Huw Psych a ddywedodd:[Y casgliad o'r edefyn i'r rhai sydd heb ddim mynadd i ddarllan o ydi Cathays = Y Waun Ddyfal, Heath = Mynydd Bychan, felly caiff yr Cawr orffwys mewn hedd!
Nid dyna 'gasgliad' yr edefyn. Gwraidd y broblem yw y gred (anghywir) fod un enw Cymraeg yn cyfateb yn union a enw Saesneg, yr un fath a'r bobl od hynny sy'n credu fod pob gair Saesneg yn cyfieithu i un gair Cymraeg. Mae Cathays a'r Waun Ddyfal yn enwau penodol ar ardaloedd yng Nghaerdydd (efallai yn gorlapio ychydig) ond dyw hynny ddim yn ei gwneud nhw'n gyfatebol.