Ffilmiau gorau?

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ffilm orau 2002

Spider-man
2
13%
Atack of the Clones
3
19%
Men in Black 2
1
6%
Rhywbeth arall
10
63%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 16

Ffilmiau gorau?

Postiogan nicdafis » Llun 19 Awst 2002 8:45 pm

Er mwyn profi y peth pôl piniwn, beth yw dy hoff ffilm hyd yn hyn eleni?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Prysor » Llun 19 Awst 2002 10:34 pm

:ofn: Hoff ffilm y flwyddyn ddwythaf ydi 'Fear and Loathing in Las Vegas'. Ffantastic, a dim yn sbwylio'r llyfr chwaith..
Mae eleni wedi bod yn reit wan am ffilmiau da a cryf. Wedi deud hynny, aros nes mae nhw allan ar video i rentio ydwi cyn eu gweld. Felly dydwi heb weld yr un o'r ffilms yn y pol piniwn eto! Ond mae fy mhlant bach wedi gweld Spiderman ar gopi gafodd met imi o'r we cyn ei release. Er bo fi fewn i Sci-fi big teim ('Event Horizon' - swperb), sgennai ddim ffansi y Star Wars cyfres newydd achos dwi yn ofni iddynt sbwylio gwefr y rhai cyntaf (deinosor).
Ond dwi wedi prynnu Lord of the Rings. Mae mor dda ag oeddwn yn
ddisgwyl, dim mwy. Ond - oni YN disgwyl rwbath da iawn. Mi oedd hi, ond ddim wedi fy ysgwyd fel mae rhai wedi gwneud. Mae hi yn ffilm wych, ond rywsut mae adegau pan mae'r effects cefndirol yn edrych rhy gyfrifiadurol. Ond mi fyswn i'n licio bod yn frenin yr Elves! Be ydi ffefrynnau pawb? Hobbit ta corachod, Elfins ta goblins - ta Orks (chi grunge ffans!)

Mae'n rhyfedd, ond roedd 'Tora! Tora! Tora!' ymlaen pnawn ddoe. Roedd yr effects yn anhygoel o ffilm ei hoed, ac yn edrych yn real iawn. O weld clipiau o 'Pearl Harbour' ar raglenni teledu (fyswn byth yn gwylio'r sothach pro-American - er mai y good-guys oedd yr Iancs ar y pryd), mae'r computer generated shit ar honno yn edrych yn afreal. Dyna be sydd gennai ofn efo y Star Wars trilogy newydd.

Ffilm wnaeth fy symud oedd 'The Others', am ddau reswm - y stori wych, a Nicole Kidman. Da iawn a chofiadwy, ond eto, ddim wedi dod drosodd fel 'ffantastic'.
Mae 'Lord of the Rings' a 'The Others' yn top drawer fodd bynnag.

Roedd 'The Dish' yn un dda iawn hefyd.
Dwi newydd gofio - 'Mean Machine' - ffycin excellent. Gwatsiwch hi. Lot gwell na'r 'comedi' warthus na efo James Nesbitt a Mr Picton, 'Lucky Break'. Erchyll!

Ond ffilms Cult a ffilms gangsters ydi fy nhast. Ac off the cuff, yr un dwi di weld yn y flwyddyn dwytha sydd wedi sefyll allan yw 'Brother'.
'Leon' sy'n wefreiddiol hefyd. Ac un wirioneddol wych dwi wedi brynnu ar video ail law - 'Some Mother's Son'.

Mae Se7en yn un o fy ffefrynnau gweddol ddiweddar, a 'Snatch' a 'Devil's Advocate'. 'Battle of Algiers' hefyd yn masterpiece. 'Casino', 'Pulp Fiction', 'Goodfellas'. 'Salvador' a 'The Killing Fields', excelente senior. 'Cinema Paradiso' - gwych! 'Face' - gwych!
A welodd rywun 'Apt Pupil' ar y bocs neithiwr?
Y ffilm mwya hileriys dwi erioed wedi ei gweld ydi 'Les Visiteurs'. Mai mor ddigri (mewn ffordd wahanol) a fy ffefrynnau eraill, 'Life of Brian' a 'Holy Grail'.

Dwi hefyd yn ffan mawr o Sbageti Westerns.

Am total escapism, dwi'n troi at James Bond. Hwyl pur! Gret!

Sori os yw hyn yn ymateb hir i'r pwnc, ond yn y dechrau fel hyn mae angen denu lot i mewn i ymateb. Digon o sgop yn famma rwan dwi'n meddwl! Fedrai ddim meddwl am fwy ar hyn o bryd.

Oes rhywun allan fanna yn ffan o rai o'r uchod? Cysylltwch a cawn sgwrs a rhannu diddirdebau.
Oes ffan arall o'r Sopranos allan yn fanna? Dwi'n nabod un arall (ffrind i mi) sydd efo'r un obsesiwn a fi am y gyfres RHAGOROL yma. 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Postiogan nicdafis » Llun 19 Awst 2002 11:13 pm

<i>Fear and Loathing</i>: Hunter Thompson, Terry Gilliam, Benito Del Toro, sôn am drindod o dalent. (Dw i'n rannu penblwydd gyda un ohonyn nhw, gyda llaw, a nid Gonzo yw e!) Ro'n i'n joio'r ffilm, doedd hi ddim yn <i>Brazil</i> wrth gwrs, ond mil well na'r rhan fwya o slop Hollywood.

<i>Lord of the Rings</i>: fel pob nerd yn y byd o'n i wedi bod yn aros am hyn ers cyn co. Aethon ni i'w gweld yn Wrecsam jyst ar ôl Nadolig, lwcus iawn i gael tocynnau. Dw i ddim yn gweld sut allen nhw fod wedi wneud ffilm well, yn wir, heb wneud ffilm lot hirach. Roedd cwpl o'r actorion tipyn bbach mas o'u lle (Agent Smith fel Elrond a Cate Blanchett fel spooky ice queen Galadriel - <i>beth</i> oedd yn digwydd 'na?) a'r hobbits ifainc fel rhywbeth mas o fersiwn midget <i>How Green Was My Valley</i>, ond ar wahan i hynny, bron yn berffaith. Prynais i'r DVD wythnos diwetha. Nef i'r nerdiaid.

Wnaeth y ddwy ffilm Star Wars diwetha olygu dim byd i mi ond hyn: dw i ddim yn ddeg oed bellach (nerdhwyl uchod notwithstanding). Hysbysebion teganau sinicaidd a plastig.

Welais i'r <i>Dish</i>. Neis iawn hefyd. Collais i'r <i>Others</i> ond fyddwn i'n gwylio Nicole Kidman mewn advert Pot Noodle. <i>To Die For</i>, yn wir.

Llawer o stwff da yn dy restr - dw i'n dwli ar Scorcese, Oliver Stone a'r bois 'na i gyd.

Ffilm gorau welais i'r llynedd oedd <i>Amore Perros</i>, ffilm o Mecsico. Anblydihygoel.

Hoff ffilm erioed yw <i>Two Lane Blacktop</i> - dyna ffilm Cult i ti...

Mae tymor newydd Cymdeithas Ffilmiau Aberteifi ar ddechrau mewn pythefnos. Ar ôl haf yn yr anialwch (gyda trip bach i Gaerdydd, eistedd yn euog yn y multiplex trwy'r dydd) bydd yn neis cael gweld ffilmiau go iawn 'to. Mae ganddyn nhw <i>Atanarjuat</i> (ffilm gyntaf mewn iaith yr Inuit) a <i>Battleship Potyomkin</i> o fewn y mis cyntaf.

Sopranos? Wel, wrth gwrs. :cwl:
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Di-Angen » Maw 20 Awst 2002 12:09 pm

Rwy'n gwylio dros gant o ffilmiau bob blwyddyn, dyma rhai o'r diweddarish rwy wedi mwynhau:

Spiderman - cool film

Insomnia - Robin Williams ac Al Pacino. Ffilm dditectif.

Road to Perdition - ffilm newydd Hanks. Eithaf araf o ran 'pace', ond mae'r stori yn dda.

Signs - un newydd M Night Shymalyan (neu rywbeth). Brilliant. Son am stori un teulu ymysg alien invasion.

Master of Disguise - ddim i dast bawb. Comedi newydd gan Dana Carvey - yn vein Austin Powers.

The Believer - ffilm wych. Ynglyn a Iddew ifanc sy'n dod i gasau ei grefydd, ac felly'n troi i fod yn neo-Nazi oherwydd hyn. Pwerus iawn.

A'r ffilmiau gwael:

Bad Company - Chris Rock a Tony Hopkins. "Comedi". Annioddefol.

Men In Black 2 - rewrite o'r cyntaf.

Reign of Fire - dreigiau da, ond ffilm eitha gwael ar ddiwedd y dydd.
Rhithffurf defnyddiwr
Di-Angen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 833
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 4:38 pm

Ffilmiau newydd

Postiogan nicdafis » Maw 20 Awst 2002 12:25 pm

Dyma'r unig peth dw i'n colli am beidio byw yng Nghaerdydd. Sa i wedi <i>clywed</i> o'r rhan fwya o'r ffilmiau 'ma.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Nicole, Sopranos etc.

Postiogan Prysor » Mer 21 Awst 2002 11:26 am

Ia, To Die For indeed! Y wraig yn dilyn y stori a fi jest yn oglio Nicole! Lurve!

Mae Scorsese a Stone ymhlith fy ffefrynnau innau hefyd. Yn enwedig Scorsese. Dwi'n meddwl fod Martin wedi gwneud y mwya i dorri ffiniau i lawr ym myd mainstream ffilmiau. Torri tabws, shocio ac ati, ond hefyd cael gwared o actio dramatig a poblogeiddio portreadu naturiol. Travis Pickle - DeNiro yr unknown yn cael ei bigo fyny gan Scorsese. Dwi'n licio'r stori am yr adeg oeddynt yn ffilmio. Roedd deNiro ar y set, a Scorsese yn sbio ar ei sgrin. Roedd gan De Niro earpiece efo meic ynddo. Roedd Scorsese'n rhoi cyfarwyddiadau iddo drwy hwnnw, a'r 'floor manager' neu beth bynnag yn rhoi cyfarwyddiadau llafar iddo. Roedd DeNiro yn conffiwsd efo dau yn siarad ar yr un pryd. Dechreuodd ddweud (wrth y llais yn ei glust) "You talking to me? Eh, You talking to me?.."
Liciodd Scorsese be oedd yn weld a glywed gyumaint nes ei roi i fewn yn y sgript. A dyna lle dechreuodd "You talkin to me?"

Mae lot o fy ffrindiau wedi recomendio Amores Perros i mi. Ac wedi i ti ei grybwyll yn dy neges, mi gofiais amdani. Es i i'r siop vids ddoe a'i nol hi. Ond, fel sy'n digwydd i fi bob tro dwi yn y siop, dois yn ol efo tair ffilm ar 'three night rental'. Roedd rhaid ifi watsiad ffilm fyrrach neithiwr am fy mod yn dilyn Six Foot Under ar S4C (oedd yn dechrau am 11.05) a wedyn Phoenix Nights (absoliwtli hysterical). Felly dwi heb watsiad etoAmores.. eto. Wnai ddim heno chwaith am fy mod yn mynd i pub i watsiad gem Cymru. Ond dwi rili yn edrych ymlaen i'w gweld nos fory.

Y ffilm watsis i neithiwr oedd Freddy Got Fingered. Dim at dast pawb a not for the faint hearted (yn enwedig y golygfeydd '2 Hot 4 Cinema' ar ol y teitls orffen ar y diwedd). Ond mi chwerthis i drwyddi, er bod y laffs yn mynd yn llai o'r bol fel oedd y ffilm yn mynd ymlaen. Outrageous, du, tywyll, ond bechod ei bod wedi ei gwneud yn arbenig i dorri ffiniau 'bad taste'. Mae'n dangos, ar draul y stori. Er mai cefndir i stynts gwirion Tom Breen oedd pwrpas y stori o'r dechra.

Dydwi heb weld Two Lane Blacktop. Wyt ti yn ei recomendio, felly?

Wyt ti wedi clywed rhywbeth am y bedwerydd gyfres o Sopranos? Sut mae'n mynd lawr yn y States a phryd mai'n dod drosodd? Edrych ymlaen yn arw. Dwi'n edrych ymlaen hefyd i'r drydydd gyfres ddod ar werth mewn box set. Fel 'sad twat' dwi'n hel y cwbwl lot. Ond na, dim sad twat chwaith, achos mae hon y ddrama orau sydd wedi bod ar deledu erioed (yn fy marn i - oes rhywun ac awgrym arall?). Byddai'n anodd iawn curo y gyfres hon. David Chase you are a genius! O'r cynhyrchu, goleuo, ffotograffeg, y script, y plot, y castio, yr actio i'r agweddau ar ddynoliaeth, natur dynol, cymdeithas, America, y cops, y teulu a phopeth, mae hon yn cael 100 allan o 100 gennyf i ar bob cownt. Wrth gwrs, mae insights aciwret a gwir i'r Mafia ynddi, ond cefndir i'r storiau ydi hynny. Hanes teulu a phroblemau teuluol ydio, ond bod llawer iawn mwy o ddeilemas bywyd, a comments am fywyd heddiw ynddo hefyd. O safbwynt y Mob, mae'n dilyn y personoliaethau tu ol yr activities. Mae'n dilyn yr ochr ddynol ohonynt gan ddangos mai bobl gyffredin ydyn nhw, sydd mewn yn y busnes 'ma ac o'r herwydd mae eu ffiniau o beth sydd yn 'rhaid i'w wneud i ddiogelu'r busnes' yn wahanol i bobol fel ni. Y tu allan i'r 'busnes' mae nhw'n gig a gwaed ac emosiwn. Mae'n dangos hefyd y teip o bobl ydyn nhw. Mae'n dangos y beiau sy'n rhan o bawb ohonom. Does dim glorification. Unwaith wyt ti'n cymryd at un o'r cymeriadau, mae dy ddelwedd ohonno'n cael ei chwalu pan wyt yn gweld be mae nhw'n capable o wneud. Er hynny, rwyt yn dal i'w licio nhw. Mae cadw'r balans yma yn rywbeth gwyrthiol i ysgrifennwr a chynhyrchydd, a mae Chase yn ei wneud yn wirioneddol wych.
Mae Tony yn 'hen foi iawn' ond sylwer fel mae'r bywyd mae yn arwain wedi ei wneud yn prone i 'temper tantryms' hogyn bach sydd ddim yn cael ei ffordd ei hun.
Pussy - pwy all anghofio'r bennod a orffennodd efo Pussy'n crio yn y toilet am ei fod yn gwisgo weiar i dapio Tony'n siarad yn y parti? Crisis. Yr FBI wedi ei drapio, gwynebu 30 mlynedd a'r unig ffordd i ddod allan ohonni yw double-crossio ei ffrind bore oes.
A mae'r portread o'r FBI yn hollol wych. Yn y diwedd dydyn nhw ddim gwell na'r gangstars. Does ganddynt ddim parch i fywyd dynol. A mae ganddynt lai o egwyddorion na'r Mob! A hynny er bod y mob yn ddigon rwthles i allu lladd eu ffrind bore oes wedi iddynt ei ddal efo weiar.

Mae Paulie yn gymeriad hawdd ei licio - tan i ni weld yr ochr dan din iddo. Yn y diwedd, mae'r 'soldiars' yn lowlifes trist efo dim bywyd eu hunain, ond y Mob. Mae'r Capos, fel Paulie etc, yn 'wise old foxes', yn fwy cyfrifol allan o brofiad. Ond a ydyn nhw? Pan mae'r shit yn hitio'r ffan, wancars fydda'n cachu ar eu mets ydyn nhw. Cyllall yn y cefn yw eu dull dog eat dog nhw. Bullies treisgar. Urban wolves yn yr urban jungle ydyn nhw yn y diwedd. Tynna nhw allan o'r urban jungle a mae nhw ar goll. Fel y bennod gofiadwy honno pan oedd Paulie a Chris yn y coed yn (trio) lladd yr ex-Spetznaz Rwsiaidd 'na!
Wedyn, Chris Montesanto. Mae comment am y ryt cymdeithasol yma. Hogyn (aelod o'r teulu) sydd wedi tyfu yn gwybod dim byd arall ond dilyn ol traed y teulu. Does dim gwaith a chyfleon i fynd ymlaen yn y byd yn y ddinas, felly mae troi at drosedd yn ddihangfa. Ond fe gafodd Chris gyfle out of the blue. Ffeindiodd ei dalent am actio a sgwennu. Wedi i Tony ffendio allan gwelwyd un o'r golygfeydd teledu mwyaf trawiadol erioed. Mewn parti yn nhy Tony, dwedodd Tony wrth Chris (oedd ar ei ffordd allan am ffag), rywbeth fel, "Dy ddewis di ydio. Fanna mae'r drws, meddylia am y peth. Os ti ddim yn dod yn ol, paid a disgwyl imi dy warchod." Eisteddodd Chris yn smocio ffag ar stepan y drws (drws - golygu lot mewn drama/ffilmio). Mewn golygfa syml ond pwerus, lle na ddywedwyd gair, rhoddodd Chris ei ffag allan a cerddad yn ol i mewn i'r ty. A dyna ddiwedd y bennod, a diwedd fflyrtation Chris efo'r movie world (oedd wedi rhedeg am rai pennodau hyd hynny). Dyna ddiwedd ar y cyfle oedd ganddo i ddianc o'r ryt oedd ynddo. Hyd yn oed pan mae cyfleon prin yn dod i bobl ifanc sydd efo talent ond neb wedi ei feithrin, mae eu hamgylchiadau diymgeledd ar gyrion cymdeithas yn eu gwneud i dynnu nol ar y funud olaf a disgyn yn ol i ddwylo saff y 'devil they know'. Trist.

Un arall o gampiau David Chase yw'r ffordd mae'n gollwng carrots i hongian o flaen ein llygaid mewn pennodau. Pethau ddaw yn ol mewn penodau i ddod, neu mewn cyfresi i ddod. Mae Paulie mewn dilema rwan, aiff o i sticio efo Tony neu pwdu a mynd at foi o deulu (un o'r pump teulu mawr) New York? Fydd y boi Spetnaz yn dod yn ol ac achosi y Rwsiad sy'n laundro pres Tony wylltio? Dyma ddim ond dwy garrot. Mae dwsinau ohonynt.

A pam fod y boi New York wedi symud i New Jersey? Mae hyn yn goment ar sefyllfa realistig y Maffia yn America heddiw. Mae'r FBI wedi seriously cyfyngu eu busnes yn y blynyddoedd diweddar efo clec ar ol clec. Nid ydynt mor llwyddianus. Mae'r Sopranos yn New Jersey hyd yn oed yn llai 'well off' oherwydd yn nhermau cyffrdinol y Mob, small fry ydui'r teulu o gynharu a'r Pump Teulu. Ond ydi teulu mawr New York yn dechrau gorfod edrych am ehangu? Oes bygythiad i Tony yma? Mi fyddwn i'n deud bod.
Mae'r Rwsiaid yn y rhaglen yn goment ar y Maffia hefyd. Y dyddiau hyn, y Russian Mafya sydd yn dechrau rheoli marchnadoedd du y byd. Rhoddodd y Columbians dolc mawr ym musnas y Maffia, ond mae'r Russian Mafya wedi rhoi tolc mawr. Mae nhw'n bwerus, yn fwy ruthless ac yn beryg bywyd. Nid jest ofn colli ei olchwr pres sydd ar Tony wrth boeni a yw'r boi Spetznaz yn dal yn fyw. Mae'n poeni am ryfel efo'r Rwsiaid. Mae'n gwybod na fyddai ganddo lawer o siawns.
Cafwyd coment ddifyr arall ar y mob yn y bennod pan aethant i'r Eidal i wneud deal am allforio ceir wedi eu dwyn. Edrychai Tony a'i fets ymlaen am drip i'r 'famwlad', ond wedi cyrraedd roedd y gwahaniaethau diwylliannol yn ddigri tu hwnt. Hefyd, roedd y gwahaniaethau gweithredol yn ddifyr. Roedd Mafia yr Eidal, y Neapolitans a'r Sicilians gymaint yn fwy ruthless a pherig a threisgar. 'You don't fuck with these guys'. Yma, yn yr Eidal, y gwelsant Furio 'in action' gyntaf, a dod a fo yn ol i weithio iddyn nhw yn New Jersey. Asset i unrhyw gang ydi Furio!!! Dim y teip o foi i pissio off!
Yn gyffredinol, mae'r coments ar y mafia yn America yn dangos i ni mai organisation sydd ar ei choesau olaf ydi'r mafia. Mae fel petai wedi entro i'w chenedlaeth olaf, neu'r genhedlaeth olaf ond un. Mae pethau yn dechrau disgyn yn ddarnau. Mae'r genhedlaeth ifanc yn wrthryfelgar wrth i barch cymdeithas at egwyddorion chwalu yn yr oes gyfalafol hon. Yn fyr, does dim llawer o ddyfodol i'w weld i T a'i griw. Ond mae nhw'n brwydro ymlaen yn erbyn yr odds, serch hynny.

Dyna ddigon - dwi wedi mynd on. Mae cymaint mwy i'w ddweud am y gyfres rhagorol yma, ond rhaid stopio rywbryd.
Syffais tw se - pawb sydd heb ei gweld ewch allan i'w phrynnu. Chewch chi ddim eich siomi.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Y Ffrancwyr

Postiogan hefin » Sad 07 Medi 2002 9:54 pm

Yndi Prysor! Mae Les Visiteurs yn anhygoel! Ffilmiau Ffrengig yn hynod dda yn gyffredinol. Ffilmiau American yn hynod gachu yn gyffredinol.
Amser bod yn ddadleuol - 3 ffilm enwog gyfangwbl warthus: Goodfellas, Matrix a Crouching Tiger Hidden Dragon. Sach o sbwriel di sylwedd, y dair. Sticiwch o.
hefin
 

Postiogan Prysor » Sul 08 Medi 2002 11:48 am

Cytuno'n llwyr bod ffilmiau Ffrengig yn dda iawn a rhai America'n gachu. Mae rhai Eidaleg yn wych hefyd. Deud y gwir mae'r ffilmiau gorau yn y byd i gyd mewn iaith wahanol i Saesneg - mae hyn yn ffaith, nid jest tast bersonol.
A ti'n gwbod be, Hef? Mae hyn yn sacrilege o'r radd waethaf - mae'r bastads wedi gneud remake Saesneg o Les Visiteurs! Ac yn waeth fyth, mae nhw wedi ei symud i America! Yr un actorion, yr un plot, ond eu bod yn endio fyny yn ffycin America!! Aaaarrgh!!!
Darllenis y sbil ar gefn caead y tap yn y siop vids, a'i rhoi nol ar y silff, a mynd i nol yr un Ffrengig i'w gwatsiad eto.

Goodfellas? Class. Matrix? Shit go iawn. Crouching Tiger...? Ffilm dda yn weledol, ond boring iawn. 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Postiogan Di-Angen » Sul 08 Medi 2002 2:24 pm

Prysor a ddywedodd:Cytuno'n llwyr bod ffilmiau Ffrengig yn dda iawn a rhai America'n gachu. Mae rhai Eidaleg yn wych hefyd. Deud y gwir mae'r ffilmiau gorau yn y byd i gyd mewn iaith wahanol i Saesneg - mae hyn yn ffaith, nid jest tast bersonol.


Dyna beth idiotig i ddweud. Mae yna ffilmiau da a gwael ym mhob iaith, yn cynnwys y Saesneg.

Mae'n amlwg bod dy gasineb o'r iaith Saesneg yn cael dylanwad mawr ar dy taste mewn ffilmiau.
Rhithffurf defnyddiwr
Di-Angen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 833
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 4:38 pm

Postiogan hefin » Sul 08 Medi 2002 6:14 pm

Di-Angen, nid oes y syniad lleiaf gen ti am be ti'n son yn fama yn amlwg. "You're like a child who wanders into the middle of a conversation" fel dywedodd Walter wrth Donny yn y Big Lebowski. Ti'n cyhuddo Prysor o fod yn wrth Seisnig wrth ddweud fod ffilmiau Ewropeaidd yn well! Wyt ti erioed wedi sbio ar ffilm hefo isdeitlau? (Crouching blydi Tiger ma siwr!) Dos i sbio ar La Haine, Il Postinio, Weekend, Le Cop.. a tyrd yn ol ata ni pan ti'n gwybod rhywbeth heblaw Disney a Star Wars.
Mae ffilmiau'r Ffrancwyr wastad yn gwneud i chdi feddwl. Mae ffilmiau American (heblaw'r Coens wrth gwrs) yn gwneud i chdi golli diddordeb mewn dynol ryw.
hefin
 

Nesaf

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai