Pwynt teg Di-Angen, y broblem fydd gyda ffilm Holywoodaidd yw creu caricatures o'r Cymru. Mae hanes digon diddorol gyda Cymru i wneud ffilm hanesyddol gywir.
Un rheswm pam credaf hyn yw fy mod wedi gweld y rhaglen deledu am Hercules (yr un gyda Kevin Sorbo) a'r barn lluniais oedd ei fod hi'n warthus. Rwy' wedi darllen nifer o'r chwedlau Groegaidd ac mae nhw'n wych. Doedd dim angen creu ffug storiau i Hercules roedd y rhai gwreiddiol yn well!
Mae'n bwysig nad yw hyn yn digwydd gyda Cymru, Ydy mae'n bwysig codi ymwybyddiaeth Cymru a'r Cymry ond does dim angen gwneud "Medieval Bond" fel gwnaeth Kevin Costner gyda Robin Hood.