Sequels, ych y fi

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Sequels, ych y fi

Postiogan nicdafis » Gwe 18 Hyd 2002 9:18 pm

Oes na sequel yn y byd sy'n werth ei gwylio, ar wahan â Godfather Part 2? Beth yw'r sequel gorau wyt ti wedi gweld ac oes 'na un sy'n well na'r ffilm wreiddiol (eto, ar wahan â G2, a fydd pawb ddim yn cytuno â fi yna, dw i'n siwr).
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Siani » Gwe 18 Hyd 2002 11:34 pm

Rwy ond yn gallu meddwl am un sequel arall sy'n well na'r ffilm wreiddiol, ond mae rhaid mynd reit nol i'r tridegau am honno - "Bride of Frankenstein" James Whale, sy'n bendant yn well na'i ffilm wreiddiol "Frankenstein".

Rwy wedi clywed sawl person yn dweud bod "The Empire Strikes Back" yn well ffilm na "Star Wars". Rwy'n siwr bod rhagor, a bydda i'n colli cwsg yn meddwl amdanyn nhw heno (diolch Nic!), ond dw i ddim yn credu bod un o'r ugain mlynedd diwethaf. Mae sequels (neu prequels) ond yn gweithio pan mae wir stori arall i'w dweud - fel gyda Godfather 2 a'r ffilmiau eraill uchod. Daw'r broblem pan nad oes stori arall, ond mae'r stiwdios eisiau gwneud arian drwy ail-dwymo'r un stori - ac mae'n amlwg yn gweithio (yn ariannol, beth bynnag) neu fyddan nhw ddim yn ei wneud eto.
Rhithffurf defnyddiwr
Siani
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 130
Ymunwyd: Sad 31 Awst 2002 9:01 pm
Lleoliad: Abertawe

Postiogan Bobi » Sad 19 Hyd 2002 2:21 pm

Wel... ma'r gyfres "Back to the future" yn eitha da... ond allai prin feddwl am sequel dda arall... "Blair Witch 2"?!!! Oedd y sequel honno hyd yn oed yn dweud mai ffilm oedd y wreiddiol!!!!!
Bobi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 64
Ymunwyd: Mer 16 Hyd 2002 12:43 pm

Re: Sequels, ych y fi

Postiogan Mihangel Macintosh » Sad 19 Hyd 2002 7:30 pm

nicdafis a ddywedodd:Oes na sequel yn y byd sy'n werth ei gwylio, ar wahan â Godfather Part 2


Godfather Part 3 wrthgwrs!
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan nicdafis » Sad 19 Hyd 2002 8:09 pm

Ti'n jocan, wrth gwrs?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Mihangel Macintosh » Sul 20 Hyd 2002 11:25 pm

Dwi'n meddwl fod y tri ffilm werth ei gwylio. Ok, falle diw y trydydd un ddim cystal ar ddwy gyntaf, ond mae'n sicr yn un da. I newid y cywair yn gyfangwbwl, ma Toy Story 2 gystal a'r gwreiddiol hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan fi » Llun 21 Hyd 2002 12:53 pm

Heb amheieth ma Empire Strikes Back ben ac ysgwyddau yn well na'r Star Wars gwreiddiol.

Beth am yr Indiana Jones's?...wy byth yn cofio ym mha drefn ma nhw'n dod.

A gobeitho y bydd yr ail yn y gyfres Lord Of The Rings yn well, achos odd y cynta, a bod yn onest, yn siom mawr - yn torri darnau helaeth a phwysig o'r stori allan ac yn ei wneud yn fwy o gartwn plentynaidd. Ma'n rhaid i'r ail fod yn well.
(er mod i heb eu gweld, ma rhai yn honni fod yr ail Rocky yn well na'r cynta - ond ffilmiau pants y'n nhw beth bynnag.)
fi
 

Postiogan nicdafis » Llun 21 Hyd 2002 1:28 pm

Cytunaf bod <i>Empire</i> yn well ffilm na <i>Star Wars</i> ar ran stori, fx a (siwr o fod) actio - mae'n sbel i mi ei gweld. Ond oedd SW yn ffilm bwysig iawn yn yr effaith y gâth hi ar ddiwylliant Hollywood. Cofia, cyn y 70au hwyr doedd dim llawer o sequels ar gael. Dw i ddim yn gallu meddwl o unrhywbeth (ar wahan ar Godfather 2, eto) cyn dechreuodd treadmill Star Wars, Rocky, Jaws, Indie, Star Trek ac yn y blaen.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan ceribethlem » Iau 31 Hyd 2002 10:09 pm

Oes na sequel yn y byd sy'n werth ei gwylio, ar wahan â Godfather Part 2?


Empire yn well na Star Wars wrth gwrs, ond nid dyma'r sequel gorau yn dechnegol gan ei fod wedi ei baratoi fel rhan o trilogy yn yr un modd a Back to the Future ac felly mae rhain yn exempt o'r holl drafodaeth (yn fy marn i).

Heb os nac oni bai y sequel goaru erioed yw:

.............................................

(Drum-roll plis!)

.............................................

Evil Dead 2
Sequel Gwych anhygoel a mwy!
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Siani » Gwe 27 Meh 2003 5:36 pm

Mae X2 yn well o lawer na'r ffilm gyntaf - wedi ei saernio'n llawer gwell, gyda mwy o uchafbwyntiau a chymeriadau diddorol.

Trueni bod y gwrthwyneb llwyr yn wir am "Martix Reloaded".
Rhithffurf defnyddiwr
Siani
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 130
Ymunwyd: Sad 31 Awst 2002 9:01 pm
Lleoliad: Abertawe

Nesaf

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron