Whale Rider

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Whale Rider

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 22 Gor 2003 7:57 pm

Ffilm bach digon del deud gwir. Son am bentra Maori yn Seland Newydd sy'n disgyn i ddarna a phlant y dre'n symud ffwrdd i ffendio bywyd gwell tra ma'r traddodiada a'u diwylliant yn diflannu o'u blaena. Ond ma na hogan o'r enw Pai sydd yn benderfynol o dorri a thraddodiad a cheisio dysgu arferion yr hogia yn erbyn ewyllys ei thaid Koro sy'n ceisio dysgu'r hogia i fod yn Maoris gwir i'w cyndeidiau.

Mae o'n ochri jest abowt ar yr ochr iawn o ramanteiddio am yr hen ddyddiau a drama teuluol i beidio bod yn schmaltzy ac yn dod ar draws fel ffilm sy'n codi'r galon ac sy'n obeithiol am y dyfodol gyda uniad anochel y newydd a'r hen ym mherthynas Pai a'i thaid. 7 go hegar allan o ddeg.

Un peth amdani serch y clod oedd fod bron i ddim enw Maori yn y credits (heblaw am ddylunio set a gwisgoedd) sy'n codi'r cwestiwn a ydi hi'n adlewyrchiad deg o'r Maori? Wedi deud hyn roedd pob un o'r actorion yn Maori, ond faint ohonynt sydd yn gneud ffilmiau yn Seland Newydd. Bron i ffyc ol siwr o fod.

Wele yma am wefan y ffilm.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 22 Gor 2003 8:19 pm

Erthygl ddiddorol yn y Guardian am effaith Whale Rider ar dddiwydiant ffilm yn Seland Newydd

Gwefan well o Seland Newydd am Whale Rider
Mae'n debyg fod y ffilm yn eitha Maori. *sglaff sglaff*[bwyta het]

Mae na dal debygrwydd eu rhwng diwydiant ffilm nhw a'n un ni yng Nghymru, ella ddylsan ni gadw llygad barcud ar be ma nhw'n gneud fan'na gan obeithio mewn ffordd yr aiff petha'r un ffordd ond gan wrando ar be ma gen wneuthurwyr ffilm yno i'w ddweud...

"People come down here primarily because they want to make a film, not because they want to invest in the local industry. We have good locations. It provides jobs, but in terms of building local film-making it doesn't change much."
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Gethin Ev » Mer 23 Gor 2003 8:12 am

Pan esh i i Seland newydd (swnio fatha pretencious twat) oeddwn i yn sypreisd faint mor debyg i Cymru oeddo rhan edrychiad, un or llefydd hardda dwi rioed wedi bod. Gwych.
Pan oeddwn i yna oedd yna stwr mawr am hawlia tir y Maori, sydd wedi bod yn mynd yn mlaen ers canrifoedd. Ffwc o ffrae am fod un diwrnod.

Roedd sefyllfa'r Abo's yn Awstralia yn waeth. Sorry state of affairs.
".....then I would go to jail, I'd be buggered.......daily."
Rhithffurf defnyddiwr
Gethin Ev
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1248
Ymunwyd: Maw 15 Ebr 2003 10:02 am

Postiogan nicdafis » Mer 23 Gor 2003 10:42 am

Diolch am hyn Nwdls. Wedi'i <a href="http://morfablog.com/archifau/001473.html">blogio</a>. Mae <a href="http://www.arts.uwo.ca/~andrewf/anzsc/anzsc8/ihimaera8.htm">cyfweliad â nofelydd Maori</a> yn ddiddorol, hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms


Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 22 gwestai

cron