Pwy welodd hwn ar BBC 2 neithiwr? Roedd o'n anhygoel o dda hefo perfformiadau cwbl wych gan james nesbitt a liam neeson yn actio protestant a phabydd yn trio dod i delerau hefo gweithred dreisiol a newidiodd fywydau'r ddau ohonyn nhw yng Ngogledd Iwerddon 30 mlynedd ynghynt. Cafodd y ffilm ei gyfarwyddo gan y boi wnaeth gyfarwyddo "Downfall"( hanes dyddiau olaf Hitler ) , wedyn mi ron i'n gwybod y byddai'n safonol iawn, ac felly y buodd hi- roedd o'n un o'r pethau gorau dwi wedi'i weld ar y bocs ers stalwm a dweud y gwir.
Thema'r ffilm oedd Gwirionedd a Chymod a sail y stori oedd ymdrechion cwmni teledu i drefnu cyfarfod rhwng y ddau ohonyn nhw( y llofrudd, a'r person a fu'n lygad-dyst i lofruddiaeth ei frawd) fel rhan o'r broses hon. Roedd cymeriad Liam Nesson bellach wedi cefnu ar drais ac yn teithio'r byd yn ceisio hyrwyddo cymod rhwng grwpiau gwahanol, ond eto'n cael ei lethu'n ddyddiol gan yr atgof ohono yn 17 oed, yn edrych i fyw llygad plentyn bach oedd newydd ei weld o yn llofruddio mewn gwaed oer 30 mlynedd yn ol. Roedd y plentyn bach hwnnw, cymeriad James Nesbitt , wedi gweld chwalfa deuluol enbyd yn sgil y lladd a hynny wedi gadael creithiau seicolegol mawr arno ynghyg ag awydd ysol am ddialedd( a chael ei "five minutes of heaven").
Dangoswyd yn gelfydd iawn mai proses sy'n cael ei arwain gan wleidyddion ydi Gwirionedd a Chymod fel arfer a'u llawforwynion cyfryngol yn eu tro yn ceisio troi hynny i'w melin eu hunain, a'i gyflwyno ar ffurf teledu realaeth cyfoes cwbl anaddas. Cryfder y ffilm oedd dangos mai rhywbeth preifat rhwng unigolion ydi gwirionedd a chymod, nid rhywbeth sy'n gallu cael ei yrru a'i reoli gan wleidyddion a'r cyfryngau a'i becynnu mewn ffordd daclus ac anodyne i bobl.
Nid mewn gwesty crand o flaen y camerau teledu y daeth gwirionedd a chymod yn yr achos hwn, ond ar ffurf cwffas ffyrnig yng nghanol budreddi, llwch, gwaed a gwydr a hynny yn yr hen dy lle ddigwyddodd y llofruddiaeth wreiddiol. Roedd yr ymladdfa hon yn gwbl realistig ac yn fynegiant o rwystredigaeth corfforol yr oedd y naill a'r llall wedi'i brofi am flynyddoedd mawr. Dim ond ar ol y ffyrnigrwydd hwn a'r ymryddhad hwn yr oedd modd i'r ddau unigolyn dan sylw i adael y gorffennol i fod a symud ymlaen hefo'u bywydau. Nid geiriau mwys oedd yr ateb i broblem y naill a'r llall ond mynegiant corfforol real . Roedd hon yn ffilm fawr yn delio hefo natur y cof, dialedd, bwganod personol, newid personol a chymdeithasol, a pheryglon rhamantu trais ymhlith pobl ifanc ar eu prifiant. Ac mi roedd hi'n ffilm berthnasol iawn hefyd o gofio mai 17 ydi oed y llanc sydd wedi'i gyhuddo o ladd plismon yng ngogledd iwerddon yn ddiweddar.