Erthygl dda a diddorol tu hwnt, Gog - a dwi'n tueddu i gytuno efo chdi efo lot o'r petha ti'n ddeud, ond fel dwi'n meddwl gath 'i drafod yn edefyn gynta'r Pris, dwim yn llwyr ochri 'fo chdi fo'r honiad o
ShitClic a ddywedodd:Dyw’r syniad o gangstyrs y gorllewin gwyllt ddim yn gweithio nac yn gredadwy yn y Gymraeg
Yn sicr 'di ddim yn bell ffor' yn gredadwy - sa'r fath beth ddim yn cael digwydd yn ein Cymru fach ni na fydd
, ond dwi yn tueddu 'i weld 'i fod o'n gweithio, serch hynny. Dwi'm yn dalld chwaith pam na ddyla fo weithio'n y Gymraeg dros iaith arall, ond yn sicr dwi'n 'i weld o'n afaelgar a
fast-paced ar adega (rhaid deud, ma sawl munud yn pasio jysd yn gneud pans a zooms ar wyneba'r cymeriada o bryd i'w gilydd), a dwin meddwl mai dyma'r math o ddrama 'ma S4C 'i angan - drama dywyll, a efo'r hiwmor tywyll 'na fel nes 'di grybwyll. Ella bod o'n or-
gory ar adega - fel 'sgwennest ti - e.e. Gareth Pierce yn saethu bachgen yn 'i law (edrych fel 'i ben), a gwaed yn sbaltro dros y walia, a wedyn Matthew Gravelle yn dyrnu cariad Rhodri Meilir yn ddi-drugaredd, a'r camera yn sdyc ar hynna am tua hanner munud mwy ne' lai. Iawn ar adega - ond dwin meddwl bod na linell rwla, ac ma'r Pris yn agos at y linell 'na weithia. Ond eto, ella dyna sy'n dda amdani, bod hi'n gwthio'r linell yna ac yn risgi.
Dwi'm yn meddwl bod na gymaint o thema o'r gwrthdaro rhwng gangia gwahnol yn yr ail gyfres ma chwaith, ond lot mwy am y rhwygiada o fewn y Frawdoliaeth a phoenau perthynas. Efalla bod hyn yn syniad da, dwnim. Ond ar y cyfa, dwi'n mwynhau'r gyfres newydd ma - digon o actio da (rhai yn gryfach na'u gilydd), a hefyd ma'n rhaid crybwyll safon y cerddoriaeth gefndir ar y rhaglen fyd - John Hardy dwin meddwl - gwych.