Eich cyfres gomedi gorau?

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Beth yw eich rhaglen gomedi orau (oddi ar deledu rhwydwaith Brydeinig)

Blackadder
6
30%
Red Dwarf
1
5%
Drop The Dead Donkey
0
Dim pleidleisiau
Father Ted
5
25%
Fawlty Towers
1
5%
Only Fools and Horses
1
5%
Yes Minister/Prime Minister!
0
Dim pleidleisiau
Absolutely Fabulous
0
Dim pleidleisiau
The Office
2
10%
Arall
4
20%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 20

Eich cyfres gomedi gorau?

Postiogan Cardi Bach » Iau 31 Gor 2003 2:12 pm

Yn dilyn y drafodaeth ar sitcoms americanaidd gorau, beth yw'r gomedi orau sydd wedi bod ar deledu rhwydwaith Brydeinig yn eich tyb chi?

Fi ddim yn siarad am gyfresu gyda setshis fan hyn, fel Fast Show, neu Ali G, na chwaith pethau fel Have I Got News For You, na chwaith deuawdau fel Morcambe and Wise neu the Two Ronnies, na unigolion fel Hancock - ond cyfresu.

Wrth gwrs dim ond rhai dewisiadau galla i roi yn y pol, felly nodwch isod os nad yw'ch ffefryn wedi ei nodi (fy ffefrynnau i, wrth reswm, sydd uchod :) ).

Ma rhai clasuron wedi bod, fel y rhai a restrir uchod.

Hefyd beth am:

Phoenix Nights; The Young Ones; Mr Bean; Rising Damp; Two Pints of Lager and a Pcket of Crisps; Last of the Summer Wine; Vicar of Dibley; League of Gentlemen; Men Behaving Badly; Gimme Gimme Gimme; Coupling; Some Mothers Do Ave Em; One Foot in the Grave; Bread; Keeping up appearances; auf widersehn pet; Alo Allo; Dinnerladies; Porridge; Open All Hours; It aint half hot mum; Brittas Empire; The Thin Blue Line; To The Manor Born; Likely Lads; Upper Hand; Hi-De-Hi; Dads Army; Steptoe and Son; Royle Family...ac eraill.

Mae ddi'n anodd...rhwng Blackadder a Father Ted i fi...Blackadder - jyst! :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Ifan Saer » Iau 31 Gor 2003 2:16 pm

Wel cardi Bach, er i chdi restru canoedd o sef-gom's (dyna gyfieithiad!!) yn dy negas, ti wedi anghofio am yr un gora 'rioed....

SPACED! :D

ffycin gwych. Amhrisiadwy.
Y Cofis wyr y cyfan
Rhithffurf defnyddiwr
Ifan Saer
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1412
Ymunwyd: Gwe 18 Gor 2003 7:08 pm
Lleoliad: Ar fy nhin o hyd

Postiogan Ifan Saer » Iau 31 Gor 2003 2:17 pm

yyy....falla mai com-sef's ddylsa hwn y fod.

ffwc rots, mae'r ddau'n gachu pur. :?
Y Cofis wyr y cyfan
Rhithffurf defnyddiwr
Ifan Saer
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1412
Ymunwyd: Gwe 18 Gor 2003 7:08 pm
Lleoliad: Ar fy nhin o hyd

Postiogan eusebio » Iau 31 Gor 2003 2:18 pm

Father Ted
:lol:

blydi grêt ac yn wreiddiol uffernol hefyd
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Geraint » Iau 31 Gor 2003 2:30 pm

Only Fools a Blackadder i fi. :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Al Jeek » Iau 31 Gor 2003 3:35 pm

Rhy anodd dewis!
Ffefrynnau:
Red Dwarf
Blackadder
Father Ted
Only fools and horses.

Y pedwar yna yw be sy'n neud comedi saesneg yn dda.

Dwim yn gwbo pam, ond dwi erioed di meddwl fod The Office mor dda a hynny, dwin ffeindio pawb arna fo yn really annoying. :?
Al Jeek
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 651
Ymunwyd: Sul 27 Gor 2003 6:45 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Hogyn o Rachub » Iau 31 Gor 2003 5:19 pm

Blackadder, heb os na oni bai i mi!!

Ond Only Fools, Father Ted, Red Dwarf (er aeth o'n crap yn y diwedd), Gimme Gimme Gimme, Some Mother Do 'Ave 'Em, y Royale Family, The Young Ones ... mae 'na gormod i'w rhestru toes!!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Rhodri Nwdls » Iau 31 Gor 2003 7:34 pm

SPACED!

Llygad dy le Idris, clasur guddiedig. Oedd y re-run ar paramount yn ddiweddar. Gret gweld o eto. Ma'r boi Simon na am neud ffilm reit fawr cyn bo hir dwi di clywad...

Blackadder bleidleisiais i ddim ond oherwydd cysondeb y chwerthin nes o'n i ar y llawr. Ma cyfres 1 a 2 Red dwarf yn wych a be am Fawlty Towers? Asgob! Mi fydd League of Gentlemen fyny yna yn yr entrychion gomidaidd mewn blynyddoedd i ddod, ddim cweit eto, angen chydig mwy o amser i weld os barith o. Ond dwi'n credu eu bod nhw fyny na efo'r pythnos am wreiddioldeb twisted.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Gethin Ev » Gwe 01 Awst 2003 8:07 am

Alan Partridge. Ideal. Neis. Bendihyfryd.
".....then I would go to jail, I'd be buggered.......daily."
Rhithffurf defnyddiwr
Gethin Ev
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1248
Ymunwyd: Maw 15 Ebr 2003 10:02 am

Postiogan Al Jeek » Gwe 01 Awst 2003 9:01 am

Yn fy marn i, cyfres 5 a 6 o red dwarf yw'r gorau - mae'r un lle maen nhw'n cael yn styc yn y gem cowbois yn glasur.
Roedd cyfres 7 yn siomedig, wir achos fod chris barrie yn ddoniol (neu pawb yn cymeryd y piss ohono o leia) tra fod y ferch ddim.
Dwi'n meddwl fod cyfres 8 yn reit dda, ond ella gormod "effects" ffansi a dim digon o be sy'n gwneud y gyfres (a llawer eraill) yn ddoniol tu hwnt - pawb mewn un ystafell yn cymeryd y piss o'i gilydd.

Wyddoch chi fod Arthur Picton yn un o raglenni Blackadder yn yr ail gyfres - yn actio morwr cockney sydd eisau i Baldrick a Balckadder ddarllen stori gwely iddo. :lol:
Al Jeek
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 651
Ymunwyd: Sul 27 Gor 2003 6:45 pm
Lleoliad: Caerdydd

Nesaf

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 31 gwestai

cron