Rhodri Nwdls a ddywedodd:Gweld hwn heno, wedi clywad amdano ers sbel ac wedi edrach mlaen. Joio fo lot er fod yn dilyn y patrwm Marion and Geoff, ma dal yn llawer mwy doniol na dim arall dwi di weld ar S4C (heblaw YRWN).
Hir oes i'r ffarmwr. Sa Cymru'n dlotach lle o lawar hebddyn nhw.
welis di'r hambon yn troi'r car ar ei ben? sdalwyn cyhyrog. eitha' doniol hefyd- odd dau o'r brodyr ar Wedi 7, a dyma'r planc(ton) oedd yn eu cyfweld nhw'n gofyn 'Wel ma' dau o'r brodyr 'da fi fan hyn, felly lle ma'r ail frawd?...yh, y trydydd brawd?' twp fel clawdd y boi yna.
o ni arfer licio Hafod Haidd hefyd - ma' ffermwyr yn destun sbort gwych.
tra dwi wrthi, odd Pobol Y Cwm heno'n gomedi pur - Karen Concord mewn 'neck brace' yn rosbitol ac yn trio byta cawl efo llwy - y cynhyrchwyr heb glywad fod pobol fel'na'n cael sdros gin nyrs, felly odd Karen ar ei chefn yn gwely yn trio byta'r cawl efo llwy yn horizontal. mae o wedi gwella, rhaid deud