen yn mynd i ddilyn pobl real neu pobl con passionateaidd?

PostioPostiwyd: Llun 14 Maw 2005 9:50 am
gan Beti
Dwi'n meddwl mai Fiction Factory sy'n neud o. Ed Thomas sy 'di sgwennu o beth bynnag.

PostioPostiwyd: Sul 03 Ebr 2005 3:33 pm
gan dai mawr
Beti a ddywedodd:Dwi'n meddwl mai Fiction Factory sy'n neud o. Ed Thomas sy 'di sgwennu o beth bynnag.


Wel os taw Ed Thomas sy'n sgwennu hi dylai hi fod yn dda iawn. Sa i wedi clywed dim byd amdani eto. Fel arfer fyddwn i ddim yn gobeithio am ormod o S4C, ond wnes i fwynhau Con Passionate, felly gallai hon fod yn dda.

Hefyd wnes i fwynhau rhywfaint o Fondue Rhyw a Deinosors ac os cofia i'n iawn Ed Thomas oedd wedi naill ai sgwennu neu gyfarwyddo honna.

Unrhyw un ag unrhyw wybodaeth pellach amdani?

PostioPostiwyd: Sul 03 Ebr 2005 3:51 pm
gan garynysmon
Gobeithio fydd o'n byd debyg i'r rybish rhyfadd Fondue 'na. Doedd na ddim rhaglen ymlaen ychydig yn ol am griw o bobol Caerdydd yn byw mewn un ty? Unai fod gen i frith gof neu dwi jyst wedi drysu'n lan ar ol blynyddoedd o marsbar abuse. :?

PostioPostiwyd: Maw 05 Ebr 2005 10:45 pm
gan Taflegryn
'Y ty' oedd y rhaglen am pobl ifanc oedd yn rhannu ty yn Gaerdydd. Dwi'n meddwl fod 'Caerdydd' yn mwy fel coldfeet, mwy oedolaidd. Ed Thomas sy'n cyfarwyddo a Tinopolis/Fiction Factory ydy y cwmni cynhyrchu (ia Tinopolis as in Wedi 3 + 7)

PostioPostiwyd: Maw 05 Ebr 2005 11:20 pm
gan Sili
Dwi'n gwbod dim am y rhaglen yma, ond odd y teitl yn ddigon addas chos dwi newydd gael yn nerbyn i Gaerdydd i astudio meddygaeth! As in munud yma! :D Yay!!!

PostioPostiwyd: Mer 06 Ebr 2005 1:36 pm
gan Llefenni
Ww!
Llongyfarchiade Sili! :D :D :D

Edrch mlaen am fwy o bethe "weird" off Sbrec - ConPasion ydi sbarcio pobl di-Gymraeg dwi'n nabod i wylio teledu Cymraeg. Hir oes ysbryd Dennis Potter ddeda' i.