Mae'r concise American history yn glasur!
Roedd hwnna'n wych!
Dwi'n meddwl fod rhaid i fi anghytuno efo chdi Rhodri yngly^n â effaith y cyfryngau ar y gyfradd o farwolaethau saethu. Mae'r ffordd mae'r byd yn cael ei gyfleu i ni ar y newyddion yn effeithio ar ein canfyddiad ni o sut le ydi'r byd go-iawn. Os mai oll wyt ti'n gweld ar y newyddion ydi pobl dreisgar yn gwneud drygau yna mi all o liwio dy farn di o'r gymdeithas wyt ti'n byw ynddo fo i'r fath raddau nes dy fod ti'n or-barod i a) gario gwn a b) saethu rhywun yn farw os wyt ti'n teimlo ychydig bach dan fygythiad. Y gwir amdani ydi mai'r eithriad (ac nid y rheol) ydi'r hyn sy'n cael ei ddangos ar y newyddion. Mae'r newydion, jyst fel rhaglenni eraill, yn gorfod cynnal y ffigyrau gwylio (ru'n peth ddwedodd cyfarwyddwr COPS), felly mae o fudd i'r newyddion ddangos y straeon mwy eithafol yn hytrach na'r digwyddiadau diflas arferol. Dwedodd rhywun wrtha i fod Heddlu Dyfed Powys wedi gorfod gweithredu ymgyrch o fynd o amgylch tai'r henoed yng nghefn gwlad Cymru i'w darbwyllo nhw eu
bod nhw'n saff, cymaint oedd eu hofn. Sawl aelod o'r henoed cafodd eu llofruddio flwyddyn diwethaf yn ardal Dyfed Powys? Dim un.
Newyddion 6 neithiwr: 'So, are the streets of Britain getting more and more dangerous?'
Hmm...
Gruff