Tudalen 1 o 1

Treflan

PostioPostiwyd: Maw 05 Tach 2002 11:30 am
gan Lisa
Wel mae yna lot fawr o arian wedi mynd i fewn i'r ddrama hon - welodd unrhyw un y bennod gyntaf? Beth oedd eich barn chi?

Braidd yn dywyll oedd hi i mi - a dwi ddim yn siwr os oes yna ddigon o gynulleidfa i ddrama o'r fath.

Dwi'n gobeithio y gneiff pobl ei mwynhau hi ac nad dim ond rhywbeth i ddisgyblion Cymraeg Lefel A fydd hi.

Lisa :winc:

PostioPostiwyd: Mer 06 Tach 2002 6:39 pm
gan Hogyn o Rachub
Tywyll iawn, pawb yn siarad fatha gwrachod a hyn a llall ac arall. Doedd hi'm yn rhy ddrwg, ond piti fod ni di cael ryw raglen ARALL am 'yr hen ddyddiau' gan S4C. Bysa rhywbeth mwy modern ar y slot Ddydd Sul honno yn neis i'w gweld!

PostioPostiwyd: Iau 07 Tach 2002 11:28 am
gan Meinir Thomas
'Nes i fwynhau'r ddrama, rhaid dweud! Ond ma'n rhaid i Arwel Gruffydd ddod allan o'i gymeriad ar y rhaglen arall 'na mae'n ymddangos ynddi ar hyn o bryd, sef "Bob a'i Fam". Mae chwerthiniad "Bob" a "Mr Trefor" yn union 'run peth!

PostioPostiwyd: Sad 09 Tach 2002 12:08 pm
gan Chris Castle
Pethau'r hen ddyddiau/pethau cyfoes.

Dwi ddim yn gweld gwrthdaro. Mae rhaid i S4C yn wneud pob math o bethau. Roedd yn dywyll, ond mae bywyd yn dywyll weithiau.
Sdim "llai" o ddim byd sydd ei angen ond "mwy" o bethau eraill. Wedi'r trafferth dros John Owen, mae angen arnon ni am rhwpeth i gymryd lle Pam fi dyw.


Wnes i mwynhau Treflan. Dwi'n bwriadu darllen llyfr nawr.

PostioPostiwyd: Sad 09 Tach 2002 9:54 pm
gan ceribethlem
Sdim "llai" o ddim byd sydd ei angen ond "mwy" o bethau eraill. Wedi'r trafferth dros John Owen, mae angen arnon ni am rhwpeth i gymryd lle Pam fi dyw.


Fi'n cytuno gyda ti i raddau Chris.

Nid "mwy" o bethau, boed yn period pieces neu yn bethau mwy modern, pethau safonol y byddai'n creu diddordeb ynddynt sydd eu hangen.