Welis i ffilm neithiwr ar S4C, oedd o'r peth mwyaf chwerthinllyd dwi wedi ei weld ar y sianel ers oes pys. Oedd na bedwar ohonan ni yn piso crio'n chwerthin yn y lownj. Y pwynt yw doedd o ddim i fod yn gomedi. Chwarae teg i S4C am gomisynu Cant Y Cant(2000) (Cant o conts fwy tebyg). Ffilm wych arall ganddynt i ychwanegu at eu casgliad o dyrdiau clyweledol sy'n prysur flocio bog cynnyrch S4C. Oes rhywun arall wedi ei gweld hi? Ai jest fi sydd ddim mewn cysylltiad a realiti? Shwrli not.
NGGGGGHHHHHH...un arall ar y ffordd..."Dirgelwch yr Ogof"...Sblash! Dowch a'r domestos...