Dw i'n eithaf hoff o'r ddrama cylt Ghostwatch, cafodd ei darlledu ar Noson Calan Gaeaf 1992. Y dihiryn yn stori'r Cymro Stephen Volk yw ysbryd o'r enw "Mr Pipes", sydd yn gwneud bywydau teulu o Lundain yn uffer. Un o'r nodweddion sydd yn gwneud Mr Pipes mor diddorol fel cymeriad yw nad ydi o'n ymddangos yn aml iawn, ac felly mae'r dychymyg yn gwneud rhan o swydd y tim cynhyrchu iddyn nhw. Hefyd, mae cefndir Pipes yn ei wneud yn fwy "real", ac yn fwy creepy o ganlyniad.
Dw i'n eitha siwr nad oeddwn i'n gallu cysgu'r nos Sadwrn cafodd Ghostwatch ei darlledu. yn wir, oherwydd ffolineb y cyhoedd Prydeinig, dydi'r sioe wych yma byth wedi cael ei ail-darlledu. I ddweud y gwir, ar ol gwylio'r fideos isod eto, dw i am gau'r cyrtans ychydig bach