Tudalen 13 o 14

PostioPostiwyd: Iau 16 Chw 2006 4:45 pm
gan Geraint
Weles i'r diwedd neithiwr. Odd ur un plots dal yn cael eu lusgo mas. Mae'n uffernol o wael.

Y darn gwaetha oedd y dyn 'caled' yn gweithio allan fod cop yn y siop, achos doedd dim Smokey Robinson yn y Motown section. "no Smokey in the Motown Section? What the hell's going on?" - wedyn ath en nyts a lladd rhywun.

:?

PostioPostiwyd: Iau 16 Chw 2006 4:55 pm
gan Iesu Nicky Grist
Nanw a ddywedodd:achos ma'r ditectif odd yn mynd mas 'da'r boi sy' bia'r siop cds wedi marw - neithwr. Wy'n meddwl bod e'n actor da fyd, biti bod e wedi popo'i clogs.


Dim bachan Con Passionate? :ofn:

Ti'n iawn, ma'n acto'r da. Fi'n siwr bo Dad yn cytuno 'fyd. Y busnes twtch a'i gily' dyw mo Dad lico. :lol:

PostioPostiwyd: Iau 16 Chw 2006 6:15 pm
gan khmer hun
I felt that there was far too much English in it last night; I genuinely did. It made me rather uncomfortable, as if what they'd really, honestly, wanted to produce was an urban, fast-paced BBC2 drama.

O, wps, sori. O'n i jyst yn meddwl bod hwnna'n ddarlun fwy gonest o fel mae bywyd really fel yng Nghymru heddi. :rolio:


(As if bod clywed Swci Boscawen yng nghefndir bwyty posh yn fwy realistig na proffesor yn cyflwyno ysgoloriaeth i'w fyfyriwr yn Gymraeg. Hymff. Fume)

PostioPostiwyd: Iau 16 Chw 2006 10:54 pm
gan Garnet Bowen
Nanw a ddywedodd:
Dwi wedi bod yn amyneddgar, ac wedi joio lot o'r gyfres ond ro'dd neithiwr yn ffars llwyr.

Ma angen i bethe fod yn symud erbyn nawr ac mae'r plot yn aros yn ei hunfan braidd.



Ti o ddifri? Mewn 5 (4?) pennod, 'da ni 'di cael 1 llofruddiaeth, 1 boi yn cael ei saethu, 1 suicide attempt 4 ffeit, mae 2 bethynas wedi cychwyn a gorffen. A mae pawb yn deud "Dwi'n dy garu di" o fewn 5 munud o gyfarfod ei gilydd. Symyd dipyn bach yn llai sydd ei angen, dwi'n meddwl.

PostioPostiwyd: Gwe 17 Chw 2006 9:35 am
gan Nanw
Gweud y gwir wy'n meddwl bod y bachan uwchlaw wedi taro'r hoelen ...

Ma'r rhaglen yn chydig o 'wannabe' rhaglen BBC 2 fel This Life neu rwbeth ond beth sganddo fe ddim yw'r edge .... y peth sy'n cadw chi i ddyfalu.

Dyw'r ffaith bod pobl yn marw, mynd mas da pobl a gweud 'caru ti' ddim yn symud pethe mlan os nagyw'r awduron a'r golygyddion yn cymryd cyfrifoldeb am y raglen ac yn mynd a'r gwylwyr ar drip. Fi'n teimlo bo fi angen bod ar drip weithie pan fi'n gwylio.

Wy'n meddwl bod e'n dod nol i broblem oesol gyda pethe yn y Gymraeg - ma 'na ddiffyg gwirioneddol o 'olygu creadigol', boed hynny gyda nofelau neu rhaglenni teledu. Mae'n rhywbeth yn ni'n wan iawn arno fe. Nid golygu rhywbeth yn ieithyddol ac ati yw'r unig olygu sydd angen ei wneud. Pam na all pethau fod yn fwy tynn? Dyw hi ddim yn wendid os oes golygyddion creadigol ar gael sy'n gallu cwestiynu 'integriti' neu hygrededd stori. Mae hynny'n gryfder. Sdim esgus gweud y gwir. Mae ieithoedd lleiafrifol eraill yn gallu darparu'r safon yna, ac arwain y ffordd mewn ambell achos.

PostioPostiwyd: Sad 18 Chw 2006 5:24 pm
gan Poisoned Dwarf Bach
Nanw a ddywedodd:Ar hyn o bryd, mae fel watcho neighbours yng Nghymru weithie.


Hei! Sna'm byd yn bod efo Neighbours! :)

PostioPostiwyd: Llun 20 Chw 2006 11:35 am
gan Darth Sgonsan
Nanw a ddywedodd:Wy'n meddwl bod e'n dod nol i broblem oesol gyda pethe yn y Gymraeg - ma 'na ddiffyg gwirioneddol o 'olygu creadigol', boed hynny gyda nofelau neu rhaglenni teledu. Mae'n rhywbeth yn ni'n wan iawn arno fe. Nid golygu rhywbeth yn ieithyddol ac ati yw'r unig olygu sydd angen ei wneud. Pam na all pethau fod yn fwy tynn? Dyw hi ddim yn wendid os oes golygyddion creadigol ar gael sy'n gallu cwestiynu 'integriti' neu hygrededd stori. Mae hynny'n gryfder. Sdim esgus gweud y gwir. Mae ieithoedd lleiafrifol eraill yn gallu darparu'r safon yna, ac arwain y ffordd mewn ambell achos.


dwi'n amau fod y ffaith mai sybsidi sy'n talu am raglenni Cymraeg, yn arwain at ddiffyg cwestiynu safon ag integriti sgript/stori.

fysa gorfod cystadlu am wylwyr er mwyn cael ail gyfres, yn hogi meddyliau ac yn rhoi pobol ar flaenau eu traed - fysa 'ennyn a chynnal diddordeb y gwyliwr' flaenaf ym meddylia'r cynhyrchwyr

dwi'n clywed geiriau actorion dramau Cymraeg, ac ar wahan i Povey, mae nhw'n swnio fel bod cyfresi cyfan wedi eu chwydu allan ryw ddeuddydd cyn dechra ffilmio

a pam bod golygfeydd shagio mor afrealistig mewn dramau Cymraeg? roedd Llew ar y bog (yn sbio fyny - graffiti diddorol ar y nenfwd efallai?) a hogan i fod yn isda arny fo, ond yn edrach fwy fatha bod hi'n gwasgu pin-afal pigog allan o'i phen-ol

PostioPostiwyd: Iau 23 Chw 2006 5:16 pm
gan el_06
A Mark Flananananagan yn trio'i ore i fod yn hwntw! Bless him! (O leiaf odd e yn swno tam bach fel rhywun o gymru.. dim fel y gwgli eyed fenyw na- smo twangs yn gweithio yn y gymraeg reit?!)

Fi'n dwli ar fel onhw'n trial fitto mewn mor gymaint o actorion ifanc cymraeg ag y gallen nhw yn y gyfres, a rhoi nhw mewn randym roles bach, e.e
Mark Flanananagan fel y brawd
Porc Pei fel y stiwdant dwp
A'r ferch na off darn o dir yn girlfriend ir plisman gay (bach yn pointless ir plot?)

On in hanner dishgwl i Gwynfor a Mal i boppo lan yn y Canteen, (siwr o fod yn styc mewn darts match yn y Deri) neu cast pam fi duw i gal reunion yn y noodle bar.

Ac os unrhwy un yn credu bod y cyfreithwr boi sy'n mynd da curly siw yn perthyn i Rowland o Jonathan?

PostioPostiwyd: Iau 23 Chw 2006 6:58 pm
gan Madrwyddygryf
Dywedodd ffrind i mi bod y sgript wedi dod o Iwerddon ac wedi'w drosi i'r Gymraeg. Mae hyn yn gwneud synnwyr i mi nawr, gan fod y cymeriadau mor generig. Mae'r plot yn cael ei yrru gan y stori ac nid ar sail penderfyniadau y cymeriadau.

PostioPostiwyd: Iau 23 Chw 2006 11:30 pm
gan Prysor
Ydi mae hyn yn wir, Madrwyddygryf. Roedd erthygl gyda Ed Thomas yn Golwg. Cafodd ei sgwenu ar gyfer Dulyn.

Dim ond y cyntaf neu'r ail a hanner un arall dwi wedi ei weld. Roedd be welis i'n dda iawn.