O FLAEN DY LYGAID: Ydw i'n Gelt?

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: O FLAEN DY LYGAID: Ydw i'n Gelt?

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 08 Mai 2008 8:50 pm

Prysor a ddywedodd:A gyda llaw - mae'r gair "gwybod" yn y dyfyniad gennyt uchod, yn arwyddocaol iawn - ti'm yn meddwl? Achos dwyt ti ddim i weld yn gwybod mai o safbwynt hanesyddol a fy niddordeb penodol yn y meysydd hunaniaeth, diwylliant poblogaidd a Cheltigrwydd, y cytunais i wneud y rhaglen, nac ychwaith yn gwybod mai o'r safbwynt hynny, yn hollol, y mae'r rhaglen - a'i chynhyrchydd didwyll - yn dod.


roedd y 'gwybod' ddim yn cyfeirio at eich cymhelliad i gymryd rhan yn y rhaglen ond yn hytrach roedd y 'gwybod' yn golygu mod i'n 'gwybod' nad oedde ti na Catrin yn hilgwn hunaniaeth gwaed a geneteg. Camddealltwriaeth - yn disgwyl mlaen i weld y rhaglen 8)
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: O FLAEN DY LYGAID: Ydw i'n Gelt?

Postiogan Macsen » Iau 08 Mai 2008 9:07 pm

Prysor a ddywedodd:Gallaf ddatgelu, fodd bynnag, fod y canfyddiad yn eitha syfrdannol, a'i fod yn matsh perffaith i berson hanesyddol (h.y. dwi'n disgynnydd uniongyrchol iddo).


Ydi Prys yn gallu martsio ar Lundain i gipio'r goron???


Fyddwn i ddim yn cynhyrfu gymaint a hynny. Oherwydd mai bach oedd poblogaeth y byd ond ychydig gannoedd o flynyddoedd yn ol i'w gymharu a heddiw, mae'n anoddach peidio bo yn rhan o ryw deulu brenhinol nag ydyw i fod. Ond arise Sir Dewi of Prysor serch hynny.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: O FLAEN DY LYGAID: Ydw i'n Gelt?

Postiogan Prysor » Iau 08 Mai 2008 9:19 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:
Prysor a ddywedodd:A gyda llaw - mae'r gair "gwybod" yn y dyfyniad gennyt uchod, yn arwyddocaol iawn - ti'm yn meddwl? Achos dwyt ti ddim i weld yn gwybod mai o safbwynt hanesyddol a fy niddordeb penodol yn y meysydd hunaniaeth, diwylliant poblogaidd a Cheltigrwydd, y cytunais i wneud y rhaglen, nac ychwaith yn gwybod mai o'r safbwynt hynny, yn hollol, y mae'r rhaglen - a'i chynhyrchydd didwyll - yn dod.


roedd y 'gwybod' ddim yn cyfeirio at eich cymhelliad i gymryd rhan yn y rhaglen ond yn hytrach roedd y 'gwybod' yn golygu mod i'n 'gwybod' nad oedde ti na Catrin yn hilgwn hunaniaeth gwaed a geneteg. Camddealltwriaeth - yn disgwyl mlaen i weld y rhaglen 8)


dim probs Rhys, maddeua'r ymateb 'llawdrwm' - dwi'n mwynhau ymrysona rhethregol! :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: O FLAEN DY LYGAID: Ydw i'n Gelt?

Postiogan Macsen » Iau 08 Mai 2008 9:23 pm

Prysor a ddywedodd:dim probs Rhys, maddeua'r ymateb 'llawdrwm' - dwi'n mwynhau ymrysona rhethregol! :winc:

Plato?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: O FLAEN DY LYGAID: Ydw i'n Gelt?

Postiogan Prysor » Iau 08 Mai 2008 9:25 pm

Macsen a ddywedodd:
Prysor a ddywedodd:Gallaf ddatgelu, fodd bynnag, fod y canfyddiad yn eitha syfrdannol, a'i fod yn matsh perffaith i berson hanesyddol (h.y. dwi'n disgynnydd uniongyrchol iddo).


Ydi Prys yn gallu martsio ar Lundain i gipio'r goron???


Fyddwn i ddim yn cynhyrfu gymaint a hynny. Oherwydd mai bach oedd poblogaeth y byd ond ychydig gannoedd o flynyddoedd yn ol i'w gymharu a heddiw, mae'n anoddach peidio bo yn rhan o ryw deulu brenhinol nag ydyw i fod. Ond arise Sir Dewi of Prysor serch hynny.


Ha-haargh!

Fel ddwedais i, tra dwi heb ddeud unrhyw beth sy'n anwir, mae ambell sgwarnog yn hongian ar gyrion fy nghyfraniadau, yn aros i gael ei hymlid..... :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: O FLAEN DY LYGAID: Ydw i'n Gelt?

Postiogan Prysor » Iau 08 Mai 2008 9:30 pm

Macsen a ddywedodd:
Prysor a ddywedodd:dim probs Rhys, maddeua'r ymateb 'llawdrwm' - dwi'n mwynhau ymrysona rhethregol! :winc:

Plato?


hi-hiiii!

Mae ffrind i fi wedi agor llyfr, ac yn ôl y bets sydd wedi ei roi, dyma'r odds (ymysg eraill) -
9/2 Vlad the Impailer
7/3 Buzz Aldrin
3/2 Gengis Khan
1/2 Dolly'r Ddafad

:ofn:
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: O FLAEN DY LYGAID: Ydw i'n Gelt?

Postiogan Dyl mei » Iau 08 Mai 2008 10:22 pm

Shwr Na Celt dio prys? y llythyren gyntaf ac ola yn iawn anyway :), dwin edrych mlaen i weld y rhaglen ma,
nes i drio gofyn i dy wraig am y results ond odd hin deud ti cau hydynoed deud i hi!!! stinge!!

dion wir bod tin fyw ers 600 mlynedd ac yn byw ar mwsog?
Rhithffurf defnyddiwr
Dyl mei
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1068
Ymunwyd: Maw 07 Ion 2003 7:01 pm

Re: O FLAEN DY LYGAID: Ydw i'n Gelt?

Postiogan Prysor » Iau 08 Mai 2008 10:35 pm

Dyl mei a ddywedodd:Shwr Na Celt dio prys? y llythyren gyntaf ac ola yn iawn anyway :), dwin edrych mlaen i weld y rhaglen ma,
nes i drio gofyn i dy wraig am y results ond odd hin deud ti cau hydynoed deud i hi!!! stinge!!

dion wir bod tin fyw ers 600 mlynedd ac yn byw ar mwsog?


Dwi'n byw o dan mwsog yndw, ond ers lot mwy na 600 mlynadd. Dyna lle nes i gwrdd a dy fam siwr dduw! Pam ti'n meddwl ges di opyreshiyn i dorri pedair coes i ffwrdd pan o ti'n fach?

(ffyc, paid a deud wrthi bo fi di deud hynna!) :ofn:
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: O FLAEN DY LYGAID: Ydw i'n Gelt?

Postiogan Rhys Llwyd » Gwe 09 Mai 2008 9:36 am

Dyma fy achau i (wel un cangen) - yr hyn sy'n ddiddorol ac yn berthnasol i'r edefyn yma yw'r modd y trodd y teulu yn "Saeson" gan gwpwl o ganrifoedd rhwng 1353 a'r Ail Ryfel byd pan priododd fy Nhaid lodes dlos o Benrhyndeudraeth. Hynny yw amodau cymdeithasol a diwyllianol a'i trodd yn Saeson rhwng 1343 a 1945 nid lliw eu gwaed.

achau_rhys.jpg
achau_rhys.jpg (73.65 KiB) Dangoswyd 2350 o weithiau
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: O FLAEN DY LYGAID: Ydw i'n Gelt?

Postiogan Gowpi » Gwe 09 Mai 2008 12:02 pm

Os hynny Rhys - rydym yn perthyn gan mod inne'n ddisgynydd i Rhodri Fawr a'r Arglwydd Rhys... hefyd yn ddisgynydd i Llywelyn Fawr, so dder :winc:

Difyr iawn Prysor - wy'n perthyn i tithe, felly byddaf a diddordeb mawr i weld dy achau...
I'r rheiny nad sy'n credu bod y pethe bach yn neud gwa'niaeth, triwch rannu stafell gyda mosgito.
Rhithffurf defnyddiwr
Gowpi
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 580
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 12:51 pm
Lleoliad: cadw cwmni cwn annwn

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron