Tudalen 4 o 4

PostioPostiwyd: Llun 28 Hyd 2002 11:33 am
gan Prysor
Dwi newydd wylio y ffilm orau dwi wedi ei weld ersdalwm iawn. The Green Mile.
Pwy all beidio licio ffilm efo llinnellau mor ffantastig a "What in the blue fuck was that?!", a "Ah think dis boy's cheese just slid off his cracker". !?
:)

PostioPostiwyd: Llun 28 Hyd 2002 8:22 pm
gan ceribethlem
Un o'm hoff ffilmau i yw Grosse Pointe Blank gyda John Cusak. Comedi du da iawn.
Wedi gweud hynny y comedi du orau erioed yw Dr Strangelove.

Mae ceisio dehongli'r ffilm orau erioed yn rhywbeth anodd iawn heb unrhyw ganllawiau. Mae'n bosib i ffilmiau gorau'r byd ymddangos yn shite llwyr os nad ydych yn y mood iawn.
Er nad yw'n ffilm da o ran safon sgriptio nac actio, mae Star Wars yn ffilm wycvh i ishte lawr a chael cwpl o beints a jyst mwynhau.

PostioPostiwyd: Maw 29 Hyd 2002 10:51 am
gan Meleri
Green Mile yn film da iawn, ond mae Shawshank Redemption yn well yn fy marn i.

Oes neb ohonoch yn hoffi comedys iawn megis Austin Powers, Zoolander, Meet the Parents ayyb: os nad rydych yn methu allan!

PostioPostiwyd: Llun 01 Awst 2005 9:15 am
gan Dr Gonzo
Yn fy marn i Y Godfather 1 a 2 yw'r ffilmiau gorau !!! mae o moooooooor wych !!! Robert DeNiro yn Wych ar yr ail film !!!
Scarface !!!! WAW amazing eto !!!
The Untouchables !!! WAW Gwych !!!
Usual Suspects !!! Fantastic !!!
Man on Fire !!! WWWWWWWWW Superb !!!
Good Fellas !!! siwpoib !!!
Taxi Driver !!! Very Very Gwd !!
(dechra rhedeg allan o geiriau wan)


Henni dir ffilmiau gorau Gangsters sydd o gwmpas swni ddeud !!!
Yn ol son..i heinni sydd yn hoff o Good fellas mi fydd yna Good Fellas 2 !!!!
Dwi yn meddwl fydd hwn yn rybish de !!
A hefyd yn ol son mae Robert Deniro wedi dweud ei fod eisio gwneud Taxi Driver 2 !!! aaaaa i topio pob dim i ffwrdd !!! MI FYDD YNA GODFATHER 4 !!!! :crio: PAM ??? PAM ??? PAAAAAAAAAAAAAAM ????

Re: Ffilmiau gorau?

PostioPostiwyd: Maw 18 Awst 2015 11:55 pm
gan nicdafis
*bwp*

Penblwydd hapus (braidd yn hwyr) i'r hen faes.

Diolch i dafyddt am ei waith cloddio i ffeindio hyn, edefyn hynaf (?) y maes.

Re: Ffilmiau gorau?

PostioPostiwyd: Maw 18 Awst 2015 11:57 pm
gan nicdafis
Ydy hi'n rhy hwyr i fi gywiro'r teipo yn "Atack of the Clones"?