Dwi'n credu fod hi mond yn iawn i gael adran fach i bawb roi eu adolygiadau o'r ffilmiau yn fanma yn lle ychwanegu edefyn newydd am ffilm newydd bob tro.....
Gychwynnai efo Fausto 5.0
Syrpreis bach reit neis a deud y gwir, ffilm lled-ffantasi fodern wedi ei seilio ar stori Faust. Dilyn y doctor sy'n cael ei demtio a'i sediwsio gan ei alter ego, Santos. Wedi ei ffilmio yn washed out ond yn dal yn dal y llygad mewn dinas sydd yn edrych yn hollol afreal rywsut. A ma na genod Sbaeneg lysh ynddo fo... gwyliwch hi. Mond yn Gaerdydd am y tro, haslwch eich rhaglennwr lleol.