Y rheswm wnaeth Matrix 2 fethu oedd, yn fy marn i, achos eu bod nhw wedi cymryd llwyddiant y ffilm gynta'n ganiataol, ac wedi eistedd nol a cherdded drwy hon (sori am gymysgu fy nhrosiadau!). Y sgript yw'r broblem fawr - roedd yr actio a'r effeithiau yn wych - ond mae rhaid i'r sgript ddod yn gyntaf. Nes i chi gael sgript da, does dim ffilm gyda chi. "Plotting by numbers" oedd hyn. Defnyddion nhw'r cynllun plot hyna yn hanes y byd - ac rwy i'n gwybod rhywbeth am blotio. Ond does dim byd yn bod ar ddefnyddio hen blot, ond i chi ei wneud gyda steil fel bod eich cynulleidfa chi ddim yn sylweddoli hyn! Ychwanegwch at hyn y "pseudo" athroniaeth sy ddim yn gwneud unrhyw sens o gwbl! Ces i'n siomi, wir, ar ol y ffilm gynta a oedd yn hyderus, haerllug(yn yr ystyr orau), gwreiddiol a disglair.
I fynd yn ol at rywbeth ddywedais i gynnau ac ymhelaethu arno - yn fy marn i, y gwahaniaeth rhwng y ddwy ffilm "X2" a "Matrix Reloaded" oedd bod pobl "X Men" wedi sylweddoli bod eu ffilm gynta nhw wedi bod yn llwyddiannus, ac wedi meddwl "sut allwn ni wella ar hyn?", ac eisteddon nhw i lawr, siwr o fod, a thrafod a meddwl ac ystyried - a chreu ffilm llawer gwell y tro hwn. Wnaeth bobl y "Matrix" jest cymryd eu llwyddiant yn ganiataol, 'swn i'n meddwl. Mae'r effeithiau'n well - ond beth yw holl effeithiau'r byd heb sgript da?