Un o'r pethau gora sydd wedi bod ar S4C ers oes. Ac ynglyn a Dews - fel actor Pobol y Cwm, do'n i'n cymryd dim iot o sylw ohono fo, roedd o'n non-entity i mi, ond fel Dews y ffarmwr, mae o wedi profi cystal actor ydi o. Rhyfedd 'de?
Syniad gwych, dangos bod y ffermwyr yn gallu chwerthin am eu penna eu hunain, diolch yn fawr. Ond eto'n dangos, mewn ffordd od, bywyd mor uffernol o galed ydi o.
Y credits ar y diwedd yn gwneud i mi wenu bob tro. Chwerthin tro cynta wrth gwrs, ond yn dal i lwyddo i mi wneud i mi wenu'n gyson.
Ia, melys moes mwy, ond gocheler rhag comisiynu gormod o Dews, S4C. Fel 'This Life' a 'The Office' falle ei bod hi'n well gadael hwn pan mae o ar y brig yn hytrach na thrio llusgo mwy a mwy allan ohono fo nes mae o'n fflat a di-ddim.