Tudalen 1 o 1

Real Story-Gormod o Saeson yn mynd allan i Sbaen

PostioPostiwyd: Maw 09 Awst 2005 11:53 am
gan Cymro13
Nath unrhywun weld hwn neithiwr ar BBC.
Er fod y rhaglen yn son am y nifer o Saeson oedd wedi symud allan i Sbaen ac yn colli eu cartrefi dan 'property law' Sbaen ond beth nath daro fi oedd fod teulu wedi symud allan o Sbaen a symud yn ol gan fod gormod o Saeson yn symud allan yna- Yn ol y rhaglen dim ond tua 4% o Saeson sydd yn symud allan Sbaen sy'n dysgu'r iaith ac yn cymysgu da'r bobl leol-Swnio bach yn gyfarwydd????

PostioPostiwyd: Mer 10 Awst 2005 8:47 pm
gan Yr_Ieithydd_o_Glwyd
Sdim digon o'r ffycars yn mynd. Creu eu ghetto's bach Saesnig, Nes i gwrdd a hen fenyw o Fuenguerola mewn becws, oedd yr ast gwirion yn gweiddi ar y Sbaenwr tu ol y cownter yn Saesneg. Pam nes i holi'r boi pwy o'dd y bits wirion, dyma fo'n egluro bod hi 'di byw yno ers 20 mlynedd a heb dysgu'r un gair o Sbaeneg.

Re: Real Story-Gormod o Saeson yn mynd allan i Sbaen

PostioPostiwyd: Gwe 24 Rhag 2010 4:18 pm
gan ENGLISH
Yr_Ieithydd_o_Glwyd a ddywedodd:Sdim digon o'r ffycars yn mynd. Creu eu ghetto's bach Saesnig, Nes i gwrdd a hen fenyw o Fuenguerola mewn becws, oedd yr ast gwirion yn gweiddi ar y Sbaenwr tu ol y cownter yn Saesneg. Pam nes i holi'r boi pwy o'dd y bits wirion, dyma fo'n egluro bod hi 'di byw yno ers 20 mlynedd a heb dysgu'r un gair o Sbaeneg.


Paid ag anghofio bod dy sylwadau'n dal i fod yn weladwy ar y seiat ar ôl llawer o flynyddoedd, a bod rhai o'r darllenwyr yn Saeson. Felly bydd dy sarhadau, megis "ffycars" ac "ast gwirion", yn sboncio nol i dy daro lle mae'n brifo, gan eu bod nhw'n adlewyrchu'n fwy arnat dy hun nag ar y bobl a wnest ti fwriadu eu sarhau. A ble mae "Fuenguerola"? Dwi erioed wedi clywed am y lle hwnnw, er fy mod i wedi clywed am Fuengirola ger Málaga yn Andalucía. Petaet ti'n parchu'r iaith a diwylliant Sbaeneg dy hun, fyddet ti ddim wedi gwneud llanast o enw'r lle, ieithydd bach.

Re: Real Story-Gormod o Saeson yn mynd allan i Sbaen

PostioPostiwyd: Gwe 24 Rhag 2010 10:20 pm
gan Duw
Ho, ho, ho. A Nadolig Llawen i bawb, boed chi'n bitsys gwirion, amddiffynwyr bitsys gwirion neu am ladd bitsys gwirion. :lol: