Tudalen 3 o 4

PostioPostiwyd: Mer 11 Medi 2002 1:55 pm
gan Di-Angen
nicdafis a ddywedodd:O ran diddordeb, dyma Top Ten Sight & Sound 2002 mewn pol o gyfarwyddwyr a beirniaid. Neu, dyma rhestr mwy o 1992: 119 o hoff ffilmiau beirniaid (Sight & Sound eto).

O Ffrainc, dyma top tens Cahiers du Cinema am bob blwyddyn rhwng 1951 a 2001 (ond dim byd am 1968-1981, sef fy hoff adeg, ond digon o syndod, yn enwedig yn diweddar - ).

Mae rhestrau Siskel & Ebert yn ddiddorol fel adlewyrchiad o ffocws culach beirniaid Americanaidd (cymharu eu rhestrau nhw â Cahiers du Cinema er enghraifft).

A dyma tudalen o restrau gan ffilm byffs Senses of Cinema (gwefan wych os ydych chi'n hoffi'r pictiwrs), sy'n cynnwys dau berson gyda digon o chwaeth i roi Two Lane Blacktop i mewn.

Roedd rhestr top ten 2000 Cahiers du Cinema yn rhestru Mission to Mars fel y 4ydd ffilm orau o'r flwyddyn! Diddorol iawn! Mae yna bobl cul i'w gael yn Ewrop hefyd, nid yn unig yn America

A na, dwi dal ddim yn cytuno y gall bobl generaliso gymaint am Ewrop v Hollywood. Gan fod gymaint llai o ffilmiau yn cael eu gwneud yn Ewrop, mae'n eithaf tebygol bod y storiau da yn cael fwy o siawns i ddod i fruition, yn wahanol i America, lle mae digon o arian i wneud ffilm wael neu dda.

Y pwynt yw bod nifer o ffilmiau gwych yn cael ei ariannu gan Hollywood, ac mae ei alw'n "crap" yn beth eithaf od i ddweud.

Gyda llaw, ffilmiau "American" y dwedodd y ddau ohonoch i ddechrau, nid "Hollywood". Fe fydden i'n cytuno fod Hollywood yn creu lot o crap, ond eto, mae yna ddigon o crap o lefydd fel Ffrainc hefyd.

PostioPostiwyd: Mer 11 Medi 2002 7:05 pm
gan Gwestai
Os dilyner y ddadl mai y lleiaf o ffilms sy yn cael eu gwneud gan wlad arbenig yna y gorau yw'r safon (am bod storis da yn cael fwy o siawns i ddod i fruition, medda Di-glem!), yna pam nad ydi'r un neu ddwy ffilm sydd yn dod allan o Gymru bob blwyddyn yn sweepio'r Oscars bob tro??

Fel arall rownd mae hi - y lleia y ffilms, y lleia o berlau sydd yn eu mysg.

Hoffwn ddweud rhywbeth arall wrth y twpsyn hefyd - mae MWY, dim llai, o ffilmiau yn cael eu gwneud yn Ewrop bob blwyddyn nag sydd yn Hollywood. Mae diwydiant ffilmiau yr Eidal yn gwneud fwy o ffilms bob blwddyn na Hollywood.

A ffaith bach arall cyn hwylio ar fy yacht i Montego Bay. (gobeithio bod mwy nag un ffaith ar y tro ddim yn mynd i wneud brens Di-glem crasho). Y diwydiant ffilmiau mwyaf yn y byd ydi Bollywood (ffilmiau Indiaidd i ti, Di-glem).

PostioPostiwyd: Mer 11 Medi 2002 7:05 pm
gan nicdafis
Di-Angen a ddywedodd: Gan fod gymaint llai o ffilmiau yn cael eu gwneud yn Ewrop, [nag yn America]

Ydy hyn yn wir? Neu ydyn ni jyst yn fwy cyfarwydd â ffilmiau o'r Amerig? Faint o ffilmiau "tramor" sydd yn dy sinema lleol di ar hyn o bryd?[/quote]

PostioPostiwyd: Mer 11 Medi 2002 7:46 pm
gan Di-Angen
nicdafis a ddywedodd:
Di-Angen a ddywedodd: Gan fod gymaint llai o ffilmiau yn cael eu gwneud yn Ewrop, [nag yn America]

Ydy hyn yn wir? Neu ydyn ni jyst yn fwy cyfarwydd â ffilmiau o'r Amerig? Faint o ffilmiau "tramor" sydd yn dy sinema lleol di ar hyn o bryd?
[/quote]

Ti'n iawn. Beth oeddwn yn meddwl oedd bod llai o ffilmiau Ewropeaidd yn cyrraedd marchnad gwledydd Saesneg ei hiaith fel Prydain neu Iwerddon na rhai Americanaidd, ac felly mae'r mwyafrif o'r rhai sy'n dod yma yn rhai da, a'r rybish yn aros yn Ffrainc, Iseldiroedd ayb. Obviously bod yr sentence heb ddod allan yn dda iawn, ond dim ots.

Diolch am dy sylwadau Gwestai!

PostioPostiwyd: Iau 17 Hyd 2002 5:31 pm
gan ceribethlem
Mae'n debyg fod cwmniau sinema yng Nghymru a Lloegr yn llai parod i ddangos ffilm na ddaeth o Hollywood nag unrhyw wledydd arall yn y byd. Mae hyn wrth gwrs yn golygu na fyddai 'perlau' Ewrop a gwledydd arall y byd (heblaw blockbusters Hollywood yn cael eu dangos.
Un o'r gwledydd sy'n cynhyrchu'r ffilmiau mwyaf gwreiddiol yn y byd y dyddiau yma yw Siapan, er nid yw'r ffilmiau yma yn cael eu dangos yn y sinema.
Nid ffilmiau manga rwy'n son amdanynt yn ffilmiau iawn. Er enghraifft cafodd y ffilm The Ring ei glodfori mewn llawer o wledydd, gan gynnwys yr Amerig, ond ni ddangoswyd yn y sinemau yn y wlad hon. Cafodd y ffilm yma y fath hype tan bod Hollywood wedi penderfynnu gwneud fershiwn iaith Saesneg ohoni.
Mae ffydd gen i y bydd yn shite llwyr gan fod bron pob remake sy'n cael ei wneud gan Hollywood yn Shite.
e.e. Get Carter gyda Sylvester Stallone

PostioPostiwyd: Iau 17 Hyd 2002 9:21 pm
gan nicdafis
Gâth The Ring ei dangos yn Aberteifi. Ti'n jyst byw yn yr anialwch ;-)

PostioPostiwyd: Gwe 18 Hyd 2002 8:32 am
gan Alys
Rhaid cyfadde nad o'n i'n gwybod dim am ffilmiau Siapan nes i'r clwb ffilmiau lleol ddangos ffilm o'r enw "Afterlife" (os dwi'n cofio'n iawn), rhyw flynedd neu 2 yn ôl. Soniodd am bobl oedd newydd farw, roedd rhaid iddyn nhw feddwl am uchafbwynt fyddai'n crisialu eu bywyd ac wedyn gwneud ffilm fach o'r foment cyn medru pasio i'r byd nesa. I rai roedd yn hawdd iawn penderfynu ond i eraill roedd yn llawer mwy anodd. Atmosfferig a gwreiddiol iawn.

PostioPostiwyd: Sul 20 Hyd 2002 5:36 pm
gan huwwaters
Wel fy hôff ffilmiau Saesneg yw:

Terminator 2: Judgement Day
Lord of the Rings: The Fellowship of the Ring

Fy hôff ffilmiau Ffrengig:

Jean de Florette
Manon des Sources(sequel i'r uchod)

Fy hôff ffilm Eidaleg yw:

Un am 2 ddyn yn dioddef yn yr Ail Rhyfel Byd(wedi anghofio ei enw)

Fy hôff ffilmiau Tsheineaid yw:

To Live
A un am fachgen sy'n cael ei yrru at ysgol i gymnastwyr/perfformwyr syrcas

Fy hôff ffilm Cernyweg yw:

Hwerow Hweg(Bitter Sweet)

A fy hôff ffilm di-iaith yw:

The Snowman (Os fedrwch chi ei alw'n ffilm)

Y llefydd i mynd i weld y ffilmiau amgen gorau yw:

FilmFour
FilmFour World

ble y cwbl sy'n hidio yw y ffilm ei hun a dim praint o bres mae'n ei wneud.

Huw

PostioPostiwyd: Llun 21 Hyd 2002 11:05 pm
gan Gwestai
ceribethlem a ddywedodd:Nid ffilmiau manga rwy'n son amdanynt yn ffilmiau iawn. Er enghraifft cafodd y ffilm The Ring ei glodfori mewn llawer o wledydd, gan gynnwys yr Amerig, ond ni ddangoswyd yn y sinemau yn y wlad hon. Cafodd y ffilm yma y fath hype tan bod Hollywood wedi penderfynnu gwneud fershiwn iaith Saesneg ohoni.
Mae ffydd gen i y bydd yn shite llwyr gan fod bron pob remake sy'n cael ei wneud gan Hollywood yn Shite.

Dyw'r remake o Ring ddim yn dda iawn, ond dyw remakes byth yn dda iawn.

A oes rhywun wedi gweld fersiwn Bollywood o Grease? Un o'r ffilmiau gwaethaf erioed! Da iawn Bollywood!

PostioPostiwyd: Iau 24 Hyd 2002 11:32 am
gan Geraint
Rioed di gallu gwylio ffilm Bollywood, dim yn rhy hoff o musicals, er roedd Moulin Rouge yn iawn. A Spring Time for Hitler!(nid ffilm natsiaidd, ond miwsical ar y ffilm comedi the producers)

Mae FULL METAL JACKET yn un o fy'n hoff ffilimaiu, mi roedd ar sianel 5 nos fawrth. Mae unrhyw ffilm Stanley Kubrik yn glasur- The Shining, Space Oddyssey 2001, Dr Strangelove, Clockwork Orange.

Hefyd.....TAXI DRIVER.