Tudalen 1 o 1

28 days later

PostioPostiwyd: Mer 30 Hyd 2002 11:41 pm
gan Di-Angen
Gwelais y ffilm newydd Prydeinig yma heno (info ar <a href="http://us.imdb.com/Title?0289043" target="_blank">IMDB</a>) - stori gan Alex Garland.

Roedd e'n dda iawn! Zombie film, yn y bon, ond llawer mwy realistig na beth mae audiences wedi arfer - mae'r zombies yma yn rhedeg, neidio ac yn generally yn lot fwy active na rhei Romero! Rhywbeth gwych hefyd yw'r scenes o Lundain ar ol i'r virus spreadio - hollol wag a tawel - combination o ffilmio'n gynnar a ychydig o computer imagery fi'n credu. Remindio fi lot o "Day of the triffids" hefyd.

Beth bynnag, cast da, ifanc, stori dda a realistic (mor realistic a gallech gael mewn zombie film beth bynnag), ac ychydig o twists da ar y diwedd.

Recommended!

Hwyl

PostioPostiwyd: Iau 31 Hyd 2002 4:36 pm
gan huwwaters
Efo'r The Times Sadwrn cefais CDd 28 days sydd efo'r treilars. Mae'n edrych yn dda.

Hwyl

cachu pants!

PostioPostiwyd: Sul 03 Tach 2002 10:27 am
gan Mihangel Macintosh
Nes i lwyddo i lysgo fy hyn i ffwrdd o'r cyfrifiadur 'ma neithiwr a mynd lawr y sinema leol i weld y ffilm. Ma'r stori a'r actio yn dda iawn, a ma'r gologfeydd cyntaf o Lundain yn hollol wag yn anhygoel. Yn ôl y son, fe'i ffilmiwyd nhw am 6 yn y bore gan ofyn yn boleit i bobl beidio a mynd i lawr strydoedd! Yn wahanol i Zombies mewn ffilmiau eriall, mae'n bosib lladd y rhai yn 28 Days Later, er fod nhw yn symyd yn gyflymach. Nes i actually neidio allan o'n sedd cwpwl o weithiau! Ond fel 'ma Di-Angen yn dweud, er taw ffilm Zombie ydy e yn y bon, ma na blot da iddo fe sy'n datblygu'r ffilm i fod yn fwy o Thriller na jyst ffilm arswyd. Serch hynnu ma na ddigonedd o ologfeydd digon grisly ond na'i ddim rhoi gormod o'r stori i ffwrdd rhag sbwlio fe i unrhyw un sydd heb weld e eto, ond dwi'n argymell i chi fynd i'w weld e os da chi'n hoffi'r math 'ma o beth.

Yr unig gwyn sydd gennai ydy acen y ferch ifanc yn y ffilm - actio da ganddi hi ond rhyw gymysgedd o acenion rhyfedd oedd ddim cweit yn confinsing iawn. Hefyd sylwes i ar lot fawr iawn o Product placement yn 28 Days Later - brand o wisgi, nifer fawr o ddiodydd ysgafn, siocledi a hyd yn oed archfarchnad, yn cael sylw amlwg iawn! Serch hynnu, gan nad oes gan y diwydiant ffilmiau yn Lloegr unrhyw gyllid tebyg i be sydd gan Hollywood, mi allai ddeall pam wnaethpwyd hyn. Well na defnyddio arian Loteri siawns.

Ffilm arswyd dda sydd hefyd yn eithaf doniol ar adegau - 9/10

PostioPostiwyd: Llun 18 Tach 2002 8:31 pm
gan ceribethlem
Remindio fi lot o "Day of the triffids" hefyd.


Cytuno gyda ti Di-Angen (sioc horyr!!). Oedd nifer o bethau yn y ffilm wedi eu codi o nofel John Wyndham. Yr un amlwg sef yr arwr yn dihuno mewn ysbyty heb neb o gwmpas wrth gwrs.
Pethau arall oedd y defnydd o olau i ddangos fod pobl "normal" i'w cael ac wrth gwrs yr arweinydd gwallgo i'r milwyr. Y diweddglo wedyn lle roedd yr arwyr mewn man gwledig secluded tawel.

Wedi dweud hynny ffilm da iawn ac yn fwynhad i'w weld.
Neis gweld ffilm heb arwyr gor-gyhyrog yn ymladd byddin gwallgo ar gen ei hun. Dim cachu gung-ho i'w sbwylo.