gan Idris » Iau 17 Gor 2003 9:28 pm
welodd rywun Noc Noc dweutha'r gyfres (amser te heddiw) , oedd o'n bril - thema cowboi, petha Rhaglen Wirion 'Na yn hilariws fel Rednecs o'r Miericia, a Rhodri Owen a Sarah Pelgan yn dangos i'r Pwpgorn sut i gyflwyno efo dipyn bach o egni. tafla Gwenno Saunders v. Tara Tethan i fewn i'r mics, a gin ti sioe. Pam dydi peth fel hyn ddim yn cael ei ddangos ar fore Sadwrn er mwyn i oedolion aeddfed a chall fel fi fedru fwynhau o? Os oes yna rywun ar y maes yn gweithio i S4C, deud wrth dy fos fod angen Noc Noc ar y penwythnos