Tudalen 12 o 14

PostioPostiwyd: Sad 28 Ion 2006 12:53 am
gan huwwaters
Sori bod dwi'n hwyr yn neidio ar y bandwagon on ma hwn yn SOTHACH!

Be ydi plot y peth? Ta ydio dim ond yn dilyn shady a pedantic dealings ryw gast byswn i byth isio'i gweld?

O ble ddaeth y cast? Ma hwn yn waeth na'r Sunset Beach na oedd arfer a bod ar Channel 5, gyda cymeriadau'n siarad i'w hunain, i ddangos be yr oeddent yn ei feddwl.

Who's who club S4C? Cadwch yn pres i'ch hunain na'i wastraffu ar raglen fel yma. O leiaf byddai mynd i Tiffany's yn rhoi ceinog neu ddau yn

PostioPostiwyd: Sad 28 Ion 2006 3:04 pm
gan Poisoned Dwarf Bach
Dwi'n edrych ymlaen yn fawr i wylio'r rhaglen ma pan dwin mynd nol adra (mam yn recordio fo i fi) yn ystod hanner tymor. O be welis i dros y Dolig, odd yr adverts yn edrych yn dda, a ma'n edrych fel wbath swni'n licio! A ma rhan fwyaf ohonach chi yn licio fo so ma raid bod on dda!

PostioPostiwyd: Llun 30 Ion 2006 10:13 am
gan Ray Diota
Geraint a ddywedodd:
Iesu Nicky Grist a ddywedodd:

Ma'n rhaid fi weud, pan o'dd hi'n llefen yn toilets ar ol y ment, na'th e atgoffa fi o biwt o nosweth ges i ar coke :lol: Sdim byd yn well na llefen yn bogs :lol:


Ond dim ond un lein odd hi di cal!

Rhaid fod en ril gwd shit.



:lol:

un llinell, geraint, llinell.

a ma raid bod e'n shit o'r radd flaenaf...

PostioPostiwyd: Llun 30 Ion 2006 2:33 pm
gan docito
huwwaters a ddywedodd:Sori bod dwi'n hwyr yn neidio ar y bandwagon on ma hwn yn SOTHACH!

PostioPostiwyd: Mer 01 Chw 2006 10:18 pm
gan Dwalad
Wel newu roir teledu mlaen a heb wylio Caerdydd o`r blaen, gymrodd hi bron i 5 munud i fi sylwi ma rhaglen yn y gymraeg odd hi! Oes na wir angen yr holl saesneg ma?

PostioPostiwyd: Iau 02 Chw 2006 9:45 am
gan Iesu Nicky Grist
'Mond y 5 muned d'wetha weles i neithiwr.

:( Ddim yn bles gyda cherddediad Ryland Teifi mewn wellies. O'dd e ddim digon convincing. O'dd e fod i edrych yn grac wrth ger'ed bant, dim fel towny mas o le. Dim y boi 'ma 'na'th headbutt Ray Winstonaidd yn y bennod gynta. Ishe bach mwy o bractice arno fe. C'mon :rolio:

PostioPostiwyd: Iau 02 Chw 2006 8:57 pm
gan Iestyn ap
Iesu Nicky Grist a ddywedodd:Ddim yn bles gyda cherddediad Ryland Teifi mewn wellies. O'dd e ddim digon convincing. O'dd e fod i edrych yn grac wrth ger'ed bant, dim fel towny mas o le.


Sylwes i ar 'na 'fyd. O'dd e'n dishgwl fel os o'dd e ishe cerdded yn gyflymach, ond do'dd 'na ddim digon o le ar y location set, neu tasse fe fod wedi cwmpo oddi ar t^o'r adeilad. :lol:

PostioPostiwyd: Iau 16 Chw 2006 3:42 pm
gan Nanw
Welodd unrhyw un Caerdydd neithiwr?

Dwi wedi bod yn amyneddgar, ac wedi joio lot o'r gyfres ond ro'dd neithiwr yn ffars llwyr.

Ma angen i bethe fod yn symud erbyn nawr ac mae'r plot yn aros yn ei hunfan braidd.

Neithiwr, ro'n i'n gwylio gyda ffrind a nath y ddwy ohonom ni rhagweld yn union be' oedd yn mynd i ddigwydd ym mhob golygfa bron.

Wedi dweud hyn, mae 'na actorion da iawn - yr hen Reiland, Rhodri Meilyr ac eraill ond mae rhai cymeriadau wedi troi mewn i stereotypes llwyr ac yn dechre mynd ar fy nerfe i.

Dwi jest yn teimlo bydde'r gyfres wedi bod ar ei hennill o gael nifer o sgwennwyr yn gweithio ar wahanol benodau er mwyn sicrhau fod y peth yn dynn, yn symud ac yn cynnig ambell tro yn y gynffon! Mae'r awdur yn llwyddo weithiau, yn wirioneddol felly, ac wedyn ma' 'na linell cheesy yn dod sy'n ddigon i wneud i chi moyn chwydu.

A hefyd, wy'n credu dylen nhw fod wedi galw'r gyfres yn 'Y Bae' am resymau amlwg ...

Os oes ail-gyfres (a bydd un siwr o fod) - mae'n RHAID i'r sgript drin y gwylwyr fel 'tai nhw'n bobl gyda gallu. Ar hyn o bryd, mae fel watcho neighbours yng Nghymru weithie.

TAD HOMOPHOBIC A'I FARN

PostioPostiwyd: Iau 16 Chw 2006 4:13 pm
gan Iesu Nicky Grist
Sai 'di gwylio Caerdydd ers sbel nawr. Fi di dod i benderfyniad am y show, a fel ffarmwr homophobic, fi'n stico iddo fe. Ond pan ofynnes i Dad os odd e 'di gweld un yn ddiweddar wedodd e -

"O'n i'n wotcho un pw' nosweth a o'dd hi'n myn' yn gwd 'an. O'dd y bachan 'na sy'n acto'n dda...yy....oo, beth yw 'i enw e 'to?"

"Ryland Teifi?"

"'Na ni, odd Reiland Teifi a menyw 'dag e, a wedyn da'th Llew miwn - fe'n sy'n acto'i frawd e t'wel'. Ond wedyn dorro nhw bant i'r ddou foi na, a goffes i droi e bant. Awwww. Sfffch...(lot o swne od fel ffarmwr pissed off/CB radio). Ma gas 'da fi'r peth. A ODD UN O NHW'N ACTO AR CON PASSIONATE!"

"Ie, ond acto ma' nhw'n neud Dad"

"IE, WI''N DEALL 'NY 'ACHAN. Ond sdim ishe fe, nagoes? Ma'n too much 'an. Ych a fi."

PostioPostiwyd: Iau 16 Chw 2006 4:37 pm
gan Nanw
Falch bo dad Iesu'n meddwl bod Ryland yn gwd yn acto. Gall e wotcho wthnos nesa te, achos ma'r ditectif odd yn mynd mas 'da'r boi sy' bia'r siop cds wedi marw - neithwr. Wy'n meddwl bod e'n actor da fyd, biti bod e wedi popo'i clogs.