Pobl y Cwm

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pobl y Cwm

Postiogan Robin Pigwyn » Llun 02 Rhag 2002 11:10 pm

Mae hyn yn mynd yn groes i'r graen imi...
Ond mae'n rhaid imi gyfaddef fod Pobl y Cwm wedi gwella rhywfaint yn ddiweddar.
Bellach 'di'r plot ddim mor wallgo o anghredadwy ag oedd o wedi bod. Mae hefyd yn dipyn o bonus fod hen wyneb coracharidd Reg Harries wedi ymddangos dipyn yn llai nac arfer.
Mae dipyn o waith gwella eto, ond o leia mae'n gam i'r cyfeiriad iawn.
Rhithffurf defnyddiwr
Robin Pigwyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 42
Ymunwyd: Mer 18 Medi 2002 8:48 pm
Lleoliad: Gwynedd

Postiogan Meinir Thomas » Llun 09 Rhag 2002 1:15 pm

Cewch chi ddim rhaglen gwell na Pobol y Cwm! :D Ond ma' angen dod 'nol a Dave Marshall. Mae e mor HOT!!!!
Rhithffurf defnyddiwr
Meinir Thomas
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 220
Ymunwyd: Maw 24 Medi 2002 10:25 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan ceribethlem » Llun 09 Rhag 2002 10:03 pm

Mae Pobol y Cwm wedi creu hanes eto trwy gael ail chwaraeuwr rygbi rhyngwladol i ymddangos arni. Y cyntaf wrth gwrs oedd Ray Gravell, nawr mae Sililo Martens, mewnwr rhyngwladol Tonga wedi cael ei ddewis i fod yn chwaraeuwr rybgi o Donga ar y rhaglen. Tybed os fydd gyrfa actio Sililo yn typecast yn dilyn hyn?
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Renbotrowt » Sad 04 Ion 2003 9:53 pm

Chwara teg hefyd, ma pobol y cwm wedi rhoi llwyth o laffs i mi dros y blynyddoedd. Dwi'm yn meddwl bod na'm byd doniolach di bod erioed na Anti Marian yn saethu Denzil efo shotgun; a hynnu o bellter o ryw ddwy drodfadd! A methu lladd y diawl boliog yn diwadd! Pwy bynnag feddyliodd honna fynnu, mi ddyla fo fod yn sgwennu comediau yn hytrach na operau sebon cachu fatha pobol y cwm.
Renbotrowt
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 2
Ymunwyd: Sad 04 Ion 2003 9:45 pm

Postiogan ceribethlem » Sul 05 Ion 2003 1:43 am

Mae gen i gyfle fan hyn i fynd yn ol at y pwynt am Sililo Martens, mae'r plot (yn ol y Western Mail ta beth, fi ddim yn edrych ar PYC) wedi datblygu i ddysgu Cymraeg i Martens. Mae hyn yn gysylltiedig i ymgais Sililo i ddysgu Cymraeg. Mae ail fewnwr Penybont (sef Huw Harries) wedi bod yn helpu Sililo i ddysgu Cymraeg.
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du


Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron