Y Rhaglen Wirion 'Na

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Y Rhaglen Wirion 'Na

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 26 Tach 2002 2:31 pm

Y raglen gwlt newydd Cymreig?

Welis i hon ac o'n i ar y nhin yn chwerthin. Ma Iwan John yn wych! Blydi gret cael wbath ffresh ar S4C er ei fod wedi'i anelu at blant. Dyna lle cychwynodd Monty Python cofiwch...

Well gwylio hwn na hen straeon blydi chwaral a capal(ETO!) ar Treflan. Lle mae cynnwys cyfoes y sianel. Mae nhw'n gwybod pwy yw eu cynulleidfa tydyn, oll yn ei zimmers efo bygyr ol gwell i neud na chael eu bwydo a'r uwd oer yw rhaglenni $4C.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan huwwaters » Maw 26 Tach 2002 9:43 pm

Dwi'n ei wotsio os dwi'n dod ar ei draws. Gweles i o gynta ar ddiwrnod Nadolig blwyddyn dwythaf.

Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Rhodri Nwdls » Mer 27 Tach 2002 11:41 am

Dangos faint o S4C dwi'n gwylio ta'n tydi! :)
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: Y Rhaglen Wirion 'Na

Postiogan dafydd » Gwe 29 Tach 2002 12:47 pm

Rhodri Nwdls a ddywedodd:Y raglen gwlt newydd Cymreig?

Welis i hon ac o'n i ar y nhin yn chwerthin. Ma Iwan John yn wych! Blydi gret cael wbath ffresh ar S4C er ei fod wedi'i anelu at blant. Dyna lle cychwynodd Monty Python cofiwch....


Dechreuodd Monty Python fel rhaglen blant?

Mae gan S4C darpariaeth eang a bywiog iawn o raglenni plant (er fod lot o'r rhaglenni arloesol wedi diflannu), ond wedyn mae'n neidio'n syth i bobl canol oed! Mi roeddwn i'n edrych ar lot o raglenni S4C pan o'n i'n yn yr ysgol ond sdim byd llawer gwerth gwylio i unrhyw un rhwng 20 a 40.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 29 Tach 2002 4:26 pm

Ar y teledu beth bynnag "Do Not Adjust Your Set" oedd enw'r rhaglen.

Plant a phobl canol oed ydi cynulleidfa fwyaf S4C a ma'n nhw'n gwybod pwy i drio eu plesio.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Bobi » Gwe 29 Tach 2002 7:56 pm

Gwir - gwir iawn. Mae Planed Plant y dyddie hyn yn gwella (y rhaglen wirion, noc noc, uned 5) a pwyslais yn cael ei roi i rai elfenne hyn yn y rhaglenni (er mwyn denu plant yn eu harddegau efallai - fel sexual undertones a steil mwy "big breakfast" noc noc ac uned 5).... ond mae rhaglenni i bobl ifenc fel "i dot" wedi hen fynd. biti ond o leia mae'r rhaglenni plant yn trio darparu ar gyfer arddegau hwyr.
Bobi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 64
Ymunwyd: Mer 16 Hyd 2002 12:43 pm

Postiogan Ramirez » Gwe 17 Ion 2003 7:30 pm

Voltron. Amheus.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Postiogan Meinir Thomas » Mer 22 Ion 2003 8:39 pm

Dyw rhaglenni plant heddi ddim hanner cystal a beth oedden nhw pam oeddem ni'n blant. Dim byd yn erbyn Rhaglen Wirion, na Hotel Eddie, sydd yn ffab a hileriys, ond dyw'r rhan fwyaf o'r stwff ddim hanner cystal a Hafoc, Ffalabalam ayyb. Roedd Uned 5 yn dda unwaith, ond ma' hwnnw 'di mynd lawr y toilet nawr 'fyd. Ma'r cyflwynwyr newydd yn uffernol! Dewch 'nol a Rhodri, Nia a Heledd! Nawr 'na chi gyflwynwyr o safon.
Rhithffurf defnyddiwr
Meinir Thomas
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 220
Ymunwyd: Maw 24 Medi 2002 10:25 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Teledu Cymraeg yr 80au

Postiogan Geraint Edwards » Iau 23 Ion 2003 12:11 pm

Tydi teledu Cymraeg i blant y dyddia hyn ddim gystal a'r hyn y bu ers talwm yn oes aur teledu Cymraeg, yr 80au. Dachin cofio Hafoc (lot mwy anarchaidd nag Uned 5) a Syr Wynff a Plwmsan? Odd gen ti hefyd lot o gartwns Cymraeg fel Inspector Gadget a'r Smyrffs, sydd byth ar S4C bellach.

Fel mae'r oes di newid!
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint Edwards
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 660
Ymunwyd: Sul 19 Ion 2003 10:39 pm
Lleoliad: Llanddeiniolen / Caerdydd

Postiogan Geraint » Iau 23 Ion 2003 12:30 pm

Mr Mostyn oedd y cartwn gore, oedd e mor 'surreal', dwi'n meddwl mae cartwn Eidaleg oedd, Mr Rossi.

Hefyd, y cartwns ar yr awr fawr, am y plant yn y gofod, ar cathod yn y garej oedd yn rasio 'dragsters', a chi'n cofio'r castell na gyda pypedau, lle roedd y derbynydd yn pwped llaw da spectols ar chain?

A'r gore o nhw gyd................siop siafins.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Nesaf

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron