Ffilmiau gorau?

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ffilm orau 2002

Spider-man
2
13%
Atack of the Clones
3
19%
Men in Black 2
1
6%
Rhywbeth arall
10
63%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 16

Postiogan Di-Angen » Sul 08 Medi 2002 6:59 pm

hefin a ddywedodd:Di-Angen, nid oes y syniad lleiaf gen ti am be ti'n son yn fama yn amlwg. "You're like a child who wanders into the middle of a conversation" fel dywedodd Walter wrth Donny yn y Big Lebowski. Ti'n cyhuddo Prysor o fod yn wrth Seisnig wrth ddweud fod ffilmiau Ewropeaidd yn well! Wyt ti erioed wedi sbio ar ffilm hefo isdeitlau? (Crouching blydi Tiger ma siwr!) Dos i sbio ar La Haine, Il Postinio, Weekend, Le Cop.. a tyrd yn ol ata ni pan ti'n gwybod rhywbeth heblaw Disney a Star Wars.
Mae ffilmiau'r Ffrancwyr wastad yn gwneud i chdi feddwl. Mae ffilmiau American (heblaw'r Coens wrth gwrs) yn gwneud i chdi golli diddordeb mewn dynol ryw.


Ddim yn hoffi sci-fi gymaint a hynny, felly rydw i byth wedi gweld un o'r ffilmiau Star Wars. Ddim yn massive Disney fan, er ron i'n meddwl bod Monsters Inc. yn OK.

Mae pobl fel Prysor yn hypocrites llwyr - edrycha ar ei negeseuon yn y thread yma. Mae'n dweud pa mor dda oedd ffilmiau fel Fear and Loathing, Devil's Advocate, Pulp Fiction, Apt Pupil, Goodfellas ayb., ac wedyn yn galw ffilmiau America yn gachu!!

Dydw i ddim yn dweud bod ffilmiau Ffrengig yn wael, dydw i ddim yn cael cyfle i weld llawer ohonynt - dim ond Amelie, Les Pacte Des Loupes a La Cite des enfants perdus (ffilm hen rwy'n gwybod) rwy wedi gweld yn y flwyddyn diwethaf . Gyda llaw, ron i'n meddwl bod "Just Visiting" yn well na Les Visiteurs (Christina Applegate a Tara Reid), er bod nifer o ffilmiau wedi dioddef o gael ei ail-wneud yn Hollywood - un esiampl yw Mon pere ce heros gyda Depardieu. Roedd hwn yn crap yn Ffrangeg, ac yn waeth given the Hollywood treatment.

Mae'n dwp (ac yn hypocritical) i rybishio ffilmiau America dim ond am fod yn American, tra ar yr un pryd dweud pa mor dda oedd ffilmiau fel Pulp Fiction ayb. Mae yna ddigon o ffilmiau Ffrengig gwael - ond dwyt ti ddim yn eu gweld achos eu bod nhw ddim yn cyrraedd yma.

Mae Hollywood yn gwneud remake arall yn fuan - o'r ffilm Japanese Ring. Dylai fod yn ddiddorol.

Prysor a ddywedodd:Deud y gwir mae'r ffilmiau gorau yn y byd i gyd mewn iaith wahanol i Saesneg - mae hyn yn ffaith, nid jest tast bersonol.


Diddorol, mae'r mwyafrif o'r ffilmiau ti bod yn son am wedi bod yn ffilmiau Saesneg ei iaith. Beth yw dy top ten ffilmiau erioed, felly? Quick - cer i'r IMDb i ffeindio ffilmiau tramor i son am!!
Rhithffurf defnyddiwr
Di-Angen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 833
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 4:38 pm

Postiogan nicdafis » Sul 08 Medi 2002 7:48 pm

Dydy bod yn anghyson ddim yr un peth â bod yn hypocrit, Di-Angen, a dydy'r ffaith bod na berlau yn y cachu ddim yn golygu nad yw'r cachu yn drewi.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Prysor » Maw 10 Medi 2002 5:22 pm

YMATEB I YMOSODIAD PERSONOL
Di-angen. Hyd yn hyn yr unig gyfraniad wyt ti wedi wneud i unrhyw fwrdd trafod (sylwer - trafod, nid dadlau) ydi neidio i mewn i drafodaethau call pobol eraill efo insylts a haerllugrwydd plentynaidd a digwilidd. Dwyt ti ond yn ymuno a negesfyrddau er mwyn chwilio am ddadl a ffrae. Mae dy gyfraniad cyntaf di ar y bwrdd hwn yn deud y cwbl - 'Caerdydd, Abertawe, Wrecsam - unrhyw ddadl?' !!! Deallus iawn.
Deud y gwir, dwi yn dy ddychmygu fel person bach trist a phigog, sydd yn llawn gwenwyn a chwerwedd ac isio outlet i'w emosiynau chwilfrydig. Os ti isio siarad efo rhywun fe allaf recomendio ambell seiciatrydd i ti. Er, dwi ddim yn siwr be fedran nhw wneud i ti - ti'n obviously yn basket case.

Tro nesa ti'n cael dy demtio i neidio i mewn ag ymosod ar rywun yn bersonol, ista yn ol a meddylia am rai pethau. 'Ydi'r sgwrs yma unrhyw beth i wneud efo fi?', 'oes genai rywbeth cynhyrchiol i'w ddweud?', neu 'ydw i yn dallt be mae nhw'n son am?'

Efalla mai dysgu Cymraeg wyt ti, a dy fod yn cael trafferth deall, ond mae'r geiriau "...mae hynna yn ffaith, nid jest tast bersonol" yn golygu yn union hynny. Tra'n astudio Ffilm yn y brifysgol, cefais fy nysgu nad oedd y rhestr deg ffilm gorau erioed - y rhestr cydnabedig rhyngwladol swyddogol, wedi ei greu gan y diwydiant ffilmiau ei hun - yn cynnwys yr un ffilm Saesneg o gwbl. A deud y gwir, os dwi'n cofio yn iawn, dim ond un ffilm Saesneg sydd yn y top twenty. Roedd Hefin, y person yr oeddwn yn 'siarad' efo (cyn cael ymyrraeth di-eisiau a di-angen arall gennyt ti), yn deall beth oeddwn yn feddwl yn iawn.

O ran 'ffilms America'n gachu' - unwaith eto, roedd Hefin, y person oeddwn yn siarad efo cyn cael ymyrraeth ddi-angen gennyt ti, yn deall yr union context yr oeddwn yn siarad am. Yn y context oedden yn drafod, roedd 'ffilmiau Americanaidd' yn golygu 'mainstream' Hollywood. Sylwa di fod yr holl ffilmiau Americanaidd wyf wedi eu rhestru fel ffefrynnau i gyd y tu allan i 'mainstream Hollywood'. Mae nhw'n unai yn Cult, yn 'wahanol', gwrth-sefydliad a gwrth-Hollywood, yn wrthryfelgar, anarchaidd neu yn dod o stabl neu berspectif lleiafrifoedd cymdeithasol.

Ynglyn a'r honiad fy mod yn casau'r iaith Saesneg, rwyf wedi dychryn o weld faint mor dreiddgar a chraff wyt a faint o waith cartref wyt wedi ei wneud! Mae'n amlwg dy fod a dawn i ddadansoddi pobl a'u diddordebau, eu ffrindiau, eu teuluoedd, eu cyd-weithwyr, eu gweithgareddau, eu gwaith a'u hamgylchiadau drwy remote viewing! Mi fyddai Mulder a Scully yn licio dy gyfweld dwi'n siwr.

Calliai washi - dwyt ti'n gwbod ffyc all.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Postiogan Di-Angen » Maw 10 Medi 2002 6:53 pm

Dim ymosodiad personol. Efallai dylet wedi gwneud hi'n fwy amlwg mai Hollywood roeddet ti'n son am (er fyddwn i ddim yn dweud fod ffilmiau fel Spiderman a LOTR yn wrthryfelgar ac anarchaidd).

Diddorol clywed dy fod wedi dy "ddysgu" nad oedd yr un o'r deg ffilmiau gorau erioed yn ffilm Saesneg. Dyna'r fath o beth sydd anodd iawn i lunio, felly fe fyddwn i'n "wary" o gredu unrhywun sy'n siwr mai nhw sydd a'r rhestr definitive.

Heb weld pob ffilm sydd erioed wedi ei wneud, mae'n amhosib creu rhestr. Sydd yn meddwl fod dy syniad fod hyn "yn ffaith, nid jest tast bersonol" yn bollocks.

A pe bai neb yn postio heblaw eu bod yn ran o "sgwrs", fe fyddai bron dim negeseuon yma. Rwy'n hoffi ffilmiau and yn gwylio lot ohonynt. Dyna pam fi yma. Roeddwn wedi postio yn yr adran yma cyn hynny, a rwy'n ceisio avoido llefydd fel adran yr iaith er mwyn gadael i'r cenedlaetholwyr gael sgwrs fach neis heb sylwadau "di-angen" pobl fel fi..

Diolch
Rhithffurf defnyddiwr
Di-Angen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 833
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 4:38 pm

Postiogan nicdafis » Maw 10 Medi 2002 9:15 pm

Dim ymosodiad personol.


Sut fyddet ti'n diffinio pethau fel "Dyna beth idiotig i ddweud" a "Mae pobl fel Prysor yn hypocrites llwyr"? Swnio braidd yn bersonol i fi.

Dim ond ffilmiau dyn ni'n trafod, cofia.

Dw i ddim yn cytuno â Prysor chwaith (Citizen Kane?) ond mae 'na wahaniaeth rhwng anghytuno â syniadau rhywun ac ymosod ar ei gymeriad. Unwaith fod ti wedi galw rhywun yn idiot ac yn hypocrit dydy e ddim yn debyg y bydd y trafodaeth yn symud ymlaen lot bellach, nady?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Di-Angen » Maw 10 Medi 2002 10:08 pm

nicdafis a ddywedodd:
Dim ymosodiad personol.


Sut fyddet ti'n diffinio pethau fel "Dyna beth idiotig i ddweud" a "Mae pobl fel Prysor yn hypocrites llwyr"? Swnio braidd yn bersonol i fi.

Dim ond ffilmiau dyn ni'n trafod, cofia.

Dw i ddim yn cytuno â Prysor chwaith (Citizen Kane?) ond mae 'na wahaniaeth rhwng anghytuno â syniadau rhywun ac ymosod ar ei gymeriad. Unwaith fod ti wedi galw rhywun yn idiot ac yn hypocrit dydy e ddim yn debyg y bydd y trafodaeth yn symud ymlaen lot bellach, nady?


Digon teg - rwy'n ymddiheuro os wnes i stepio dros y marc.

Ron i yn meddwl ei fod yn sylwad twp, fodd bynnag. Mae'n eithaf naif i feddwl bod Ewrop yn brilliant, a Hollywood yn crap. Mae digon o rybish wedi dod o Ewrop, hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Di-Angen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 833
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 4:38 pm

Postiogan Prysor » Maw 10 Medi 2002 10:26 pm

Ie, ti'n iawn, Citizen Kane, ac os dwi'n cofio'n iawn, honna oedd yr un Saesneg yn y top twenty.

Mae'r 'rhestr' yr wyf yn son amdano yn newid ychydig o sefydliad i sefydliad, o oes i oes, ond yn gyson gadw at fwy neu lai yr un ffilmiau. Nid ydynt mewn unrhyw drefn cyson bob tro, ond yn un lwmp efo'i gilydd gan amlaf (yr ugain gorau). Rhestr ydi sydd yn gytbwys efo barn critics, buffs, cynhyrchwyr a chyfarwyddwyr ddoe a heddiw, actorion ac eraill yn y diwydiant, cylchgronnau a haneswyr ffilm o bob cwr o'r byd. Pobl sydd yn gwybod llawer iawn mwy na fi, ac yn sicr yn gwybod mwy na Di-angen. Pan mae rhywun yn astudio ffilm, mae'n astudio hanes ffilm a mae'n astudio'r ffilmiau gorau o wahanol genres. Mae hefyd yn cael eu gwylio a'u hastudio er mwyn gwneud ei farn ei hun i fyny. Nid wyf wedi cael gweld pob un o'r ugain, a mae'n debyg y byddwn yn anghytuno a rhai, ac, mae'n bosib, roi ffilm Saesneg o'm dewis i i fewn yn y rhestr.
Dydi hyn ddim yn newid y ffaith syml sy'n methu suddo mewn i ben Di-angen, ei fod yn farn gyffredinol, derbyniadwy gan y rhelyw yn y diwydiant ffilmiau fod y ffilmiau gorau yn digwydd bod - hyd yn hyn - yn iaith arwahan i Saesneg. Nid safbwyntiau gwleidyddol sy'n dweud hyn, mae jyst yn digwydd bod yn ffaith.
Dylwn fod wedi gwneud yn glir mai Hollywood oeddwn yn siarad amdano meddai Di-angen. Wel mae'n ddrwg gennai, Master Quentin, tro nesaf fyddaf yn siarad efo rhywun mi fyddai yn gwatsiad fy nhafod ac yn dewis fy ngeiriau yn ddoeth rhag ofn i ti gael traffarth eu darllen. Cywilidd i mi!

Ond fyddai dal ddim yn deall pebawn hyd yn oed yn sillafu pob gair allan i'r llyffant. Mae'n amlwg o be mae'n ddeud am Spiderman a Lord of the Rings. I ddechra, dwi heb son am Spiderman - sut allwn i, dwi erioed wedi ei gweld hi! Yn ail - Lord of the Rings - hardly mainstream Hollywood o gwbl - cynhyrchiad Prydeinig ydi, wedi ei ffilmio yn Seland Newydd, ac epic clasurol sy'n driw i statws cult y llyfr.

Mae'n ddigon drwg cael rhyw grancyn bach sydd ond yn gweld drwg yn bawb a phopeth yn dechrau ffraeo efo ti am ffyc ol, ond pan mae o obviously yn gwbod llai fyth am be ffwc mae o'n siarad am, mae yn rili gwneud dy ben di mewn!

Felly paid a boddran ngwas i...

Gyda llaw, paid a rhoi geiriau yn fy ngheg i - mae dy sylwad olaf yn y neges dwythaf yn anwir, fel y rest o dy chwd geiriol, a hynny am lawer rheswm, nid yn unig oherwydd na soniais am Ewrop o gwbwl!
Twll dy din di ffaro...
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Postiogan hefin » Maw 10 Medi 2002 11:04 pm

Nag ydi, di-angen, dydi o ddim yn naif i ddweud fod ffilmiau Ewrop yn gyffredinol llawer iawn gwell na rhai Hollywood. Nid yn unig y gwybodusion sy'n cytuno, fel mae Prysor yn ei ddangos, ond unrhyw un (heblaw chdi yn amlwg) sydd wedi gwylio llond dyrnaid o rai Ewrop. Y gymhariaeth orau a glywais ar ffilm (Un o'r Three Colours ond dwi'm yn siwr) Ffrengig oedd - Hollywood: Storis bach efo arian mawr. Ffrainc: Storis mawr ar arian bach.
O dy drafodaeth hyd yn hyn mae'n ymddangos dy fod gyda gwybodaeth eithaf o sinema Ewrop. Yr unig ganlyniad felly yw dy fod ond yn anghytuno gan mai Prysor sy'n honni'r ffordd arall, neu dy fod yn hynod anaeddfed dy dast.
hefin
 

Postiogan nicdafis » Maw 10 Medi 2002 11:35 pm

O ran diddordeb, dyma <a href="http://www.bfi.org.uk/sightandsound/topten/poll/critics.html">Top Ten Sight & Sound 2002</a> mewn pol o gyfarwyddwyr a beirniaid. Neu, dyma rhestr mwy o 1992: <a href="http://www.geocities.com/aaronbcaldwell/dimsscri.html">119 o hoff ffilmiau beirniaid</a> (Sight & Sound eto).

O Ffrainc, dyma top tens <a href="http://www.alumni.caltech.edu/~ejohnson/critics/cahiers.html">Cahiers du Cinema</a> am bob blwyddyn rhwng 1951 a 2001 (ond dim byd am 1968-1981, sef fy hoff adeg, ond digon o syndod, yn enwedig yn diweddar - ).

Mae rhestrau <a href="http://www.refstar.com/s&e/">Siskel & Ebert</a> yn ddiddorol fel adlewyrchiad o ffocws culach beirniaid Americanaidd (cymharu eu rhestrau nhw â Cahiers du Cinema er enghraifft).

A dyma tudalen o <a href="http://www.sensesofcinema.com/contents/top_tens/">restrau gan ffilm byffs</a> Senses of Cinema (gwefan wych os ydych chi'n hoffi'r pictiwrs), sy'n cynnwys dau berson gyda digon o chwaeth i roi <a href="http://www.cinetropic.com/blacktop/">Two Lane Blacktop</a> i mewn.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Prysor » Mer 11 Medi 2002 11:56 am

Rhestrau hynod ddiddorol. A handi hefyd.
Dwi'n meddwl ei bod yn saff imi ddeud 'I rest my case' rwan - er nad oeddwn efo unrhyw fwriad o endio fyny mewn dadl! :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron