Mae Tu Chwith a Pictiwrs yn chwilio am ffilmiau byrion amrywiol ar gyfer DVD aml-gyfrannog.
Felly, mae ganndoch chi syniad/ffilm - be di'r cam nesaf? Dyma ganllaw byr tuag at gynhyrchu eich ffilm a beth fyddwn ni ei angen.
[cliciwch yma i weld fersiwn fwy o'r poster]
Beth?
Rydyn ni'n chwilio am ffilmiau byrion o bob math ar gyfer y DVD: dogfennol, arbrofol, ffuglennol neu gelfyddydol. Bydd y DVD wedyn yn cael ei ddosbarthu gyda Tu Chwith ac yna'n eang i sinemâu a chymdeithasau ffilm ledled Cymru.
Canllawiau
- Rhaid i'r ffilm fod yn llai na 10-munud o hyd ar y thema newid (wel, yn eitha llac ar y thema newid!).
- Rhaid i unrhyw ddeialog yn y ffilm fod yn y Gymraeg.
- Rhaid i chi fod wedi clirio'r hawliau ar gyfer y ffilm, a galli profi hyn pe bai'r angen yn codi (gweler isod).
- Rhaid iddo'n cyrraedd ni erbyn y 19eg Tachwedd 2007.
Lle ddyliwn i ei anfon?90 Heol y Prior, Caerfyrddin, SA31 1NU
FformatDylech anfon eich ffilm un ai ar fformat tâp MiniDV, neu ffeil Quicktime. Y ddau fformat hyn fydd yn sicrhau y byddwn yn gallu eu rhoi ar y DVD yn ddi-drafferth, ac y bydd safon y llun yn trosgwlyddo'n ddigon da i'r DVD.
Os cewch broblem gyda hyn yna gadewch i ni wybod ac fe driwn ni ffeindio ateb.
Sut i fynd ati i wneud ffilm fer?Mae yna sawl gwefan sydd yn rhoi cyngor ar sut i fynd ati i sgwennu a saethu ffilm fer, ond dyma rai esiamplau:
Clirio Hawlfraint
Er mwyn i'ch ffilm fod yn gymwys ar gyfer ei gynnwys ar y DVD ac ar gyfer gallu ei ddangos yn gyhoeddus bydd angen i chi sicrhau fod pob person sydd yn cyfrannu, boed ar y sgrin neu o ran eich cerddoriaeth wedi arwyddo ffurflenni rhyddhau.
Mae hyn yn hollbwysig fel na fyddwch chi (a Pictiwrs a Tu Chwith!) yn gallu cael eu hatal rhag dangos y ffilm (neu hyd yn oed eich siwio mewn achosion gwael) os nad oes gennym ni hawl i'w dangos. Dylech chi allu darparu copiau o'r rhain i Pictiwrs/Tu Chwith os caiff eich ffilm ei dewis ar gyfer y DVD.
Mae'r broses yn un syml iawn, cyn belled eich bod yn ei wneud yn systematig wrth wneud eich ffilm a defnyddio rhai o'r templadau isod.
Adnoddau Hawlfraint
Gallwch lawrlwytho esiampl o ffurflenni rhyddhau o wefan
Current TV (bydd angen newid y testun rhywfaint) neu ebostiwch fi (rhodri [at] pictiwrs [dot] com) ac fe allaf i anfon esiampl arall atoch chi.
Mae
tudalen ar wefan BBC Film Network sy'n mynd i ragor o fanylder am hyn, ond y peth pwysicaf i'w wneud yw i gael pawb sy'n gweithio ar y ffilm i arwyddo un.
Cerddoriaeth
Bydd angen i chi wneud yr un peth am gerddoriaeth eich ffilm os yw'r gerddoriaeth wedi cael ei gyfansoddi gan unrhywun arall.
Ond mae hi'n bosib dod o hyd i gerddoriaeth sy'n rhydd o hawlfraint hefyd. Mae Moby er enghraifft wedi rhoi tipyn o'i gerddoriaeth o ar-lein ar
Moby Gratis yn arbennig ar gyfer defnydd mewn ffilmiau.
Yn ychwanegol, dwi'n siwr na fuasai gan bandiau Cymraeg newydd wrthwynebiad i chi ddefnyddio eu cerddoriaeth ar eich ffilm cyn belled eich bod yn gofyn chi'n neis iddyn nhw! Does dim byd yn bod â thrio nacoes, ac mae MySpace yn gwneud hi'n haws nac erioed i gysylltu â band. Dyma'r
rhestr gwefannau MySpace gan fandiau Cymraeg.
Mae gan wefan
Britfilms y Cyngor Prydeining dudalen sy'n ceisio amlinellu hawlfrieniau a cherddotriaeth ar gyfer ffilm.
Help! Dwi dal ddim yn dallt!
Os oes ganddoch chi unrhyw gwestiwn pellach ynglŷn â'r DVD neu am sut i fynd ati i wneud ffilm fer fe driwn ni ein gorau i roi cyngor, neu o leiaf i ffeindio arbennigwr all wneud hynny!
Cysylltwch yn y blwch sylwadau fama, neu anfonwch ebost at rhodri [at] pictiwrs [dot] com neu ffonio 07855 362206.
Ac yn ola dyma ddau ddyfyniad gan Hitchcock sy'n addas ar gyfer ffilmiau byr yn fy marn i:
Alfred Hitchcock a ddywedodd:Drama yw bywyd efo'r holl ddarnau diflas wedi eu torri allan
Alfred Hitchcock a ddywedodd:The length of a film should be directly related to the endurance of the human bladder.
Joiwch!