Y Rhaglen Wirion 'Na

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Cardi Bach » Iau 23 Ion 2003 12:38 pm

Rhaid anghytuno !

Er mor dda odd siop siafins, y gore o'r gore heb os odd Now a Ned. o'n i'n pisho'n hunan yn chwerthin bob tro odd e ar!

Long live Yr Awr Fawr/Hanner Awr Fawr (H.A.F. - ma'r crys-T dal 'da fi!)/Hafoc!!! 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Gruff Goch » Iau 23 Ion 2003 12:39 pm

Mr Mostyn! Dwi'n cofio hwnna!

Rhywun yn cofio Now a Ned?

Gruff

PS Dwi'n meddwl fod pobl yn tueddu i edrych nôl ar raglenni eu plentyndod drwy sbectol lensys pinc- ma na rai pobl yn meddwl fod Bagpuss yn dda. Bagpuss! Be sy'n bod ar bobl...
Rhithffurf defnyddiwr
Gruff Goch
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1148
Ymunwyd: Iau 12 Rhag 2002 1:22 pm
Lleoliad: neuadd fawr rhwng cyfyng furiau

Postiogan Rhodri Nwdls » Iau 23 Ion 2003 1:47 pm

O na byddai'n H.A.F o hyd...

Now a Ned yn Czech classic. Mae'r tiwn wedi ei brintio ar fy ymennydd, oes rhywun am neud cover happy hardcore ohono? Bois technoleg hafan gerddoriaeth??
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Geraint » Iau 23 Ion 2003 2:07 pm

Awr Fawr: Emyr Wyn, ie, ond pwy oedd Slim??

H.A.F: 'Elfis Preseli', Grimbon

Oes rhywun arall yn cofio'r cartwns ar yr AWR FAWR? Does neb dwi di siarad efo yn ei cofio, dwi weithiau yn meddwl mae fy'n nychymyg bywiog a greuodd nhw!
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan ceribethlem » Iau 23 Ion 2003 6:35 pm

Oes rhywun arall yn cofio'r cartwns ar yr AWR FAWR? Does neb dwi di siarad efo yn ei cofio, dwi weithiau yn meddwl mae fy'n nychymyg bywiog a greuodd nhw!


Mae gen i gof am ryw He-Man type cartwn ar yr Awr Fawr lle'r oedd rhyw deinosors da yn byw gyda'r He-Man boi 'ma. Roedd un o'r deinosors yn hedfan ac yn saethu lasers mas o'i lygaid a'i gynffon, roedd triceratops yn saethu cerrig mas o'i gyrn ac roedd dau blob mawr yn bownso rownd.
Unrhywun yn cofio?
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Bobi » Iau 23 Ion 2003 8:23 pm

ceribethlem a ddywedodd:
Mae gen i gof am ryw He-Man type cartwn ar yr Awr Fawr lle'r oedd rhyw deinosors da yn byw gyda'r He-Man boi 'ma. Roedd un o'r deinosors yn hedfan ac yn saethu lasers mas o'i lygaid a'i gynffon, roedd triceratops yn saethu cerrig mas o'i gyrn ac roedd dau blob mawr yn bownso rownd.
Unrhywun yn cofio?


hahaha! Nath y disgrifiad yma i fi chwerthin!! a dwi dal ddim callach be oedd y rhaglen!!!! :D
Bobi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 64
Ymunwyd: Mer 16 Hyd 2002 12:43 pm

Postiogan Geraint » Iau 23 Ion 2003 10:13 pm

ceribethlem a ddywedodd:
Mae gen i gof am ryw He-Man type cartwn ar yr Awr Fawr lle'r oedd rhyw deinosors da yn byw gyda'r He-Man boi 'ma. Roedd un o'r deinosors yn hedfan ac yn saethu lasers mas o'i lygaid a'i gynffon, roedd triceratops yn saethu cerrig mas o'i gyrn ac roedd dau blob mawr yn bownso rownd.
Unrhywun yn cofio?


Dwi'n cofio! Diolch Ceri, sai di meddwl am y rhaglen na am blynyddoedd maeth, oes gan rhywun fwy o atgofion cartwnau yr AWR FAWR?
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan dafydd » Iau 23 Ion 2003 11:08 pm

Geraint a ddywedodd:Dwi'n cofio! Diolch Ceri, sai di meddwl am y rhaglen na am blynyddoedd maeth, oes gan rhywun fwy o atgofion cartwnau yr AWR FAWR?


Dwi ddim yn cofio os mai o'r Awr Fawr oedd hwn, ond oes rhywun yn cofio Garan o'r Gofod? Nid cartwn ond rhyw raglen o america wedi ei ddybio?
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 24 Ion 2003 1:36 pm

Reit y he-man-aidd oedd Sandor oedd yn byw ar blaned efo llwyth o goed oedd yn edrych fel madarch tal. Dim syniad beth oedd enw'r aderyn na'r hogan ynddo fo.

Enw'r Triceratops oedd yn saethu cerrig...TWWWWNDRAAAAAA!!

Un arall o'r Awr Fawr, Modlen y Fuwch (wrth y bocs teliffon, cofio?)

Gari'r Gath a Sami Sbardun oedd y cartwn cat a mows.

Blydi hel raid i fi fynd allan fwy...
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan dafydd » Gwe 24 Ion 2003 1:52 pm

Rhodri Nwdls a ddywedodd:Reit y he-man-aidd oedd Sandor oedd yn byw ar blaned efo llwyth o goed oedd yn edrych fel madarch tal.


Ardderchog.. Yr Herculoids oedd enw'r gwreiddiol..

lluniau fan hyn

Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 21 gwestai

cron