Chickenfoot a ddywedodd:O wel, dw i yn offensive os wyt ti'n offended. Digon teg...
Un peth: dw i'm yn ymosod ar virgins yn fan hyn nac yn y byd go iawn (mae nhw'n sgrechian gormod, am un peth). Dw i'n dweud nad ydi hanes y ddynes yma ddim yn bwysig o gwbl. Dim ond ei llais sydd, rili, ond mae Cowell isio i bawb teimlo drosti er mwyn iddo fo gwneud miliynau. Dyma'r foi wnath "Slam Jam" gan y WWF Superstars a chan 'Dolig Mr Blobby - dydi o ddim jest yn poeni am wneud "sioeau gwych", fel dywedodd o ar y papur.
Dw i yn hoffi'r syniad o Britain's Got Talent, ond mae nifer o broblemau e.e. Amanda Holden, yr un fath o acts bob blwyddyn, sob stories, cerddoriaeth yn cael ei defnyddio i adael i bobl gwybod pryd gawn nhw crio ayyb. Beth am gael mwy o Ant & Dec, a gadael i Piers Morgan actio fel mwy o goc oen?
Os wyt ti'n disgwyl i bawb dweud "o mae'r sioe yma'n wych" ad nauseum, wel digon teg - ond mae ychydig o feirniadaeth yn iawn, tydi?
Wir iti - oes 'da fi ddim 'mynadd.
Yng ngeiriau Mr Homer Simpson:
Kid, you tried your best and you failed miserably. The lesson is never try"