Ffilm bach digon del deud gwir. Son am bentra Maori yn Seland Newydd sy'n disgyn i ddarna a phlant y dre'n symud ffwrdd i ffendio bywyd gwell tra ma'r traddodiada a'u diwylliant yn diflannu o'u blaena. Ond ma na hogan o'r enw Pai sydd yn benderfynol o dorri a thraddodiad a cheisio dysgu arferion yr hogia yn erbyn ewyllys ei thaid Koro sy'n ceisio dysgu'r hogia i fod yn Maoris gwir i'w cyndeidiau.
Mae o'n ochri jest abowt ar yr ochr iawn o ramanteiddio am yr hen ddyddiau a drama teuluol i beidio bod yn schmaltzy ac yn dod ar draws fel ffilm sy'n codi'r galon ac sy'n obeithiol am y dyfodol gyda uniad anochel y newydd a'r hen ym mherthynas Pai a'i thaid. 7 go hegar allan o ddeg.
Un peth amdani serch y clod oedd fod bron i ddim enw Maori yn y credits (heblaw am ddylunio set a gwisgoedd) sy'n codi'r cwestiwn a ydi hi'n adlewyrchiad deg o'r Maori? Wedi deud hyn roedd pob un o'r actorion yn Maori, ond faint ohonynt sydd yn gneud ffilmiau yn Seland Newydd. Bron i ffyc ol siwr o fod.
Wele yma am wefan y ffilm.