O FLAEN DY LYGAID: Ydw i'n Gelt?

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

O FLAEN DY LYGAID: Ydw i'n Gelt?

Postiogan Prysor » Iau 08 Mai 2008 3:36 pm

Nos Fawrth 13 Mai 9.00yh

Yr awdures doreithiog a thalentog Catrin Dafydd, a rhyw rafin o'r mynyddoedd, yn teithio i lefydd amlwg (a nid mor amlwg) a chwrdd â arbenigwyr, i ffendio allan a oes sylfaen hanesyddol/ffeithiol i'w hunaniaeth Celtaidd.

Gwler yma

(a pwy di'r person hanesyddol annisgwyl mae'r rafin dan sylw yn ddisgynnydd uniongyrchol iddo? :winc: ) Ydi Prys yn gallu martsio ar Lundain i gipio'r goron??? 8)

Rhaglan ddifyr, bobol. Hence y plyg yma. Fysa'n gas gen i i fy nghyd-Faeswyr ei methu!
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: O FLAEN DY LYGAID: Ydw i'n Gelt?

Postiogan Geraint » Iau 08 Mai 2008 3:42 pm

Swnio fel rhaglen ddiddorol iawn. Sut da chi'n mynd ati i gael prawf DNA, baswn wrth fy modd yn cael un.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Re: O FLAEN DY LYGAID: Ydw i'n Gelt?

Postiogan Prysor » Iau 08 Mai 2008 3:47 pm

fan hyn ddefnyddiwyd i'r rhaglen, cwmni cartrefol, hoffus yn Stockport.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: O FLAEN DY LYGAID: Ydw i'n Gelt?

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 08 Mai 2008 4:33 pm

Dwi'n amheus iawn o fynd ar ôl cenedligrwydd ar sail hil, gwaed a DNA - er o adnabod Prysor a Catrin mod i'n gwybod eich bod chi'n llawn ymwybodol o hynny a jest wedi cymryd rhan for ddy sec of it, ond mae cynsail y rhaglen braidd yn sceri i mi...

Ffrancwyr ydy fy ngheulu i a'r ddau ochr fy nheulu (Taid a Tadcu) o fynd nol rhai canrifoedd ond dwi'n sicr yn Gymro sy'n profi mae rwtsh llwyr a pheryglus yw cenedligrwydd ar sail gwaed.

...wedi dweud hynny ar gangen arall o deulu Taid rwy'n ddisgynydd i Eudaf Hen oedd yn Dâd i Elen oedd yn wraig i Macsen Wledig; fy nhyad wedi llwyddo i brofi hyn gyda dogfennau hanesyddol yn y LLGC 8)
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: O FLAEN DY LYGAID: Ydw i'n Gelt?

Postiogan Chickenfoot » Iau 08 Mai 2008 5:31 pm

Welais i raglen tebyg ar y Sianel Hanes, lle darganfododd dyn oedd hefo hunanoliaeth du cryf iawn, fod y rhan fwyaf o'u gyndeidiau yn bob gwyn o dde Ewrop. :syniad:
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: O FLAEN DY LYGAID: Ydw i'n Gelt?

Postiogan Prysor » Iau 08 Mai 2008 6:43 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:Dwi'n amheus iawn o fynd ar ôl cenedligrwydd ar sail hil, gwaed a DNA - er o adnabod Prysor a Catrin mod i'n gwybod eich bod chi'n llawn ymwybodol o hynny a jest wedi cymryd rhan for ddy sec of it, ond mae cynsail y rhaglen braidd yn sceri i mi...


Bobol bach, Rhys! Fuodd unhyw un ar y Maes 'ma mor ddrwg â thi am farnu cyn gwybod y ffeithiau? :winc:

Tydi'r rhaglen ddim yn ceisio profi unrhyw hunaniaeth - cenedlaethol, hiliol na diwylliannol - yn enetaidd! Yn hytrach, profi i'r gwrthwyneb mae'r rhaglen. Fel fydda i'n deud yn gyson drwy'r rhaglen, nid yw hunaniaeth yn ennynol. Hinsawdd diwylliannol sy'n ffurfio hunaniaeth.

Rhys Llwyd a ddywedodd:er o adnabod Prysor a Catrin mod i'n gwybod eich bod chi'n llawn ymwybodol o hynny a jest wedi cymryd rhan for ddy sec of it


Yndan, da ni'n llawn ymwybodol o hynny, diolch i ti am nodi. Felly be sy'n gneud i chdi feddwl ein bod wedi 'cytuno i gymryd rhan for ddy sec of it'? Ti'n meddwl fysa ni'n neidio at y cyfla i fod ar y teli ar unrhyw ffwcin raglan sy'n digwydd ffonio i fyny? Tasa hynny'n wir fyswn i'n media whore erbyn rwan, met! Hwrach fod o'n syrpreis i ti, ond mae gan bagan fel fi gymint o egwyddorion â unrhyw Gristion pybyr yng Nghorlan ddethol y ddynoliaeth. A gyda llaw - mae'r gair "gwybod" yn y dyfyniad gennyt uchod, yn arwyddocaol iawn - ti'm yn meddwl? Achos dwyt ti ddim i weld yn gwybod mai o safbwynt hanesyddol a fy niddordeb penodol yn y meysydd hunaniaeth, diwylliant poblogaidd a Cheltigrwydd, y cytunais i wneud y rhaglen, nac ychwaith yn gwybod mai o'r safbwynt hynny, yn hollol, y mae'r rhaglen - a'i chynhyrchydd didwyll - yn dod.

Gwefan O Flaen Dy Lygaid a ddywedodd:Bydd y rhaglen yn dilyn taith y ddau wrth iddynt holi amrywiol arbenigwyr am y syniad hwn o fod yn Gelt. Maent yn dystion i ddigwyddiadau ‘Celtaidd’ ac yn fwy chwyldroadol, maen nhw’n cymryd prawf DNA i ddarganfod eu llinach trwy wyddoniaeth.


Tydi'r profion DNA yn y rhaglen yn ddim mwy na difyrrwch - i olrhain llinach teuluol a haplogrwp DNA. Dwi'n deud yn y dechrau mai aelod o'r bobl oedd yma cyn dyfodiad y diwylliant a gwareiddiad Celtaidd ydw i, ond mai hunaniaeth Celtaidd sydd gennyf. Mae'r profion DNA, wedyn, yn profi hyn - ac felly'n profi mai dim geneteg sy'n gwneud hunaniaeth.

Mae fy erthygl yn Golwg heddiw, er yn gryno, yn egluro'n fanylach. Ond yn fras, mae rhai academyddion Seisnig yn dadlau na all 'Celtigrwydd' fodoli, ac mai myth yw'r holl ymdeimlad Celtaidd 'ma mae pobl yn deimlo (fwyfwy) heddiw. 'Sail' eu honiad yw'r ffaith mai grwp ieithyddol a diwylliannol oedd y Celtiaid, yn hytrach na chenedl. Os nad oedd y Celtiaid - fel pobl - yn bodoli, felly, all Celtigrwydd ddim bodoli. Herio'r gosodiad hynny ydw i, gan fy mod yn teimlo fy mod i'n Gelt - oherwydd fy niwylliant (hanes, iaith, tiriogaeth, syniadaeth ac ati). Mae Catrin yn mynd ar daith i weld os, neu pam, ei bod hi'n Geltes.

Gwylia'r rhaglen gyntaf. Bydd mor negyddol ag y lici di wedyn. Ond rhaid i mi ddeud, fedra i ddychmygu pam dy fod angen crefydd i dy gynnal os oes gen ti olwg mor negyddol a beirniadol ar bopeth.

Ond mi faddeua i iti. :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: O FLAEN DY LYGAID: Ydw i'n Gelt?

Postiogan Prysor » Iau 08 Mai 2008 6:46 pm

Dewi Prysor yn Golwg heddiw a ddywedodd:Mae’na filiynnau o bobol ar draws y byd yn galw’u hunain yn Geltiaid. Ond gan nad oedd y Celtiaid yn bodoli fel pobl o dras cyffredin, mae ambell academydd yn dadlau nad yw Celtigrwydd yn bodoli chwaith. Ond mae’n hunaniaeth Celtaidd i yn bodoli, ac mae un gair yn egluro’i wneuthuriad – parhad. Parhad hanesyddol, diwylliannol ac ysbrydol y Brythoniaid.

Ond oes’na sail hanesyddol i’r elfennau yma o fy Ngheltigrwydd? Ydyn nhw’n fy ngwneud i’n Gelt? Wrth ffilmio’r rhaglen, ges i gyfle i holi arbenigwyr os ydi fy hunaniaeth wedi’i seilio ar barhad hynafol, neu ydi o’n agwedd ar ymdeimlad diweddarach, a dyfodd wedi i academwyr dderbyn y term ‘Celt’, yn yr 17ed ganrif?

Nid term ydw i, ond person. Hanes a diwylliant sy’n ffurfio hunaniaeth, nid mympwy academwyr. Roedd y Celtiaid yn bodoli cyn i Groeg ein henwi, cyn i Rufain ein diffinio, a chyn i Edward Llwyd ein ffurfioli. Mae fy hunaniaeth Celtaidd yn bodoli tu hwnt i hunaniaeth cenedlaethol, tra hefyd yn ei atgyfnerthu. Mae’n adlewyrchu’r syniad o berthyn i wareiddiad ehangach na chenedl.

Roedd y Celtiaid cyn-Rufeinig yn ymwybodol eu bod yn rhannu’r un arferion, cyfreithiau, athroniaeth, chwedloniaeth a chredoau, ac yn uno, pan fo’r galw, i amddiffyn y gwareiddiad cyffredin hwnnw. Roeddan nhw’n adeiladu ffyrdd, masnachu a chrwydro dros Ewrop ganrifoedd cyn goruchafiaeth Rhufain. Roedd y llwythi’n gyfarwydd â’i gilydd, ac yn aml yn siarad yr un iaith â llwyth ar ochr arall y cyfandir. Ydan ni i gredu fod pobl mor ddeinamig, oedd yn ffynnu ar gadw hanes ac achau ar gof a chadw, ddim yn ymwybodol eu bod nhw’n rhannu’r un gwreiddiau?

Er gwaetha’r dieithrio diwylliannol a chrefyddol rhwng y Brythoniaid a’r Gwyddyl yng nghyfnod y Rhufeiniaid, mae’r syniad o berthyn i lwythi gwahanol oddifewn i wareiddiad cyffredin wedi goroesi hyd heddiw – ond ein bod ni’n genhedloedd, nid llwythi, erbyn hyn.

Gellir diffinio’r Celtiaid fel grwp ieithyddol. Ond mae mwy i Geltigrwydd na hynny. Rydan ni’n bobol creadigol, toreithiog a byrlymus, yn ddwys a hwyliog, ac yn mwynhau’r craic fel neb arall. Daw’r brwdfrydedd yma o gred ein hynafiaid fod bywyd arall i ddilyn ar ôl hwn – yn wahanol i’r Rhufeiniaid a’r Almaenwyr, â’u diwylliant treisgar a materol yn rhoi pwyslais ar gasglu cyfoeth a grym cyn i fywyd ddod i ben.

Mae’r traddodiad barddol Celtaidd heb ei ail hyd heddiw. Roedd y beirdd yn rhan o’r ‘dosbarth’ deallusol a elwid yn dderwyddon (‘rhai â doethineb y dderwen’), yn cadw hanes, achau a chôf y llwyth. Ond roedd ganddyn nhw rôl ysbrydol hefyd. Credai’r Celtiaid yng ngrym y Gair fel sylfaen pob Gwir, a’r beirdd oedd ceidwaid y grym hwnnw. Roedd beirdd Prydain ac Iwerddon yn ysbrydoli, melltithio a dychan trwy rym y gair, ac roedd llafarganu barddoniaeth yn ganolog i rai o ddefodau’r Celtiaid.

Tra bod crefydd y Celtiaid yn anrhydeddu elfennau natur, sylfaen y crefydd hwnnw oedd athroniaeth naturiol Derwyddiaeth. Mae Derwyddiaeth yn seiliedig ar wyddoniaeth rythmau natur – troead yr haul, lleuad a’r tymhorau, a chylchdro naturiol popeth byw. Yr anarchiaeth naturiol hwn yw sylfaen gwareiddiad, nid crefyddau a systemau gwleidyddol. Credai Derwyddiaeth mewn tegwch, ewyllys rhydd ac – fel sawl dysgeidiaeth Indo-Ewropeaidd arall – yng ngrym y gair.

Roedd gan y Celtiaid gannoedd o dduwiau a duwiesau oedd yn personoli gwyddoniaeth naturiol, ac roedd eu prif dduwiau, fel Lleu, Beli Mawr a Dôn, yn gyffredin trwy’r gwareiddiad Celtaidd i gyd. Nid duwiau, yn yr ystyr diwinyddol, oedd rhain, ond pobl – arwyr o blith dynion, oedd hefyd yn dduwiau a duwiesau. Roedd y Celtiaid yn unigryw i gredu mai nhw greodd eu duwiau, nid eu duwiau a’u creodd nhw.

Bodolai Derwyddiaeth y tu hwnt i grefydd, felly gallai oroesi tueddiadau’r oesau. Mae o’n fyw o hyd mewn ardaloedd gwledig. Rythmau natur sy’n llywio bywyd cefn gwlad, ac mae arferion derwyddol, fel barddoni a dathlu’r tymhorau, yn ffynnu o hyd. Dydan ni’m angen duwiau a defodau heddiw, i ddeall, dilyn ac anrhydeddu Natur. Ond mae’r duwiau wedi goroesi mewn chwedlau, a mae hydnoed rhai o’r defodau i’w gweld heddiw ar ffurf coelion, arferion, diarhebion ac enwau planhigion – yn rhan annatod o’n llên gwerin.

Ar ei draed ei hun, neu wedi addasu efo’r oesau, mae Celtigrwydd yn bodoli, fel oedd o’n bodoli yn oes Caswallawn, Cynfelyn a Charadog. All run ddadl academaidd newid y Gwir hynny.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: O FLAEN DY LYGAID: Ydw i'n Gelt?

Postiogan Macsen » Iau 08 Mai 2008 6:55 pm

Pa mor fanwl ydi'r profion 'ma te? Sut mae nhw'n gwybod bod rhai genynau yn rai celtaidd? Er nad ydw i'n meddwl bod geneteg rywun yn cael ryw lawer o effaith ar eu hunaniaeth (er byddai'n hwyl allfudo Rhys Llwyd i Ffrainc), mae'n ddiddorol gwybod o ba ran o'r byd y daeth eich cyndeidiau. Ond sa fo bach yn siomedig ffeindio dy fod ti'n 100% Cymro abod dy deulu 'di bod yn eistedd ar eu tinnau yn yr un lle am 5,000 o flynyddodd. ;)
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6192
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: O FLAEN DY LYGAID: Ydw i'n Gelt?

Postiogan Prysor » Iau 08 Mai 2008 7:58 pm

Macsen a ddywedodd:Ond sa fo bach yn siomedig ffeindio dy fod ti'n 100% Cymro abod dy deulu 'di bod yn eistedd ar eu tinnau yn yr un lle am 5,000 o flynyddodd.


Wel... mae fy "nheulu" i wedi bod yn 'eistedd ar eu tinau' yn yr un llefydd ers tipyn go lew mwy na 5,000 o flynyddoedd... :winc:

Mae'r Y-chromozome, yn y dyn, yn cael ei basio i lawr y llinell gwrwyaidd heb newid o genhedlaeth i genhedlaeth. Nid yw hwn yn bodoli yn y fenyw.

Mae'n amhosib ffendio allan os ti'n 100% Cymro, wrth reswm, gan fod y test hwn yn methu darganfod dy linach benywaidd (llinell dy fam), heb son am bob llinell gwrwyaidd posib. Mae modd, fodd bynnag, darganfod 'markers' tras/hil arall ar y cromosom, ond mae'n rhaid i hwnnw ddigwydd ar linell gwrywaidd di-dor, neu fenywaidd di-dor.

e.e. - i ddarganfod markers sipsiwn teulu fy nhad, byddai rhaid cael DNA o linach benywaidd di-dor o'i hen nain (gan mai hi oedd y sipsi). H.y. - DNA o gyfyrther i mi sydd yn ferch i gnither fy nhad sydd yn ferch i'w fodryb sydd yn ferch i'w nain sydd yn ferch i'w hen nain.

e.e. - i ddarganfod markers sipsiwn fy mam, byddai rhaid cael DNA o linach gwrywaidd di-dor o'i thaid. h.y. - DNA o fab i - neu fab i fab i - ewythr fy mam (brawd fy nain).

Dw i ddim am ddatgelu gormod ar y funud, ond byddaf yn hapus i rannu'r manylion efo chdi ar ôl y rhaglen. Ond mi ddatgelai amball snippet. :winc:

Trwy'r Y-Chromozome gellir darganfod i ba haplogrwp mae rhywun yn perthyn, pa genhedloedd sydd â'r mwyaf o'r haplogrwp hwnnw, pa wledydd ac ardaloedd mae o'n fwyaf concentrated, pryd y mutatiodd y genenyn hiwman i'r haplogrwp yma, a be oedd yn unigryw am y grwp, a'i hanes. Mae nhw hefyd yn gallu deud pa gyfenwau sydd yn matshio fy DNA, a gallaf ddatgelu fod y canlynol ymysg rheinni - Jones, Roberts, Logan, Goddard a Gimenez.

Ond - be sy'n fwy difyr o beth uffarn efo'r Y-Chromozome, ydi'r ffaith eu bod yn gallu darganfod fy YSTR Profile, sef fy mhroffeil llinell wrywaidd personol i. Efo hwnnw, wedyn, mae nhw'n gallu ei fatshio efo proffilau YSTR sydd eisoes ar y bas data DNA rhyngwladol. Mae rhai o'r ffigurau hanesyddol amlwg sydd ar y bas data yn mynd yn ôl ymhell tros fil o flynyddoedd. Sut? Wel, mae teuluoedd amlwg wedi cyfrannu eu DNA i'r bas data rhyngwladol - teuluoedd sydd wedi cadw eu hachau yn ofalus dros ganrifoedd maith. Hen fonedd Cymreig (fel, dyweder, teulu Portmeirion), aristos Lloegr, a clans yr Alban.

Gallaf ddatgelu fod fy YSTR proffeil yn digwydd mewn chwe gwlad, yn cynnwys yr Almaen, yr UDA a Sbaen. Mae cymaint, cymaint yn fwy yr hoffwn ei ddatgelu, ond dydw i ddim isio sbwylio rhediad y rhaglen i neb, achos mae o'n uffernol o ddifyr. Gallaf ddatgelu, fodd bynnag, fod y canfyddiad yn eitha syfrdannol, a'i fod yn matsh perffaith i berson hanesyddol (h.y. dwi'n disgynnydd uniongyrchol iddo).

Dwi wedi cuddio llawer o ffeithiau eraill uchod, ac wedi cynnwys rhai a all - er yn wir - dy arwain ar ôl sgwarnogod. Felly waeth i ti heb a thrio dadansoddi'n gywir, achos wneid di byth! :P :D :winc:

Mae'n rhaglen gwerth ei gwylio am hynny, heb son am y lleoliadau a'r sgyrsiau, y sowndtrac difyr, ac wrth gwrs, teithiau personol difyr Catrin a minnau. Edrych mlaen i chi gyd weld. :D
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: O FLAEN DY LYGAID: Ydw i'n Gelt?

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Iau 08 Mai 2008 8:15 pm

Cywirwch fi os dwi'n anghywir, ond parthed cyfansoddiad (os mai dyna ydio?) Gorllewin yr Almaen wedi'r rhyfel (a'r cyfansoddiad i'r Almaen unedig??):
yn son am waed Almaenig...
Hyd yn oed os ydi e.e. Twrc wedi ei eni a'i fagu yn Yr Almaen ac yn siarad Almaeneg perffaith a.y.y.b. yna Twrc oedd o, Twrc ydio a Twrc fydd o yng ngolwg y rhan fwyaf o Almaenwyr.
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Nesaf

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai