Tudalen 1 o 2

Y Cawr o'r Waun Ddyfal

PostioPostiwyd: Iau 22 Chw 2007 6:52 pm
gan huwwaters
Hoffwn gyflwyno ffilm fer. Y Cawr ei hun yn ymarfer megis arddull Rocky Balboa.

Mae'r ffilm i'w weld ar youtube, trwy'r ddolen isod:

http://www.youtube.com/watch?v=akblAeDbUnA

PostioPostiwyd: Iau 22 Chw 2007 11:12 pm
gan deiz
A'ir gymraeg am Cathays ydy 'Y Waun Ddyfal'?

PostioPostiwyd: Iau 22 Chw 2007 11:40 pm
gan dafydd
deiz a ddywedodd:A'ir gymraeg am Cathays ydy 'Y Waun Ddyfal'?

Na. Mae'r Mynydd Bychan a'r Waun Ddyfal yn hen enwau ar ardal sy'n cael ei adnabod yn saesneg fel yr 'Heath'.

PostioPostiwyd: Iau 22 Chw 2007 11:51 pm
gan huwwaters
deiz a ddywedodd:A'ir gymraeg am Cathays ydy 'Y Waun Ddyfal'?


Dwi'n meddwl na Little Heath yw'r Waun Ddyfal, ond mae nifer yn ei hadnabod fel Cathays.

PostioPostiwyd: Gwe 23 Chw 2007 12:12 am
gan deiz
Nath rhywun detha fi unwaith bod Cathays yn dod or geiriau 'Cath wyllt or Hayes'. Ydy hyn yn wir?

PostioPostiwyd: Gwe 23 Chw 2007 8:10 am
gan Fflamingo gwyrdd
Mae edefyn arall (neu ddau) yn trafod yr enwau yma. Sori, dim amser i'w darganfod ar eich rhan, ond dwi'n siwr y byddant yn dod yn amlwg wrth ddefnyddio'r botwm ymchwilio :winc:

PostioPostiwyd: Gwe 23 Chw 2007 8:23 am
gan krustysnaks
Yn cymyd y mihangel allan o ymgyrchoedd ymarfer Rocky.

Ymgyrchoedd ymarfer?!
Ti di bod yn bwyta Briws?

PostioPostiwyd: Gwe 23 Chw 2007 12:17 pm
gan ffwrchamotobeics
Oes raid postio'r fideo yma mewn 2 edefyn? Ma'n shit

PostioPostiwyd: Gwe 23 Chw 2007 12:48 pm
gan khmer hun
Paid bod mor haerllug, ffwrch!

PostioPostiwyd: Gwe 23 Chw 2007 6:00 pm
gan Huw Psych
Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:Mae edefyn arall (neu ddau) yn trafod yr enwau yma. Sori, dim amser i'w darganfod ar eich rhan, ond dwi'n siwr y byddant yn dod yn amlwg wrth ddefnyddio'r botwm ymchwilio :winc:


Dyma fo! (gan fod gyna i bentwr o amsar i ddod o hyd iddo fo! :winc: )

Y casgliad o'r edefyn i'r rhai sydd heb ddim mynadd i ddarllan o ydi Cathays = Y Waun Ddyfal, Heath = Mynydd Bychan, felly caiff yr Cawr orffwys mewn hedd!

Fidio clas gyda llaw...be oedd y boi camra yn neud tra oedda tn rhedeg - magu bloneg?! :winc: