Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist
nicdafis a ddywedodd:Hoffwn i weld ffilm am Glyndwr sy'n ddigon dewr i ddefnyddio bob iaith oedd yn cael ei defnyddio ym Mhrydain ar y pryd (a rhai o'r rhain o'r cyfandir). Fyddai Glyndwr eu hunan yn siarad o leia 4 iaith, fel <i>statesman</i> da y cyfnod. Byddai'n braf weld ffilm sy'n ddigon dewr i beidio mynd lawr y llwybr treuliedig Braveheartaidd, ond dw i ddim yn rhagweld hynny yn digwydd oni bai bod Martin Scorcese yn darganfod brwd anghofiedig o waed Cymreig yn ei goeden achau.
ceribethlem a ddywedodd:Cytuno'n llwyr gyda ti Huw, mae'n hanfodol bwysig fod pobl yn adnabod Cymru fel gwlad gwahanol.
Y pwynt am gwneud ffilm am Owain Glyndwr yw fod y stori mor wych fe allai rhoi adnabyddusrwydd (os yw hynny'n air!) byd eang i Gymru.
Ond wedi dweud hynny rwy'n cytuno ni ddylid gwneud y ffilm yn yr un modd a Braveheart. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ddefnyddio'r gwir wrth wneud ffilm o'r fath yn hytrach na defnyddio cymeriad ac ysgrifennu stori ffug iddo.
Byddai ffilm am fywyd Owain Glyndwr yn fy mhlesio i'n fawr. Byddai ffilm Hollywoodaidd gyda prif gymeriad o'r enw Owain Glyndwr yn drychineb.
Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai