hefin a ddywedodd:Di-Angen, nid oes y syniad lleiaf gen ti am be ti'n son yn fama yn amlwg. "You're like a child who wanders into the middle of a conversation" fel dywedodd Walter wrth Donny yn y Big Lebowski. Ti'n cyhuddo Prysor o fod yn wrth Seisnig wrth ddweud fod ffilmiau Ewropeaidd yn well! Wyt ti erioed wedi sbio ar ffilm hefo isdeitlau? (Crouching blydi Tiger ma siwr!) Dos i sbio ar La Haine, Il Postinio, Weekend, Le Cop.. a tyrd yn ol ata ni pan ti'n gwybod rhywbeth heblaw Disney a Star Wars.
Mae ffilmiau'r Ffrancwyr wastad yn gwneud i chdi feddwl. Mae ffilmiau American (heblaw'r Coens wrth gwrs) yn gwneud i chdi golli diddordeb mewn dynol ryw.
Ddim yn hoffi sci-fi gymaint a hynny, felly rydw i byth wedi gweld un o'r ffilmiau Star Wars. Ddim yn massive Disney fan, er ron i'n meddwl bod Monsters Inc. yn OK.
Mae pobl fel Prysor yn hypocrites llwyr - edrycha ar ei negeseuon yn y thread yma. Mae'n dweud pa mor dda oedd ffilmiau fel Fear and Loathing, Devil's Advocate, Pulp Fiction, Apt Pupil, Goodfellas ayb., ac wedyn yn galw ffilmiau America yn gachu!!
Dydw i ddim yn dweud bod ffilmiau Ffrengig yn wael, dydw i ddim yn cael cyfle i weld llawer ohonynt - dim ond Amelie, Les Pacte Des Loupes a La Cite des enfants perdus (ffilm hen rwy'n gwybod) rwy wedi gweld yn y flwyddyn diwethaf . Gyda llaw, ron i'n meddwl bod "Just Visiting" yn well na Les Visiteurs (Christina Applegate a Tara Reid), er bod nifer o ffilmiau wedi dioddef o gael ei ail-wneud yn Hollywood - un esiampl yw Mon pere ce heros gyda Depardieu. Roedd hwn yn crap yn Ffrangeg, ac yn waeth given the Hollywood treatment.
Mae'n dwp (ac yn hypocritical) i rybishio ffilmiau America dim ond am fod yn American, tra ar yr un pryd dweud pa mor dda oedd ffilmiau fel Pulp Fiction ayb. Mae yna ddigon o ffilmiau Ffrengig gwael - ond dwyt ti ddim yn eu gweld achos eu bod nhw ddim yn cyrraedd yma.
Mae Hollywood yn gwneud remake arall yn fuan - o'r ffilm Japanese Ring. Dylai fod yn ddiddorol.
Prysor a ddywedodd:Deud y gwir mae'r ffilmiau gorau yn y byd i gyd mewn iaith wahanol i Saesneg - mae hyn yn ffaith, nid jest tast bersonol.
Diddorol, mae'r mwyafrif o'r ffilmiau ti bod yn son am wedi bod yn ffilmiau Saesneg ei iaith. Beth yw dy top ten ffilmiau erioed, felly? Quick - cer i'r IMDb i ffeindio ffilmiau tramor i son am!!