Terminator 2, yn sicr?
Yn bersonol, dwin meddwl mai'r Godfather gyntaf yw fy ffefryn.
Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist
Siani a ddywedodd:Mae X2 yn well o lawer na'r ffilm gyntaf - wedi ei saernio'n llawer gwell, gyda mwy o uchafbwyntiau a chymeriadau diddorol.
Trueni bod y gwrthwyneb llwyr yn wir am "Martix Reloaded".
ceribethlem a ddywedodd:Un o'r problemau gyda sequels yw eu bod nhw "Yr un peth ond yn fwy".
Gan fod y ffilm cynta'n un mor llwyddiannus, mae nhw am ei ail-wneud, gyda budget mwy.
Mae'r hyn a wnaeth y ffilm cyntaf yn dda yn nhermau gwreiddioldeb bellach wedi ei cholli - gweler Termianator 2, Matrix 2, Die Hard 2 ayyb.
Mae Empire Strikes Back yn newid hyn gan fod y plot yn hollol wahanol i'r gwreiddiol, ond fel i mi grybwyll cyn hyn, nid sequel ydyw mewn gwirionedd ond yr ail bennod.
Mae'n rhaid cyfaddef fod Evil Dead 2 yn rip-off llwyr o'r Evil Dead, ond mae e' lawer gwaith yn well (a digwydd bod yr un welais i gyntaf oedd hi).
Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai