benni hyll a ddywedodd:Be sydd mor wahanol am gael sylwebaeth Saesneg wrth bwyso botwm ar dy remote a phwyso botwm i gael is-deitlau Saesneg?
Mae'r gwahaniaeth yn un pwysig. Mae hyn yn syniad braidd yn chwethinllyd gan S4C. Os ydi rhywun yn gwylio Pobol y Cwm hefo isdeitlau yna o leia maent yn CLYWED yr iaith. Ni fydd pobl sy'n defnyddio y botwm coch yn clywed yr iaith!
Llwyth o raglenni o safon rhyngwladol hefo llwyth o ddychymyg ac isdeitlau- iawn. Gwych. Syniad gwych. Ennill mwy o ffrindiau i'r Gymraeg.
Gyda llaw, sgin i ddim byd yn erbyn mymryn o Saesneg (dim gormod chwaith) ar ambell i raglen. Byw yn y byd go iawn...
Fel rhywun sydd eisiau gweld yr iaith yn ffynnu a normaleiddio, dwi yn erbyn y cam gwirion yma gan S4C. Enghriafft o normaleiddo- gem fawr ar y bocs mewn ty tafarn- sylwebaeth yn y Gymraeg- tydi hyn ddim yn rhywbeth 'normal' hyd yn oed yn rhai o bentrefi Cymreicia Cymru! Mae ychwanegu'r opsiwn yma jesd yn gwneud un o ieithoedd mwya pwerus y byd mor handi yng Nghymru. Saesneg yn iaith brydferth, ond....
S4C- os ydych yn poeni am nifer y gwylwyr yna poenwch am air allweddol, sef SAFON!
Duwcs, be di hanes Cylch yr Iaith y dyddiau yma?