Wel, sdim clem gen i deud y gwir gan mod i heb ei gweld eto. Dwi wedi clywed adolygiadau da, ond mae'n annodd mynd ar hynny dydi. Dwi'n ddigon chwilfrydig i'w gweld hi beth bynnag.
Os ti'n ffan o Ryan a Ronnie, yna 'swn i'n mynd, jest am y gerddoraiaeth, gan taw mab Ryan sydd wedi eu canu. Fel arall, mae hi'n argoeli i fod yn ffilm lawer mwy sinematig ei sgop na'r dramau Boom Films sydd wedi bod ar y teledu, a dwi'n siwr bydd Rhys Powys (Con Passionate) wedi ei thrin â gofal. Allai ddim deud mwy na hynny sori.