gan SbecsPeledrX » Maw 19 Awst 2003 5:08 pm
2W dwi'n ei gael drwy'r Sataleit. Sorri Hogs os codes i dy obeithion. Dwi methu gael teledu Cymraeg drwy dulliau arferol fan hyn dim ond feckin Yorkshire tonight a Granada, BBC lloegr a sianel 4 - dyna pam fu rhaid i mi brynnu offer Sky.
Mae'n anhygoel pa mor amherthnasol ydi'r sianeli Saesnig i fi. Dwi methu dallt cnychwits yr ochre yma sy'n dadlau fod Wales today gormod am Gaerdydd a'r De ac yn defnyddio hwna fel esgys i wylio Granada. Sdim un blinkin stori am gogledd Cymru ar Granada. gormod am Gymru di real cwyn y dicksbrings am Wales Today ond fydde nhw ddim yn cyfaddef hynnu.
Ac yn fuan fydd Sky yn tynnu HTV Wales o'r sianeli dwi'n ei gallu gael felly dim mwy Soccer Sunday, dim ond swp o sdwff am blinkin Everton, Liverpool a Manure.