Ffraethineb

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ffraethineb

Postiogan sian » Mer 15 Tach 2006 9:42 pm

Ar Taro'r Post amser cinio roedd Dylan Jones yn holi rhyw ddyn o'r enw Dai Llywelyn Jones (neu rywbeth tebyg) am y James Bond newydd a dyma fe'n dweud:
"Fe allen ni fod wedi cael Dai another day ond benderfynon ni ei gael o heddiw"

:lol: :lol: :lol:
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Mer 15 Tach 2006 9:47 pm

Ond eto mae o'n gallu bod mor gynnil fel fod ei ffraethineb yn cael ei golli'n eitha aml!
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan bartiddu » Mer 15 Tach 2006 10:35 pm

Fe ofynodd ryw ddynes i Jonsi ynglyn a'r gystadleuaeth dyfalu'r gair coll...

Menyw "Faint yw'r wobr nawr Jonsi?"
Jonsi " Two thirty yw e nawr "
Menyw "O ia, two thirty, dyna beth ma'r chinaman yn deud wrth ei ddentist"

Wel, oni'm di clywed e o'r blaen! :D
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan dawncyfarwydd » Iau 16 Tach 2006 11:10 pm

Jonsi bore 'ma:

Hon yn stori o Estonia, dyn yn fanno 'di bod yn dwyn o siopa, ac yn rhoid y petha yn 'i goes glec. 'Sgwnni ydi Paul McCartney'n gwrando?


:lol:

Bore fory ar Jonsi:
Helo, fi Dai sy 'ma. Wel ma'r hen Jonsi wedi mynd ar 'i holi dês....
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Gwe 17 Tach 2006 12:16 pm

Ma' Jonsi jysd yn dwp, ac weithiau'n deud pethau twp, sydd i lawer o bobl yn digwydd bod yn ddoniol.
Mae gan Dylan Jones ffraethineb.

Cytuno?! :winc:
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Positif80 » Gwe 17 Tach 2006 1:05 pm

Beth am:
For Your Eisteddfod Only
Never Say Nebo Again
A View to a Rhyl
Licenced to Rhyl
?
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 17 Tach 2006 1:57 pm

Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:Ma' Jonsi jysd yn dwp, ac weithiau'n deud pethau twp, sydd i lawer o bobl yn digwydd bod yn ddoniol.
Mae gan Dylan Jones ffraethineb.

Cytuno?! :winc:


Bendant. Dancing drum :D
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan bartiddu » Mer 28 Chw 2007 1:14 pm

Dylan Jones tua 2 funud nol :-
Oes 'na rhagfarn yn erbyn pobol byr? Ffoniwch ni, dyw pobol byr fel arfer dim yn fyr o bethau i ddweud!
:lol:
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Re: Ffraethineb

Postiogan sian » Maw 22 Ion 2008 10:52 pm

Dylan Jones bore 'ma yn dweud beth oedd i ddod ar Taro'r Post.
"Fyddwn ni'n trafod cerflun o pwy fydd yn cael ei roi ar y plinth gwag yn Sgwâr Trafalgar .....
Beth am Plinth Charles?"

Wedyn, ar Taro'r Post, ro'n nhw'n trafod y mater. Rhai'n dweud dylai'r cerfluniau fod yno am ryw dair blynedd ar y tro ac yna cael un o rywun arall.
Un o Gymry Llundain yn dweud "Beth am Dafydd Iwan? Mae e wedi difyrru miloedd."
Dylan Jones: "Ond allech chi ddim o'i roi o yno dros dro. 'Sa raid iddo fo gael bod yma o hyd."
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Ffraethineb

Postiogan bartiddu » Mer 15 Medi 2010 4:09 pm

Taro'r Post heddi...
(yn trafod ysbrydion) "Ebostiwch ni at Taro'r Ghost" ...wel! :gwyrdd:
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Nesaf

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 29 gwestai

cron