RET79 a ddywedodd:Gollais i ddechrau y rhaglen. Pan wnes i diwnio fewn chwarae teg roedd y bobl yma'n ymwybodol fod iaith a diwylliant gwahanol yn Sir Gaerfyrddin ac roedden nhw'n dweud fod hyn yn un peth oedd yn eu tynu tuag at symud i Gymru. Roedden nhw'n dweud eu bod eisiau newid llwyr o fyw mewn rhywle prysur fel Congleton ac eisiau dechrau pennod newydd yn eu bywyd.
Dwn i ddim beth yn union oedd y rhesymau dros angen gwneud 'fresh start' ond mae hwn yn un peth dwi wedi ei sylwi fod lot o bobl yn ffoi i Gymru i ddechrau pennod newydd o'u bywyd a fod yr iaith a'r diwylliant gwahanol yn rywbeth sydd yn eu tynu yn hytrach na rhywbeth sydd yn eu rhoi ffwrdd.
Ripit odd y rhaglen - weles i e o'r blan. Odd na gyfeiriad at y Gymraeg arno, ond fawr ddim o bwys - odd y cyflwynwyr ddim yn ei ddefnyddio fel 'ystyriaeth' wrth brynnu ty, yn yr un modd a ystyried 'amenities' megis ysgolion, tafarn, neu hyd yn oed seiliau cadarn ayb. Drwg.
Ond ar pwynt RET uchod, mae hyn yn wir ee yn Iwerddon heddiw. Mae mudo difrifol yn digwydd o fewn y Weriniaeth. Mae pobl yn gadael yn eu miloedd o Ddulyn i fyw yng nghefn gwlad Cork (y sir) neu ar arfordir y Gorllewn i fynd yn ol at ardaloedd Gwyddelig heb ystyried eu bont, yn anffodus, yn gwneud drwg i'r iaith. Mae nhw am fyw yn yr awyrgylch 'quaint' yma, ond naill ai'n gyndyn neu'n ffindo hi'n anodd i ddysgu'r Wyddeleg, ac mae'r diwylliant yr oedden nhw am fyw yn eu plith yn cael eu 'deiliwto' gyda'r miloedd o fudwyr - yn eu hawydd i fod yn rhan o'r ffordd Wyddeleg o fyw (how quaint!) ma nhw'n dinistrio'r holl beth.
Hyn yw mudo mewnol o fewn Iwerddon. Mae hi'n broblem global.