Tudalen 1 o 1

Y Hanner awr Fawr/ Awr Fawr

PostioPostiwyd: Llun 28 Hyd 2002 11:21 pm
gan Madrwyddygryf
Os na unrhyw un fan yma yn gallu dweud i mi sut gallai cael gafael ar lluniau o'r rhaglenni yma ?
Alun

Re: Y Hanner awr Fawr/ Awr Fawr

PostioPostiwyd: Maw 29 Hyd 2002 11:24 am
gan dafydd
Alunewilliams a ddywedodd:Os na unrhyw un fan yma yn gallu dweud i mi sut gallai cael gafael ar lluniau o'r rhaglenni yma ?


Gofyn yn neis i BBC Cymru? :)

Mi wnes i ennill cyfrifiannell ar Yr Awr Fawr (woo!) a mae gen i ychydig o luniau o'r rhaglen rhywle yn fy nghwpwrdd. Mae'n bosib wnai chwilio amdanynt cyn hir..

PostioPostiwyd: Maw 29 Hyd 2002 5:41 pm
gan Mihangel Macintosh
Rhif gwybodaeth BBC Cymru ydy 08700 100 222. Ddylsen nhw'n gallu dy gynorthwyo 'di. Neu e-bostia adborth.cymru@bbc.co.uk

Dwi'n cofio derbyn pecyn goodies Yr Awr Fawr pan o ni'n blentyn - a nathon nhw hyd yn oed darllen llythyr nes i yrru atyn nhw ar yr awyr unwaith.

Pob lwc!

MM

PostioPostiwyd: Mer 30 Hyd 2002 5:01 pm
gan Geraint
Ges i goodies hefyd, tynes i lun o Emyr Wyn a Slim, a ddangoson nhw'r llun ar y teledu!!!! :o

Da chi'n cofio'r "space station" neu falle gyroscope oedd yn cael ei ddangos am oesedd cyn y rhaglen ddechrau?