Wel, dw i methu olrhain fy achau nol i Iesu a Duw.
Macsen
|
Duw
|
Iesu
Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist
iwmorg a ddywedodd:Mae rhywun wedi gwneud coeden deulu i ni hefyd - mynd yn ôl i Rhodri Fawr yn ôl y son drwy'r teulu Cadwaladr. Fodd bynnag, mae gan bawb dwi wedi siarad â nhw am goeden deulu sy'n byw yng Ngogledd Meirion/Dwyrain Dwyfor rhyw gysylltiad hefo'r Cadwaladrs / Rhodri Mawr, felly tydwi 'rioed wedi meddwl fod fawr o hygrededd iddi.
Roedd y profion DNA a wnaed yn agoriad llygaid fodd bynnag, ac roedd medru dweud mor gywir ble 'roedd cysylltiadau daearyddol/teuluol yn bodoli yn siŵr o fod yn brofiad gwych i'r ddau, beth bynnag fo'r canlyniad.
Ble mae cael un o'r profion DNA ma dudwch........
Macsen a ddywedodd:Wel, dw i methu olrhain fy achau nol i Iesu a Duw.
Macsen
|
Duw
|
Iesu
khmer hun a ddywedodd:Macsen a ddywedodd:Y peryg gyda hyn ydi bod pobol enwog, yn enwedig brenhinoedd a ballu, yn awyddus iawn i gysylltu eu hunain gyda pobol pwerus eraill heb fod sail i hynny. Er engraifft roedd nifer o frenhinoedd yn yr Oesoedd Canol gyda coeden deuluol yn mynd nol at y Brenin Dafydd - nid o reidrwydd am eu bod nhw'n perthyn iddo ond oherwydd bod hynny'n rhoi ryw fath o sel bendith duw ar eu brenhindod.
Roedd Twm Sion Cati (a oedd yn un am dwyllo lladron a phobol ariannog), sef Thomas Jones o Dregaron, yn cael ei dalu i hel achau pobol ac yn olrhain hanes teuluoedd pendefigion Dyfed. Byddai pobol cyfoethog a oedd eisie statws uwch yn eu hardal yn gofyn i Twm weud eu bod yn perthyn i ryw ddug, neu dywysog. Felly pa mor ddibynadwy yw'r holl hen lawysgrifau achau yma?
Hen Rech Flin a ddywedodd:Macsen a ddywedodd:Wel, dw i methu olrhain fy achau nol i Iesu a Duw.
Macsen
|
Duw
|
Iesu
Rhyfedd iawn!
Onid mab Duw yw'r Iesu?
Yn ol dy ach di mab Iesu yw Duw.
Rhaid i bob achydd da gwirio ei ffynonellau
Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai